Gellir derbyn plant o’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd cyn belled â bod lleoedd ar gael. Gall hyn fod mewn ysgol feithrin a gynhelir gan Awdurdod Lleol neu mewn gosodiad preifat a all fod yn gylch chwarae neu feithrinfa ddydd breifat.
Mae gan Sir Fynwy 12 meithrinfa ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol a bydd angen i blant fynychu 5 sesiwn yr wythnos ar gyfer sesiwn hanner diwrnod a chael un ai lle bore neu brynhawn. Mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa i gymryd yr holl sesiynau sydd ar gael iddynt.
Ceisiadau yn Ystod y Flwyddyn
Gellir gwneud ceisiadau yn ystod y flwyddyn ar unrhyw adeg ar gyfer derbyniadau y tu allan i’r cylch derbyn arferol.
Gellir gwneud ceisiadau hwyr yma.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu i gwblhau eich cais.
Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2025-26
Gwneud cais ar gyfer Medi 2027
Os ganwyd eich plentyn rhwng 1af Medi 2023 a 31ain Awst 2024 gallwch wneud cais am le mewn ysgol feithrin yn 2027 rhwng 3 Gorffennaf 2026 a 11ydd Medi 2026. Cliciwch yma i ddechrau eich cais
Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Medi 2023 a 31ain Rhagfyr 2023 o fis Ionawr 2027.
Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Ionawr 2024 a 31ain Mawrth 2024 o fis Ebrill 2027.
Nid yw plant a anwyd rhwng 1af Ebrill 2024 a 31ain Awst 2024 yn gymwys i ddechrau’n gynnar.
Bydd llythyron penderfyniad, sy’n cynnig cychwyn cynnar os oes lleoedd ar gael, yn cael eu cyhoeddi:
- 20fed Tachwedd 2026 ar gyfer dechrau Medi 2027 a Ionawr 2027
- Ar 5af Mawrth 2027 ar gyfer dechrau yn Ebrill 2027
Meini prawf os oes Tanysgrifio
Lle mae mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, caiff y meini prawf dilynol eu gweithredu i benderfynu pwy gaiff y lleoedd sydd ar gael.
1 – Plant sy’n derbyn gofal neu blant a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol, h.y. plant sydd dan ofal neu sydd wedi bod o dan ofal awdurdod lleol.
2 – Seiliau meddygol neu gymdeithasol a amlygir gan asiantaethau priodol
3 – Plant sydd â brawd neu chwaer perthnasol yn bresennol yn y feithrinfa ddewisol.
4 – Ar ôl cymhwyso’r categorïau uchod, neu os yw’r ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o ordanysgrifio yn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y flaenoriaeth yn seiliedig ar agosrwydd i’r ysgol a ffafrir, wedi’i fesur gan ddefnyddio’r llwybr cerdded diogel byrraf. Gofynnir i chi ddangos unrhyw ddogfennau priodol yr ystyrir fod eu hangen i wirio cyfeiriadau cartref.
Gellir cael ffurflenni cais i fynychu meithrinfeydd cymeradwy nas cynhelir, cylchoedd chwarae neu Gylchoedd Meithrin yn uniongyrchol o’r gosodiadau. Gellir dod o hyd i rifau cyswllt ar y wefan hon drwy ddefnyddio’r Cyfleuster Chwilio Gofal Plant.
Os ydych angen mwy o wybodaeth am dderbyniadau meithrin cysylltwch â’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508 neu drwy ddanfon e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk