Skip to Main Content

Adroddiadau Ymchwiliad Llifogydd Adran 19

Yn unol ag Adran 19 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010, mae gan Gyngor Sir Fynwy fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd i ymchwilio a chyhoeddi adroddiadau ar ddigwyddiadau llifogydd sylweddol o fewn y Sir.

Mae Adran 19 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010 yn dweud:

(1)   Ar ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal mae’n rhaid i Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, i’r graddau y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol neu’n briodol, ymchwilio:

(a)   Pa awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau perthnasol rheoli risg llifogydd, a

(b)   P’un ai a yw pob un o’r awdurdodau rheoli risg wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu y swyddogaethau hynny mewn ymateb i’r llifogydd.

(2)   Lle mae awdurdod yn cynnal ymchwiliad dan is-adran (1) mae’n rhaid iddo:

(a) Gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a

(b) Hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol.

Lawrlwytho