A oeddech yn gwybod nad yw’n rhy hwyr i ystyried Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer eich plentyn, hyd yn oed os nad oeddynt wedi mynychu Meithrinfa/Ysgol Gynradd Gymraeg ar ddechrau eu haddysg?
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu Canolfannau Trochi Hwyr Cynradd Cymraeg sy’n darparu dysgu dwys yn y Gymraeg, gan alluogi plant i ddod yn rhugl yn y Gymraeg a throsglwyddo’r sgiliau hynny i addysg mewn Ysgol Gymraeg.
Mae canolfannau trochi hwyr wedi’u lleoli yn:
Drwy gydol taith eich plentyn yn y ganolfan drochi, bydd yn derbyn cymorth i ddysgu’r Gymraeg, gan ei alluogi i ddychwelyd i’r dosbarth yn hyderus i gyfathrebu gyda staff a’i gyd-ddisgyblion.
Os hoffech ystyried yr opsiwn hwn ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â accesstolearning@monmouthshire.gov.uk