Tystysgrif Cyn-prynu

Mae’r Dystysgrif Cyn-prynu yn wasanaeth ar ddisgresiwn a gynigir gan Gyngor Sir Fynwy a anelwyd at bobl sy’n ystyried prynu eiddo yn Sir Fynwy. Byddai’r cais yn rhoi:-

  • chwiliad hanes cynllunio
  • manylion caniatâd cynllunio
  • caniatâd Adeilad Rhestredig
  • hanes gorfodaeth yn ymwneud â dynodi tramgwyddau rheolau adeiladu (ni fyddai hyn yn cyfeirio at gwynion na chafodd eu cadarnhau).

Byddai’r gwasanaeth yn cynnwys ymweliad safle ac yn dynodi os bu unrhyw dramgwyddau rheoli adeiladu ac a fyddai unrhyw dramgwyddau yn orfodadwy ai peidio.

Byddai’r dystysgrif yn cadarnhau y cafodd unrhyw ddatblygiad a gymeradwywyd ar gyfer safle, hyd at adeg y cais, ei wneud yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd ac na chafodd rheolau ariannol eu torri yn y safle.

Bydd hyn yn rhoi’r hyder byddwch ei angen i sicrhau fod yr eiddo rydych yn ei brynu wedi cydymffurfio gyda phob agwedd berthnasol o reoli adeiladu.

Y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn fyddai £256 a byddwn yn anelu i roi ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod.

(Mae’r gwasanaeth yn edrych ar gydymffurfiaeth gyda phob math o ganiatâd cynllunio yn cynnwys caniatâd Adeilad Rhestredig; nid yw’n rhoi dirprwy i Dystysgrifau Datblygu Cyfreithlon).

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth?

Os dymunwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn llenwch Ffurflen Gais Tystysgrif Cyn Prynu.

Unwaith y derbyniwyd eich cais a’r taliad, caiff ei gofnodi ac anfonir llythyr cydnabod gyda chyfeirnod. Bydd eich swyddog achos wedyn yn cysylltu â chi i drafod ymweliad safle.

Tystysgrifau Cwblhau

Mae’r Dystysgrif Cwblhau yn wasanaeth ar ddisgresiwn a gynigir gan Gyngor Sir Fynwy. Bydd y dystysgrif yn dweud:-

  • P’un ai a gafodd y Caniatâd Cynllunio a/neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig y gwnaed cais amdano ei wneud yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd.
  • Bydd yn cadarnhau statws yr holl amodau ac unrhyw ddiwygiadau a gymeradwywyd os yn berthnasol.

Diben y gwasanaeth newydd hwn yw cynnig cymorth i ymgeiswyr, asiantau neu unrhyw barti arall sydd â diddordeb fod y gwaith yn briodol a derbyniol unwaith y cawsant eu hadeiladu. Os oes mater o ddiffyg cydymffurfiaeth, deuir â hyn i sylw’r ymgeisydd ynghyd â chyfle i unioni torri rheolau cynllunio.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys arolwg safle ac ymchwil bwrdd gwaith.

Y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn fydd £205 ar gyfer pob rhif cais sydd angen tystysgrif ac anelwn roi ymateb ysgrifenedig i chi o fewn 28 diwrnod.

NODYN: Lle mae angen Cais Adeilad Rhestredig a Chais Cynllunio ar gyfer yr un datblygiad, caiff hyn ei drin fel un cais.

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth?

Os dymunwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, llenwch Ffurflen Gais Tystysgrif Cwblhau os gwelwch yn dda.

Unwaith  derbyniwyd eich cais a’r taliad, caiff ei gofnodi ac anfonir llythyr cydnabyddiaeth gyda’r cyfeirnod. Bydd eich swyddog achos mewn cysylltiad i drefnu ymweliad safle.