Yr hyn y gall pob Canolfan Ailgylchu ei dderbyn
| Math o wastraff | Llan-ffwyst | Llanfihangel Troddi | Five Lanes | Nodiadau |
| Asbestos | y | x | y | Gellir mynd ac ychydig o asbestos domestig i Llan-ffwyst neu Five Lanes. Siaradwch gyda staff y safle yn gyntaf os gwelwch yn dda. Mae mwy o gyngor ar Asbestos ar gael islaw. |
| Bagiau du | y | y | y | Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu. |
| Batris (cartrefi) | y | y | y | |
| Batris (ceir) | y | y | y | |
| Camerâu a chamerâu fideo | y | y | y | |
| Canfodydd mwg | y | y | y | |
| Caniau a thuniau | y | y | y | |
| Cardfwrdd | y | y | y | |
| CDs a DVDs | y | y | y | |
| Cemegau (Cartref)) | y | y | y | Holwch staff y safle am gymorth |
| Chwaraewyr CD ac offer hi-fi arall | y | y | y | |
| Chwaraewyr DVD a fideo | y | y | y | |
| Cyfrifiaduron, argraffwyr ac offer TG arall | y | y | y | |
| Cypyrddau dillad a chabinetau | y | y | y | |
| Drysau (mewnol, allanol a garej) | y | y | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Erosolau (gwag yn unig) | y | y | y | |
| Fêps / E sigaréts | y | y | y | |
| Ffoil alwminiwm | y | y | y | |
| Ffonau symudol | y | y | y | |
| Ffyrnau | y | x | y | |
| Ffyrnau microdon | y | y | y | |
| Goleuadau fflwrolau/bylbiau ynni isel | y | y | y | |
| Gwastraff gardd | y | y | y | |
| Gwelyau | y | y | y | |
| Llyfrau | y | y | y | |
| Llyfrau ffôn a chatalogau | y | y | y | |
| Matresi | y | y | y | |
| Metel sgrap | y | y | y | |
| Oel injan | y | y | y | Dim mwy na 7 litr ym mhob ymweliad oherwydd lle i gadw. |
| Oergelloedd | y | y | y | |
| Offer trydanol bach (arall) | y | y | y | |
| Offer trydanol mawr (arall) | y | x | y | |
| Olew (coginio) | y | y | y | |
| Paenau gwydr | y | y | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Paent (tu mewn a tu allan), farnais, gwirod gwyn | y | x | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Papur, cylchgronau a phost sbwriel | y | y | y | |
| Peiriannau golchi llestri | y | x | y | |
| Pren (yn cynnwys sglodfwrdd) | y | y | y | |
| Poteli a jariau gwydr | y | y | y | |
| Rhewgelloedd | y | y | y | |
| Silindrau heliwm (gwag yn unig) | y | y | y | Dylid rhoi silindrau heliwm gwag yn y sgil metel sgrap |
| Silindrau nwy (gwag yn unig) | y | x | y | Holwch staff y safle am gymorth |
| Sychwyr gwallt, cyrlwyr, sythwyr (etc) | y | y | y | |
| Tegellau | y | y | y | |
| Twls trydan (driliau etc) | y | y | y | |
| Peiriannau golchi | y | x | y | |
| Plastrfwrdd | y | y | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Poteli a phecynnau plastig | y | y | y | |
| Rwbel (yn cynnwys briciau a serameg) | y | y | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Siediau (gardd yn unig) | y | y | y | Gweler polisi gwastraff DIY islaw |
| Soffas | y | y | y | |
| Setiau teledu | y | y | y | |
| Sychwyr taflu | y | x | y | |
| Tecstil iau (dillad, esgidiau) | y | y | y | |
| Teiars | x | x | x | |
| Tostwyr | y | y | y |
Bagiau du
Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu.
Polisi gwastraff DIY
Cyfyngwyd gwastraff DIY i bum bag neu lond cist car bach ym mhob ymweliad gyda dim mwy na dau ymweliad y mis.
Mae gwastraff DIY yn cyfeirio’n unig at ddeunyddiau’n deillio o waith graddfa fach yn eiddo’r deiliad tai ei hun. Ar gyfer gwaith graddfa fawr, disgwylir i ddeiiaid tai ddefnyddio contractwr gwastraff preifat a llogi sgip.
Derbynnir gwastraff DIY yng Nghanolfannau Ailgylchu Llan-ffwyst a Five Lanes.
Mae Llanfihangel Troddi yn safle llai a dim ond meintiau bach iawn o wastraff DIY y gall ei dderbyn.
Mae’n rhaid i chi gysylltu gyda staff y safle pan gyrhaeddwch y safle.
Polisi Asbestos
Mae asbestos yn wastraff peryglus a byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â chontractwr arbenigol i ddelio’n ddiogel gydag unrhyw wastraff asbestos.
Byddir yn derbyn meintiau bach o asbestos gan ddeiliaid tai yng Nghanolfannau Five Lanes neu Llan-ffwyst. Mae’n rhaid dwbl-lapio llenni cyfan mewn polythen trwm a’i selio gyda thâp trwm. Ni fyddwn yn derbyn mwy na 4 llen maint safonol y flwyddyn, heb fod yn fwy na 120cm wrth 60m. Disgwylir i ddeiliad tŷ logi contractwr arbenigol os ydynt yn dymuno cael gwared â mwy na hyn.
Dylai deiliaid tai wybod na chaniateir i staff Canolfannau Ailgylchu i drin asbestos felly mae’n rhaid iddynt fedru ei roi yn y cynhwysydd ar y safle heb gael cymorth. Gofynnir i chi siarad gydag aelod o staff ar y safle a byddant yn dweud wrthych ble i roi y gwastraff.
Arall
Nid yw rhannau ceir na cherbydau’n cael eu derbyn yn y ganolfan ailgylchu. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn wastraff cartref a dylid ei gymryd i dorrwr cerbydau. Dim ond batris ceir sy’n cael eu derbyn.
Ni ellir mynd â’r eitemau dilynol i ganolfan ailgylchu Llanfihangel Troddi: Asbestos, cyfarpar cartref mawr (ffyrnau, peiriannau golchi llestri, peiriannau sychu taflu neu beiriannau golchi) a silindrau nwy. Gellir derbyn yr eitemau hyn yng nghanolfannau ailgylchu Five Lanes neu Llan-ffwyst.
DIM gwastraff busnes
Mae gan fusnesau ddyletswydd statudol i wneud trefniadau ar gyfer gwaredu â’u gwastraff eu hunain. Ni chaniateir iddynt ddefnyddio’r Ganolfan Ailgylchu. Gellir gwaredu â gwastraff busnes/masnach yn safleoedd Llan-ffwyst a Five Lanes dros y bont bwyso ar brisiau masnachol cystadleuol (manylion ar y safle). I sicrhau cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau’r safle, dylid dangos “Trwydded Cludwr Gwastraff” ddilys cyn defnyddio’r safleoedd. Bydd staff safleoedd yn hapus i helpu busnesau i gael y drwydded hon.
Gallwch gysylltu â’r safle ynghyclh gwastraff busnes: Five Lanes – 01633 400394 neu Llan-ffwyst 01873 736261. Oriau agor: 7:30 – 15:45.
Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
Cwestiynau Cyffredin Canolfannau Ailgylchu
Siop Ailddefnyddio