Skip to Main Content

Mae gan nifer o gyrff ddiddordeb mewn draeniad tir a gaiff ei reoleiddio dan Ddeddf Draeniad Tir 1991. Maent yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion glannau. Mae gan bob un rôl i’w chwarae wrth liniaru llifogydd.

Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am ddraeniad tir ond gall weithredu dan y Ddeddf Draeniad Tir ar faterion draeniad tir, yn arbennig lle mae cwrs dŵr wedi blocio yn debygol o arwain at lifogydd.

Gelwir rhywun yn berchen sydd eiddo yn ymyl cwrs dŵr neu sydd â cwrs dŵr yn rhedeg drwyddo yn berchen glannau. Dan gyfraith gyffredin, mae gan berchnogion glannau hawliau a chyfrifoldebau neilltuol yn ymwneud â’r darn o lwybr dŵr sy’n llifo drwy neu wrth ochr eu tir.

Mae eich hawliau fel perchen glannau yn cynnwys

  • Tybir ei bod yn berchen y tir hyd at ganol y cwrs dŵr, os nad yw’n hysbys fod rhywun arall yn berchen arno:
  • Mae gennych yr hawl i dderbyn llif dŵr yn ei gyflwr naturiol, heb ymyriad di-alw-amdano mewn maint neu ansawdd;
  • Mae gennych yr hawl i ddiogelu eich eiddo rhag llifogydd o’r cwrs dŵr ac atal erydu glannau’r cwrs dŵr neu unrhyw strwythurau cyfagos;
  • Mae gennych hawl i bysgota yn eich cwrs dŵr, er fod yn rhaid i hyn fod drwy ddulliau cyfreithiol a gyda thrwydded gwialen briodol.
  • Heb fod angen trwydded, gallwch dynnu uchafswm o 20 metr ciwbig o ddŵr y dydd ar gyfer dibenion domestig eich cartref neu ar gyfer defnydd amaethyddol, ac eithrio dyfrio chwistrellu, o gwrs dŵr ar bwynt sy’n cyffinio’n uniongyrchol â’ch tir. Bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y rhan fwyaf fathau eraill o alldynnu.

Cyn dechrau ar unrhyw waith ar neu yn ymyl cwrs dŵr, mae’n rhaid i chi wirio gyda nail ai Cyfoeth Naturiol Cymru (prif afonydd) neu Gyngor Sir Fynwy (cyrsiau dŵr cyffredin) i benderfynu os ydych angen unrhyw drwydded neu ganiatâd.

Os gallai’r gwaith effeithio ar yr amgylchedd o gwmpas, gall fod angen cael trwyddedau eraill, caniatâd, cymeradwyaeth neu ganiatâd pellach (yn cynnwys caniatâd cynllunio) a all fod eu hangen yn ôl y gyfraith gan yr awdurdodau perthnasol. Mae’n rhaid ystyried materion amgylcheddol, yn cynnwys llygredd, risg llifogydd, cadwraeth bywyd gwyllt, pysgodfeydd ac ail-lunio’r afon a’r tirlun, i gyd.

Mae eich cyfrifoldebau fel perchennog glannau yn cynnwys:

  • Cynnal y cwrs dŵr a chlirio unrhyw rwystrau (naturiol neu fel arall) fel nad yw llif arferol dŵr yn cael ei rwystro;
  • Cynnal gwely a glannau’r cwrs dŵr (yn cynnwys coed a pherthi yn tyfu ar y glannau) ac am glirio unrhyw ysgyrion, naturiol neu fel arall, yn cynnwys sbwriel a charcasau anifeiliaid, hyd yn oed os na ddaeth o’ch tir i ddechrau;
  • Derbyn y llif naturiol o’ch cymydog lan yr afon a’i drosglwyddo lawr yr afon heb rwystr, llygredd neu ddargyfeirio;
  • Derbyn llif llifogydd drwy eich tir hyd yn oed os caiff ei achosi gan gapasiti annigonol i lawr yr afon, gan nad oes unrhyw ddyletswydd cyfraith gyffredin i wella cwrs dŵr;
  • Rhaid i chi beidio achosi unrhyw rwystr i atal pysgod rhag symud yn rhydd;
  • Cadw’r gwely a glannau yn glir o unrhyw fater a allai achosi rhwystr, un ai ar eich tir neu drwy gael ei olchi i ffwrdd gan lif uchel i rwystro strwythur lawr yr afon;
  • Cadw’n glir unrhyw strwythurau yr ydych yn berchen arnynt megis ffosydd, sgriniau llanastr, coredau a chlwydi melin.

Gallai methiant i gyflawni eich cyfrifoldebau arwain at weithredu sifil posibl gan eraill.