Skip to Main Content

Taflenni Cyngor Sir Fynwy

Sachau tywod

Mewn tywydd garw gall Cyngor Sir Fynwy gyflenwi sachau tywod i’r eiddo hynny sydd mewn risg difrifol o lifogydd. Nid yw’n rhaid darparu’r gwasanaeth hwn gan mai perchennog yr eiddo sy’n bennaf gyfrifol am ddiogelu’r eiddo rhag llifogydd. Caiff ceisiadau am sachau tywod eu hystyried ar sail achos unigol ac os yw adnoddau’n caniatáu, rhoddir blaenoriaeth iddynt a chânt eu cyflwyno yn nhrefn difrifoldeb llifogydd a risg i bobl ac eiddo.

Yswiriant Eiddo

Mae Flood Re yn gynllun yswiriant llifogydd sy’n helpu perchnogion cartref sydd angen yswiriant mewn ardaloedd risg llifogydd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn www.floodre.co.uk

Fforwm Llifogydd Cenedlaethol

Elusen i helpu, cefnogi a chynrychioli pobl mewn risg o lifogydd www.nationalfloodforum.org.uk

Llinell Llifogydd

I gofrestru i gael y rhybuddion llifogydd diweddaraf ar gyfer eich ardal ewch i: https://naturalresources.wales/flooding/sign-up-to-receive-flood-warnings?lang=cy

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli risg llifogydd a risg arfordirol yng Nghymru. llyw.cymru/llifogydd-erydiad-arfordirol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae gwybodaeth gysylltiedig â llifogydd yn cynnwys y rhybuddion llifogydd diweddaraf, lefelau afonydd a mapiau llifogydd ar gael yn https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy

Dŵr Cymru

Mae gwybodaeth am lifogydd carthffosydd a Dŵr Cymru ar gael yn https://www.dwrcymru.com/cy-gb/help-advice

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am lifogydd ar gael yn https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/llifogydd/