Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n byw yn Sir Fynwy, ac sydd dros 16 oed ac o dan 19 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, yn gallu gwneud cais am gludiant consesiynol os ydynt yn byw dros 2 filltir o’u hysgol addas agosaf. Nid oes sicrwydd o gludiant, a dim ond os oes seddi gwag ar gontractau presennol y byddant yn cael eu dyfarnu. Os caiff cludiant ei ddyfarnu bydd tâl o £440. Nid oes rhaid talu hyn mewn un tro a gellir ei dalu drwy gynllun rhandaliad y cytunwyd arno. Yr unig amod yw bod rhaid talu’r £440 cyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Nodwch y bydd ffurflenni cais am Gludiant Consesiynol ar gyfer y flwyddyn academaidd 23/24 ar gael o’r 1af Mai 2023, ni fydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir cyn y dyddiad hwn ar gyfer 23/24 yn cael eu hystyried a byddant yn cael eu tynnu o’n system a bydd angen i chi ailymgeisio. Pwrpas hyn yw sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i wneud cais am gludiant consesiynol a chael hynny wedi’i ddyfarnu.
Os nad ydych yn byw yn Sir Fynwy ond mae gennych blentyn Ôl-16 sy’n mynychu ysgol yn Sir Fynwy, ni fyddant fel arfer yn gymwys i gael cludiant. Er hynny, os oes gennym seddi sbâr yn weddill ar ôl i holl geisiadau trigolion Sir Fynwy gael eu hystyried, byddwn yn ystyried ceisiadau gan drigolion nad ydynt yn byw yn Sir Fynwy. Os bydd seddi’n cael eu dyfarnu nid oes sicrwydd y bydd y sedd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd, oherwydd bydd cais gan ddysgwr sy’n gymwys i gael cludiant statudol yn arwain at ail-ddyrannu’r sedd iddynt.
Nid yw cludiant Ôl-16 yn wasanaeth statudol ac mae’n cael ei gynnig yn ôl disgresiwn, ac oherwydd hynny nid oes hawl apelio os na chewch chi sedd gonsesiynol Ôl-16.
Ni fydd disgyblion yn cael yr hawl i ddefnyddio lleoliad consesiynol Ôl-16 tan i’r Uned Cludiant Teithwyr gadarnhau hynny’n swyddogol. Os dyfernir cludiant i chi ac rydych yn symud ysgol neu gyfeiriad, yna dylech hysbysu’r Uned Cludiant Teithwyr ar unwaith yn ysgrifenedig fel y gallwn ailasesu a ydych o hyd yn gymwys ar gyfer y cludiant. Os caiff eich sedd ei chanslo wedyn, byddwn yn adolygu’r balans ar unrhyw daliadau ac os oes angen, rhowch ad-daliad i chi. Os ydych yn talu drwy randaliadau, byddwn yn cyfrifo’r ffi sy’n ddyledus ar y pwynt bod y cludiant yn cael ei dynnu’n ôl a’ch cynghori yn unol â hynny. Byddwch yn parhau i fod yn atebol am unrhyw daliadau sy’n weddill. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am deithio consesiynol ar gyfer unrhyw ddysgwr sydd â balans yn weddill o flwyddyn academaidd flaenorol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gludiant, cyfeiriwch at y nodiadau canllaw sydd i’w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.
Darllenwch dros y polisi ac yna cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar Fy Sir Fynwy ar gyfer Cludiant Consesiynol Ôl-16 Rhwng y Cartref a’r Ysgol. Os nad ydych yn barod wedi cofrestru ar gyfer Fy Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud hyn, gan ddefnyddio’r ddolen isod, cyn cwblhau’r ffurflen gais.
Trwy gofrestru a chwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch olrhain cynnydd eich cais a derbyn diweddariadau wrth iddi gael ei phrosesu. Ar ôl cofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael yn adran Ysgolion a Dysgu Fy Sir Fynwy.
Os ydych wedi cofrestru eisoes gan ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un e-bost a chyfrinair er mwyn mewngofnodi.