Skip to Main Content

Cafodd preswylwyr y Fenni a thu hwnt flas o rywbeth newydd wrth i’r dref gynnal Ffair Fwyd y Gwanwyn newydd sbon.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyfeillgar i’r teulu ar safle hanesyddol Priordy Santes Fair a’r Ysgubor Degwm ddydd Sadwrn 9 Mawrth, gan roi cyfle i’r sawl oedd yn mynychu i ymchwilio’r cynnyrch ffres gorau a danteithion artisan o Sir Fynwy a’r cylch.

Rhoddodd y Ffair sylw i fusnesau a chynhyrchwyr lleol i roi ymwelwyr yn ôl mewn cysylltiad â chynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ein tirlun arbennig.

Roedd Ffair Fwyd y Gwanwyn yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn dathlu blasau’r tymor – gydag ymwelwyr yn cwrdd â thyfwyr a chynhyrchwyr lleol a blasu cynnyrch.

Yn ogystal â siopa am fwydydd craidd tymhorol a chofrestru ar gyfer cynlluniau blwch arloesol, cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw, sgyrsiau diddorol a gweithgareddau ar gyfer plant.

Roedd y digwyddiad yn gynllun ar y cyd rhwng Gŵyl Fwyd y Fenni a Chyngor Sir Fynwy drwy Raglen Cydnerthedd Bwyd Cronfa Rhannu Ffyniant y DU.

Bu cyfanswm o 25 arddangosydd a gwerthwyr bwyd stryd yn bresennol, yn cynnwys Black Welsh Lamb, gardd farchnad Tir Awen a Monnow Valley Cider.

I rai, hwn oedd y cam nesaf ar daith dros nifer o fisoedd gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy a’r Bartneriaeth Fwyd, gan ddechrau gyda digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ym mis Mawrth 2022 yna’n adeiladu drwy ddigwyddiadau Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy, rhannu gofod masnachu yng Ngŵyl Fwyd y Fenni 2023 ac yn awr i safle iddyn nhw eu hunain yn Ffair Fwyd y Gwanwyn, gan ddangos sut y gall gweithio partneriaeth a chydweithio helpu i ddatblygu’r economi bwyd lleol.

Dywedodd Black Welsh Lamb: “Roeddem yn meddwl fod digwyddiad dydd Sadwrn yn gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau, cymdogion ac ymwelwyr a rhoi cynnig ar rai o’r cynnyrch gwych o ardal y Fenni.

“Cawsom ein synnu gan faint o ddiddordeb a gawsom, y nifer fawr o sgyrsiau gwych a’r cyfle i gyflwyno llawer o bobl i’n cig oen hesbin.”

Dywedodd y Cyng Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae gennym gymuned lewyrchus a chynyddol o dyfwyr a chynhyrchwyr yn Sir Fynwy ac rwy’n falch iawn ein bod yn cael y cyfle i ddod ynghyd i’w hyrwyddo a’u dathlu.

“Holl amcan Gŵyl Fwyd y Gwanwyn yw prynu’n lleol a chefnogi’r gymuned.

“Mae’r Fenni eisoes yn cael ei chysylltu gyda digwyddiadau bwyd bendigedig ac mae’n sicr y bydd hyn yn ychwanegu at y rhestr gynyddol o resymau dros ymweld â Sir Fynwy.”

Gall holl breswylwyr Sir Fynwy helpu i gefnogi ein busnesau ffermio, bwyd a diod lleol. Mae prynu dim ond un peth hyd yn oed gan fusnes lleol bob wythnos yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Rhestr Arddangoswyr

THE QUEEN BEE HONEY CO: Yn gofalu am wenyn yn lleol ledled Torfaen a Sir Fynwy, gan gynhyrchu mêl heb ei basteureiddio, crwybr, canhwyllau cwyr gwenyn, sglein cwyr gwenyn ac amrywiaethau eraill o anrhegion sy’n gysylltiedig â gwenyn.

THE REBEL CRUMBLE: Amrywiaeth o friwsion blasus, gan ddod â chynhesrwydd a chysur i chi. O’r traddodiadol i opsiynau ag alcohol, heb glwten ac mae opsiynau fegan hefyd ar gael. Dewch i fod yn wrthryfelgar!

THE CRAFTY PICKLE CO: Bwydydd wedi’u eplesu sy’n gyfeillgar i’r perfedd, heb eu pasteureiddio â llaw. Yn ceisio lleihau gwastraff bwyd drwy ddefnyddio cymaint â phosibl o gynnyrch cwbl fwytadwy, ond amherffaith neu dros ben, i grefftio sauerkrauts, kimchis a kimchi amrwd, fegan a maethlon yn naturiol. Mae canran o’r holl werthiannau yn mynd tuag at fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd yn y DU.

WENTWOOD’S BISTRO: Yn cynnig Bwyd Môr y Canoldir sydd wedi’i gyflwyno’n dda ac o safon Bistro, gan ymgorffori chwaeth ac arddulliau o’r ‘Med’. Yn newydd i’r diwydiant bwyd stryd ac yn cynnig rhywbeth gwahanol.

LANGTONS FARM: Gardd farchnad organig leol, yn danfon bocsys llysiau i’r Fenni, Crucywel, Aberhonddu a mwy. Dysgwch am eu bocsys bwyd a ffyrdd eraill o gael gafael ar eu llysiau ffres a blasus yma

BROOKE’S  DAIRY: Hufen iâ crefftus o wartheg Jersey pedigri. Blasu cawsiau a chaws.

