Skip to Main Content

Mae Hyb Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir Fynwy yn ateb yr un math o gwestiynau i rieni yn Sir Fynwy dro ar ôl tro. I’ch helpu, rydym wedi paratoi dalen atebion gyfleus i’n cwestiynau cyffredin. 
 
1)  Sut mae gwneud cais i ddosbarth meithrin fy ysgol leol?

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/addysg/adran-derbyniadau-i-feithrinfeydd-ysgol/
Magwyr (accesstolearning@monmouthshire.gov.uk / 01633 644508)
 
 
2)  Pryd fydd fy mhlentyn yn gymwys am Gyllid  Cyfnod Sylfaen Meithrin?
Mae pob plentyn yn gymwys am gyllid Cyfnod Sylfaen Meithrin yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Dyddiad dechrau pob tymor yw 1 Ionawr, 1 Ebrill a 1 Medi pryd bynnag mae’r gwyliau’n dechrau a gorffen. Y cyllid sydd ar gael yw £9 y sesiwn, hyd at 5 sesiwn yr wythnos (2-2½ awr y dydd hyd at 12½ awr yr wythnos) ac mae’n rhaid i bob sesiwn fod ar ddiwrnod gwahanol. Dim ond yn un o grwpiau chwarae neu feithrinfeydd Cyfnod Sylfaen Meithrin y mae’r cyllid ar gael. Mae manylion y darparwyr Cyfnod Sylfaen Meithrin ar gael yma.

Nodwch os gwelwch yn dda: Efallai y byddwch yn clywed cyllid Cyfnod Sylfaen Meithrin yn cael ei alw yn dalebau meithrin, cyllid cyn-ysgol, gofal plant 3 oed, addysg gynnar ac yn y blaen. Yr un cyllid yw hyn i gyd ac yn Sir Fynwy y diffiniad cywir yw cyllid Cyfnod Sylfaen Meithrin. Mae’n bodoli i ddarparu addysg i blant tair a phedair oed cyn dechrau yn yr ysgol ac mae ar gyfer yr elfen addysgol yn unig ac nid gofal plant.

3) Beth yw’r Cynnig Gofal Plant a sut mae gwneud cais amdano?

Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru yn gynllun a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu 30 awr yr wythnos o addysg a gofal plant am ddim i rieni gwaith cymwys plant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae gwybodaeth lawn am y Cynnig Gofal Plant ar gael yma.
 
 
4)  Sut mae cofrestru fel gofalwr plant?
Darllenwch ein canllaw 10 cam ar ddod yn ofalwr plant yma. 
 
 

5) A allaf dderbyn unrhyw help tuag at gostau Gofal Plant?

O 2 oed, efallai y bydd eich plentyn yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg Dechrau’n Deg os ydych yn byw mewn ardal gymwys. Mae elfen gofal plant y rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei chyflwyno ar draws Sir Fynwy ar hyn o bryd a chredir y bydd y rhaglen lawn yn ei lle erbyn mis Medi 2025. Bydd ymwelydd iechyd/swyddog Dechrau’n Deg yn cysylltu pan fydd y rhaglen yn cyrraedd eich cod post.

 
6) Sut mae gwybod os fy narparydd gofal plant wedi cofrestru?
 
Mae’n rhaid i ddarparydd gofal plant fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydynt yn gofalu am blant dan 12 oed ac yn bwriadu gweithredu am fwy na dwy awr y dydd. Os yw’ch darparydd gofal plant wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, bydd ganddynt Rif Cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru y dylent fedru ei roi i chi. Mae’n rhaid i’ch darparydd gofal plant fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os dymunwch hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.

 
7) Beth ddylwn i ei wirio pan fyddaf yn edrych am ofal plant?
 
Darllenwch ein canllawiau ar ddewis y gofal plant mwyaf addas ar gyfer eich plentyn yma. 
 
 
8) Sut mae canfod Gofal Plant yn fy ardal: 
 
Mae gan y wefan yma restr gynhwysfawr o ofal plant, gweithgareddau gwasanaethau teulu ym mhob rhan o’r sir. Gallwch hefyd anfon e-bost at childcare@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644527 yn ystod oriau swyddfa.
 
 
9) Nid wyf yn byw yn Sir Fynwy, sut gallaf gael gwybodaeth ar ofal plant yn fy ardal?
 
Mae gan bob awdurdod lleol Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae manylion cyswllt a cyfeiriadau gwefannau ar gael yma.