Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol dan delerau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae ein gwaith yn cynnwys dynodi a deall risg llifogydd o fewn y sir a gweithio gydag eraill i liniaru’r risgiau hynny lle’n bosibl.

Gyda thebygrwydd tywydd mwy difrifol yn y dyfodol, yn cynnwys mwy o lawiad a achosir gan newid yn yr hinsawdd, mae llifogydd yn achosi mwy o fygythiad nag erioed i’n cymunedau.