Ni fu osgoi gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu erioed yn bwysicach yn yr hinsawdd sydd ohoni. Wyddoch chi fod y gwastraff bwyd sy’n cael ei gasglu yn eich cadi glas yn cael ei droi’n nwy a thrydan i gynhesu ein cartrefi?
Gwnewch eich Blwyddyn Newydd yn wyrdd, lleihewch wastraff, ailddefnyddiwch neu ailbwrpaswch cymaint ag y gallwch a gwnewch ddefnydd llawn o’ch casgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd.
Am ddiwrnodau casglu a gwybodaeth am yr holl wasanaethau ailgylchu a gwastraff yn Sir Fynwy ewch i:
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/
Ddim yn gwybod beth i’w wneud â’ch hen gardiau Nadolig neu bapur lapio? I gael syniadau a chyngor ailddefnyddio ac ailgylchu defnyddiol, ewch i:
https://www.recyclenow.com/how-to-recycle/eco-friendly-christmas-festive-recycling-tips
Am glirio pethau yn y Flwyddyn Newydd? Oes gennych chi unrhyw anrhegion Nadolig diangen? Gellir rhoi’r rhain i un o’n siopau ailddefnyddio yn Llan-ffwyst neu Five Lanes. Mae’r holl elw’n mynd tuag at blannu coed yn Sir Fynwy.
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/
Mae ein canolfannau ailgylchu yn Llan-ffwyst, Llanfihangel Troddi a Five Lanes ar agor i ailgylchu’r holl eitemau nad ydym yn eu casglu ar ymyl y ffordd ar hyn o bryd. Mae coed Nadolig, sy’n cael eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu, yn cael eu compostio’n lleol. Gwnewch archeb arlein yma:
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/canolfannau-ailgylchu-gwastraff-cartref/
Gellir gwneud archeb i gasglu eitemau mwy o ddodrefn neu nwyddau gwyn sydd i’w hailgylchu neu’u gwaredu yma:https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwastraff-swmpus-a-chasglu-eitemau-mawr/