THE DELL VINEYARD: Wedi’i leoli yn Rhaglan ac yn cael ei redeg gan y teulu Alford. Mae’r cynnyrch yn cynnwys Yr Afanc gyda blasau o flodyn ysgawen a gellyg, Y Gwyllgi – Pinot Noir Gin cyntaf Cymru wedi’i gyd-gynhyrchu â Distyllfa’r Silver Circle ac yn cyfuno croen, mwydion a hadau o wneud gwin â blasau gwyllt botaneg Dyffryn Gwy.

MONNOW VALLEY CIDER: Yn cynnig amrywiaeth o seidr, perai a sudd afal wedi’u tyfu a’u cynhyrchu yn Sir Fynwy.

SOBREMESA DRINKS: Cwrw ffermdy a seidr naturiol sy’n cael ei ddylanwadu gan Terroir. Mae pob seidr wedi’i eplesu’n wyllt, heb sylffitau ychwanegol, heb ei hidlo a heb ei basteureiddio, i annog pobl i yfed a mwynhau’r “Pomona Cymreig”. Un o’r ychydig fragdai presennol sy’n defnyddio brag a hopys Prydeinig yn unig ond sydd hefyd yn ymgorffori grawn hynafol Cymreig (Hen Gymro).

HILLSIDE BEEF AND LAMB: Mae’n ffermio gwartheg a defaid brodorol, ger y Fenni ac yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref ar gyfer eu cig eidion, cig oen a chig dafad wedi’u bwydo a’u pesgi â glaswellt 100%. Siaradwch â nhw i ddarganfod sut mae’r fferm yn cael ei rheoli’n adfywiol, er budd natur, bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn ogystal â chynhyrchu bwyd llawn maetholion.

BLACK WELSH LAMB: Cig oen a chig dafad achrededig sy’n cael ei fwydo gan borfa organig ychydig y tu allan i’r Fenni. Enillodd eu cig oen Tair Seren Aur yn y ‘Great Taste Awards’ gan y Guild of Fine Foods. Maent yn gwerthu i gwsmeriaid preifat a bwytai ac yn cynnig bocsys bach neu fawr o gig oen neu ddarnau unigol. Maen nhw’n cyflwyno cynllun tanysgrifio fel y gall cwsmeriaid dalu am gig oen ymlaen llaw trwy gydol y flwyddyn. Hapus i siarad am eu hagwedd at fagu a chynaliadwyedd.

MONMOUTHSHIRE FAYRE yn eich cysylltu â ffermwyr a chynhyrchwyr lleol i ddod â bwyd lleol i bobl leol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gydag 8 fferm a 13 busnes bach i greu tanysgrifiadau bocs cig, hamperi a phrydau parod. Galwch heibio i roi cynnig ar rai samplau neu drafod cyflenwad ar gyfer eich cartref neu fusnes.

LOWER HOUSE FARM: yn fferm da byw cymysg gyda’r tenantiaid Laura a Matt – maent yn cynnal digwyddiadau fferm agored ac yn gweithio mewn partneriaeth â mentrau lleol eraill i annog mwy o bobl i brynu’n lleol a gwir chwilio o ble y daw eu bwyd. Maent yn defnyddio arferion adfywiol sy’n meithrin priddoedd iach, yn hyrwyddo ecosystemau amrywiol ac yn annog gwytnwch. Maen nhw ar genhadaeth i weld mwy o bobl yn ymweld â’r fferm drwy eu digwyddiadau ac (i lansio’n fuan) siop fferm. Maent yn gwerthu bocsys cig yn uniongyrchol ac yn gyflenwr ar gyfer Ffair Sir Fynwy. Maent yn awyddus i weithio gyda mwy o gynhyrchwyr lleol a fyddai efallai’n hoffi cyflenwi eu siop fferm yn y dyfodol.

THREE POOLS: Fferm leol i’r Fenni yw Three Pools sy’n ymarfer ffermio permaddiwylliant a ffermio adfywiol. Byddant yn dod ag amrywiaeth o gynnyrch a gynhyrchir ar eu fferm – sudd afal, mêl, finegr seidr a chig. Byddant hefyd ar gael i siarad am ddigwyddiadau i’w cynnal ar y fferm yn ystod y gwanwyn a’r haf.

THE PRESERVATION SOCIETY: Mae’r Gymdeithas Cadwraeth yn cynhyrchu jamiau a chyffeithiau sydd wedi ennill sawl gwobr, syrops, siytni a phicls o galon Dyffryn Gwy, ac mae’n cynnal cyrsiau hefyd.

MONMOUTH GIN COMPANY: yn arddangos jins crefft premiwm sydd wedi ennill sawl gwobr y bydd ymwelwyr yn gallu eu blasu. Yn hapus i siarad am eu distyllfa grefftau (sut y dechreuodd y cyfan) a’r prosesau a ddefnyddir i wneud eu jin.

TIR AWEN: Gardd Farchnad Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) sy’n annog pobl i roi cynnig ar focsys llysiau lleol ac sydd ag ymrwymiad i rannu gwybodaeth am werth garddwriaeth ar raddfa fach a phrynu bwyd lleol. Maent hefyd yn gysylltiedig â Bannau Acres, ac felly, gallant rannu gwybodaeth am y rhwydwaith o gyflenwyr llysiau lleol yn yr ardal.

CAERWENT CRAFT CHOCOLATE: Yn cynhyrchu siocled ffa o safon uchel gyda ffa coco o wahanol wledydd tarddiad. Nid oes gan y siocled unrhyw gynhwysion na lliwiau artiffisial ac mae pob cynnyrch siocled tywyll yn Fegan.

BLACK MOUNTAINS PRESERVES: Cyffeithiau wedi’u Gwneud â Llaw sydd wedi ennill gwobrau. Wedi’i wneud gan y dull padell agored traddodiadol yng nghanol y Mynydd Du.