Skip to Main Content

Grantiau bach ar gael nawr er mwyn rhoi hwb i’ch gweithgareddau tyfu bwyd   

Cyllid

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn cynnig grantiau bach hyd at £200 to er mwyn eich helpu chi a’ch cymuned i drefnu gweithgaredd tyfu bwyd dros y gwanwyn. 

Byddem wrth ein bodd yn cefnogi prosiectau sydd yn rhoi mynediad i ffrwyth a llysiau ffres tra hefyd yn cysylltu pobl gydag o ble y daw eu bwyd – mae yna groeso i bob syniad, ac mae’r grantiau yn medru cael eu defnyddio am bob dim, o brynu hadau a chompost neu’r offer sydd angen arnoch.

Yn chwilio am ysbrydoliaeth? Dyma rai esiamplau o’r hyn y mae eraill wedi gwneud gyda’r math yma o gyllid Growing | Food for Life Get Togethers (fflgettogethers.org)

A yw fy mhrosiect yn gymwys?

Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am brosiectau bwyd cymunedol sydd:

  • yn ffocysu ar dyfu bwyd
  • yn meddu ar y potensial i fod yn rhai hirdymor
  • yn cael eu harwain gan y gymuned
  • yn dwyn pobl neu fudiadau ynghyd
  • yn gyfeillgar i’r hinsawdd a byd natur
  • ynannog agwedd bositif at amrywiaeth  

Pwy sy’n medru gwneud cais?

Mae’r grant ar gael i grwpiau a lleoliadau nid er elw. Os ydych am ddechrau tyfu gyda phobl o aelwydydd eraill ond nid oes cyfrif banc gennych, mae modd i chi weithio gyda grŵp nid er elw gan wneud cais drwy’r grŵp yma. Os yw hyn yn ormod o rwystr, cysylltwch gyda ni er mwyn gwirio pa opsiynau eraill sydd ar gael. 

Mae telerau ac amodau llawn ar gael yma.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy gwblhau’r ffurflen gais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 00:00 ar 19 Chwefror 2024. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r broses i gyflwyno cais yn gynt na’r disgwyl os oes yna ormod o geisiadau.

Cysylltwch gyda ni

E-bostiwch ni – food@monmouthshire.gov.uk

Rydym yn  medru helpu gyda:

  • unrhyw gwestiynau am y grant neu’r broses gais
  • os hoffech dderbyn y ffurflen mewn fformat arall
  •  os ydych am gyflwyno eich cais fel fideo neu recordiad llais

A oes mwy o brofiad gennych a syniad ychydig yn fwy a fyddai’n medru elwa o gyllid? Yna danfonwch y wybodaeth atom yma food@monmouthshire.gov.uk.