Skip to Main Content
monmouthshire food partnership

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gydweithrediad ledled y sir o bobl a sefydliadau o bob cefndir sy’n credu bod bwyd yn werth ei gymryd o ddifrif.  Rydym yn rhan o rwydwaith o Bartneriaethau Bwyd ledled y DU sydd oll yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo bwyd da a chreu systemau bwyd lleol cynaliadwy y gall pawb eu cyrchu a’u mwynhau.

Rydym yn gweithio i’r fframwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n ymdrin â chwe mater allweddol:

  • Llywodraethu a Strategaeth
  • Bwyd Iach i Bawb
  • Bwyd i’r Blaned
  • Mudiad Bwyd Da
  • Economi Bwyd Cynaliadwy
  • Arlwyo a Chaffael

Rydym mor ffodus i fod yn gweithio yn Sir Fynwy.  Sir wledig yw ein sir ni, sy’n cynhyrchu llawer o fwyd (ac a allai gynhyrchu hyd yn oed mwy), ac mae rhai o’n penderfynwyr lleol a rhanbarthol allweddol wedi rhoi’r amgylchedd naturiol a chyfiawnder cymdeithasol ar frig eu hagendâu, ac wedi cydnabod bod bwyd da yn ganolog i gyflawni eu huchelgeisiau.

Beth yw’r system fwyd?

Mae’r system fwyd wedi’i disgrifio fel popeth sy’n digwydd o’r fferm i’r fforc, o’r padog i’r plât ac o’r pridd i’r stumog fel y gallwn ni i gyd fwyta bob dydd. Felly mae’n ymwneud â ffermio, prosesu a gweithgynhyrchu bwyd, trafnidiaeth a logisteg, manwerthu a marchnata, bwyta a choginio, a delio â gwastraff ac ailgylchu. Mae’r system fwyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth ac iechyd pobl mewn ffyrdd mawr iawn.  Mae’n fusnes i bawb ac mae angen i ni i gyd gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwn.

Yr hyn yr ydym yn gwneud

Trwy ei Grŵp Llywio a’i rwydwaith eang o aelodau a chefnogwyr, nod Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yw:

• Cysylltu pobl, prosiectau a phartneriaid sy’n ceisio creu system fwyd leol gynaliadwy.

• Cymryd camau ar y cyd i lunio’r system fwyd leol.

• Bod yn llais cyfunol ar gyfer bwyd sy’n ffurfio polisi’n gadarnhaol ac sy’n rhannu arfer gorau.

Mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal prosiectau, yn ceisio ac yn dosbarthu cyllid, yn cysylltu pobl gyda’i gilydd, ac yn cynghori ac yn cefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella ein system fwyd i ledaenu llawenydd a chariad am fwyd da.

Ar lefel polisi a strategaeth, mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn bartner cyflawni strategol ar gyfer Amcanion Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, a chyfeirir atom yng Nghynllun Cymunedol a Chorfforaethol Cyngor Sir Fynwy. Gan adlewyrchu ein lleoliad daearyddol, rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau bwyd trawsffiniol i ategu gweithgareddau’r Bartneriaeth Ymlaen y Gororau, sy’n dod i’r amlwg.

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn ddiolchgar o gael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Beth yw Partneriaeth Bwyd Lleol?

Strategaeth Fwyd Leol Cyngor Sir Fynwy 2024 > Darllen (PDF)

Pobl yng Nghyngor Sir Fynwy

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn cael ei lletya gan Gyngor Sir Fynwy a’i chydlynu gan y Tîm Bwyd Cynaliadwy.

Marianne Elliott

Rheolwr Prosiectau Bwyd Cynaliadwy

Elaine Blanchard

Swyddog Ymgysylltu â Bwyd Cynaliadwy

sian kidd

Sian Kidd

Swyddog Ymgysylltu Diogelwch Bwyd

Ewch i ymweld â’r wefan www.foodmonmouthshire.co.uk/cy

Newyddion a Digwyddiadau


Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru

Strategaeth Bwyd Cymunedol
Cymru i chi, hymrwymiad i annog cynhyrchu a chyflenwi
bwyd lleol yng Nghymr.

Darllen mwy >

Dathliad Gwanwyn: Marchnad Naid

Roedd y farchnad naid yn gynllun llwyddiannus ar y cyd rhwng Cyngor Tref y Fenni…

Darllen mwy >

Dathliad Gwanwyn: Marchnad Naid

Roedd y farchnad naid yn gynllun llwyddiannus ar y cyd rhwng Cyngor Tref y Fenni, Partneriaeth Fwyd Sir Fynwy, Cyngor Sir Fynwy a Gŵyl Fwyd y Fenni.

Darllen mwy >

Datganiad i’r Wasg: Chwedlau Bwyd | Food Stories:

Rysáit ar gyfer llwyddiant mewn addysg bwyd ysgol

Darllen mwy >

Grantiau ar gael ar gyfer prosiectau bwyd cymunedol

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion paramaeth ar raddfa fferm yn gyntaf…

Darllen mwy >

Dathlu cynnyrch lleol yn Ffair Fwyd y Gwanwyn yn y Fenni

Cynhaliwyd y digwyddiad cyfeillgar i’r teulu ar safle hanesyddol Priordy Santes Fair a’r Ysgubor Degwm ddydd Sadwrn 9 Mawrth,

Darllen mwy >

Mae FFAIR FWYD Y GWANWYN newydd sbon yn dod i’r Fenni a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!

Darllen mwy >

Grantiau Bach Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy: Thyfu Cymunedol

Grantiau Bach Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy: Thyfu Cymunedol – Monmouthshire

Cydgyfeiriant Bwyd Go Iawn a Ffermio’r Gororau

Dydd Gwener 3ydd a Dydd Sadwrn 4ydd Hydref 2025. Yn Square Farm, Trefynwy

Darllen mwy >

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru ….

Darllen mwy >

Prosiect Mentora Amaethyddiaeth Adfywiol

Mae partneriaeth Bwyd Sir Fynwy wedi bod yn cefnogi prosiect lleol sy’n cael ei redeg gan GAH (Gweithredu ar Argyfwng Hinsawdd) Trefynwy.

Darllen mwy >

Prosiect Mentora Amaethyddiaeth Adfywiol

Mae partneriaeth Bwyd Sir Fynwy wedi bod yn cefnogi prosiect lleol sy’n cael ei redeg gan GAH (Gweithredu ar Argyfwng Hinsawdd) Trefynwy.

Darllen mwy >

Curo’r felan ym mis Ionawr yn Sir Fynwy gyda chitiau prydau cyri 

Mae Sir Fynwy yn mynd i’r afael â’r felan ym mis Ionawr drwy ddosbarthu 120 o becynnau bwyd ‘Sunshine Curry’ i bum lleoliad sy’n cefnogi darpariaethau bwyd ar draws y Sir.

Darllen mwy >

Paramaeth ar Raddfa Fferm

Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion paramaeth ar raddfa fferm yn gyntaf,

Darllen mwy >

Have your say

Mae Cyngor Sir Fynwy yn eich  gwahodd o rannu eich barn ar ein Strategaeth Fwyd Leol.

Darllen mwy >

Disgyblion Sir Fynwy yn cael profiad ymarferol ar Fferm Langtons

Disgyblion Sir Fynwy yn cael profiad ymarferol ar Fferm Langtons >