Mae trafodaethau cyn-ymgeisio yn wasanaeth dewisol i gwsmeriaid ond rydym yn annog trafodaethau cynnar am eich cynigion gyda ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu darparu arweiniad ar dderbynioldeb eich cynigion.
Yn dibynnu ar y math o wasanaeth a ddewiswch, byddwch yn gallu cyfarfod â swyddog cynllunio ar y safle, os yw’n briodol a bydd gennych fynediad at arbenigwyr eraill e.e. Peirianwyr priffyrdd. Bydd gennych un pwynt cyswllt ar gyfer y broses gyfan a rhoddir adroddiad ysgrifenedig ffurfiol i chi sy’n manylu ar safbwyntiau’r swyddog, awgrymiadau i wella’r cynllun a chanllawiau ar symud ymlaen gyda’r cais
Mae’r dolenni isod yn dweud mwy am y gwasanaeth, y taliadau a sut i wneud cais.