Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gyflawni rhuglder yn yr iaith Gymraeg trwy astudio ystod eang o bynciau a disgyblaethau yn Gymraeg. Bydd sgiliau Saesneg eich plentyn hefyd yn cael eu datblygu mewn gwersi Saesneg a thrwy gael profiad o ran agweddau o’r cwricwlwm yn Saesneg.
Rydym yn cynnal dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Fenni (Ysgol Gymraeg Y Fenni) ac yng Nghil-y-Coed (Ysgol Y ffin)
Ar gyfer addysg uwchradd, rydym wedi datblygu cysylltiadau agos gydag awdurdodau cyfagos, yn benodol Cyngor Sir Torfaen gydag Ysgol Gyfun Gwynllyw. Golyga hynny bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar lefel uwchradd i blant o fewn ein sir. Bydd ysgol uwchradd newydd hefyd yn agos yng Nghasnewydd ar safle cyfredol Ysgol Uwchradd Dyffryn ar gyfer disgyblion yn byw yn ne’r sir ac yn mynychu Ysgol Y Ffin.
Ar gyfer y plant sy’n dymuno derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg bydd trafnidiaeth ar gael am ddim o’u cartref i’r sefydliad addysg cyfrwng Cymraeg agosaf.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth a newyddion am beth sy’n digwydd yn ein hysgolion cynradd trwy ymweld â gwefan grid dysgu Sir Fynwy. Am wybodaeth am gefnogaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, gan gynnwys cymorth gyda gwaith cartref Cymru, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy.
Mae taflen wedi cael ei chynhyrchu o’r enw “bod yn ddwyieithog” i ddarparu gwybodaeth i rieni sy’n ystyried Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hefyd grŵp Facebook ble mae rhieni plant sy’n astudio yn un o’n hysgolion cyfrwng Cymraeg yn cyfathrebu.
Mae gofyn bod awdurdodau lleol yn paratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) i’w cymeradwyo neu eu haddasu gan Weinidogion Cymru. Mae WESP Sir Fynwy wedi cael ei gymeradwyo a gellir gweld copi isod, mae’r cynllun yn ymdrin â chyfnod o 3 blynedd a bydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth y cyngor ar gynyddu’r galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg ac mae’n cynnwys camau gweithredu rhwng 2017 – 2020.
- Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Fynwy
- Byw yng Nghymru: Dysgu’n Gymraeg
Ysgol Gymraeg Y Fenni
Ysgol gynradd gymunedol (ystod oedran 3 oed i 11 oed)
Sarah Mcguinness, Prifathrawes
Ysgol Gymraeg Y Fenni St Davids Road Y Fenni Sir Fynwy NP7 6HF
Ffôn: 01873 852388
E-bost: ysgolgymraegyfenni@monmouthshire.gov.uk
Gwefan: http://www.ysgolyfenni.org.uk/
Nifer derbyn: 37
Uchafswm: 252
Ysgol Y Ffin
Ysgol gynradd gymunedol (ystod oedran 3 oed i 11 oed)
Mr J Hallett, Prifathrawes
Ysgol Y Ffin Sandy Lane Cil-y-Coed Sir Fynwy NP26 4NA
Ffôn: 01291 420331
E-bost: huwroberts@monmouthshire.gov.uk
Uchafswm: 180
Nifer derbyn: 25
Ysgol Gyfun Gwynllyw
Ysgol uwchradd
Elan Bolton, Prifathro
Ysgol Gyfun Gwynllyw Folly Road Trevethin Pont-y-pŵl Torfaen NP4 8JD
Ffôn: 01495 750405
E-bost: head.ysgolgyfungwynllyw@torfaen.gov.uk
Nifer derbyn: 182
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn,
Dyffryn,
Casenewydd,
NP10 8BX
Ffon: 01633 851614
Ebost: gwent.iscoed@newport.gov.uk