Skip to Main Content

Gall myfyrwyr sy’n byw yn Sir Fynwy a sydd dros 16 a dan 19 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd wneud cais am gludiant  Ôl-16 rhatach os ydynt yn byw fwy na 2 filltir o’u hysgol addas agosaf. Ni chaiff cludiant ei warantu a dim ond os oes seddi gwag ar gontractau presennol y caiff ei roi. Os cytunir cynnig cludiant bydd cost o £440 neu £220 os yn derbyn rhai budd-daliadau. Nid yw’n rhaid talu hyn i gyd gyda’i gilydd a gellir ei dalu drwy gynllun rhandalu a gytunir. Yr unig amod yw fod yn rhaid i’r £440/£220 gael ei dalu cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Bydd ffurflenni cais Cludiant  Ôl-16 Rhatach am y flwyddyn academaidd ddilynol ar gael o 1 Mai bob blwyddyn, ni chaiff unrhyw ffurflenni cais a gafwyd cyn y dyddiad hwn eu hystyried a chânt eu tynnu o’n system a bydd angen i chi wneud cais eto. Mae hyn er mwyn sicrhau fod pawb yn cael yr un cyfle i wneud cais am a chael cludiant rhatach . Caiff pob cais a dderbynnir ei asesu ar sail cyntaf i’r felin yn ogystal â phellter o’r lleoliad addysg.

Os nad ydych yn byw yn Sir Fynwy ond fod gennych blentyn Ôl-16 yn mynychu ysgol yn Sir Fynwy, ni fyddant fel arfer yn gymwys am gludiant. Fodd bynnag, os oes gennym seddi gwag ar ôl yn dilyn ystyried holl geisiadau preswylwyr Sir Fynwy, byddwn yn ystyried ceisiadau gan bobl nad ydynt yn byw yn Sir Fynwy. Os neilltuir seddi nid oes gwarant y bydd sedd ar gael ar gyfer yr holl flwyddyn academaidd gan y byddai cais gan ddysgwr sy’n gymwys am gludiant statudol yn golygu y caiff y sedd ei ddyrannu iddo/iddi.

Nid yw Cludiant Ôl-16 yn wasanaeth statudol a chaiff ei gynnig ar sail ddewisol ac felly nid oes hawl apelio os na chewch gynnig sedd Ôl-16 Rhatach.

Ni chaiff disgyblion eu hawdurdodi i ddefnyddio lleoliad Ôl-16 Rhatach nes y caiff hynny ei gadarnhau mewn ysgrifen gan yr Uned Cludiant Teithiwr. Os cynigir cludiant i chi a’ch bod yn symud ysgol neu gyfeiriad, yna dylech hysbysu’r Uned Cuddiant Teithwyr ar unwaith mewn ysgrifen fel y gallwn ailasesu eich cymhwyster ar gyfer y cludiant. Os caiff eich sedd ei chanslo’n ddilynol, byddwn yn cyfrif y ffi dyledus ar yr adeg y caiff y cludiant ei ddileu ac yn eich hysbysu yn unol â hynny. Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am unrhyw daliadau sydd yn ddyledus. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am deithio rhatach ar gyfer unrhyw ddysgwr sydd ag arian yn ddyledus o’r flwyddyn academaidd flaenorol.

I gael mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais am gludiant gweler y canllawiau sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.

Darllenwch dros y polisi ac yna cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar Fy Sir Fynwy ar gyfer Cludiant Consesiynol Ôl-16 Rhwng y Cartref a’r Ysgol. Os nad ydych yn barod wedi cofrestru ar gyfer Fy Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud hyn, gan ddefnyddio’r ddolen isod, cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Trwy gofrestru a chwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch olrhain cynnydd eich cais a derbyn diweddariadau wrth iddi gael ei phrosesu. Ar ôl cofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael yn adran Ysgolion a Dysgu Fy Sir Fynwy.

Os ydych wedi cofrestru eisoes gan ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un e-bost a chyfrinair er mwyn mewngofnodi.

Cliciwch yr eicon islaw i lenwi’r ffurflen –