Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn ganolog i bopeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy.
Anelwn ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a busnesau lleol , i’n helpu i gyflawni hyn gosodwn amcanion a thargedau, gan roi ystyriaeth i’r pethau sy’n bwysig i bobl. Rydym hefyd yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Fynwy lle gweithiwn gyda phartneriaid sector cyhoeddus i wella llesiant yn y sir.
Newyddion Diweddaraf
Unwaith ym mhob cylch etholiadol, mae’n ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru gomisiynu Asesiad Perfformiad Panel. Dyma lle mae’r Cyngor yn penodi panel sy’n cynnwys pedwar aelod sydd â phrofiad helaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus i ymweld â’r cyngor, ac asesu a ydym yn cyflawni ein swyddogaethau’n effeithiol, yn defnyddio adnoddau’n economaidd ac a oes gennym lywodraethu da ar waith. Mae’r panel hefyd yn edrych ar gwmpas a bennwyd gan y cyngor. Yn dilyn eu hasesiad, rhoddodd y panel rai argymhellion i’r cyngor ar sut y gallwn wella ein gwasanaethau ymhellach fyth.
Cwmpas Asesiad Perfformiad Panel Sir Fynwy oedd:
- Pa mor dda y mae’r Cyngor yn cyd-fynd ar draws cyfarwyddiaethau i wneud y gorau o gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.
- Pa gyfleoedd sydd yna i ddatblygu ymhellach ddulliau sy’n dod i’r amlwg gan y Cyngor, sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n ataliol, o weithio gyda’i gymunedau, busnesau lleol a rhanddeiliaid eraill, (gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned).
- Pa mor dda y mae’r Cyngor yn gallu dangos y canlyniadau a fwriadwyd ac effeithiau sy’n dod i’r amlwg o’i Gynllun Cymunedol a Chorfforaethol, a pha mor dda y mae’n eu cyfleu i Gynghorwyr, trigolion a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau lleol?.
At ei gilydd, canfu’r panel fod “Sir Fynwy yn Gyngor uchelgeisiol, sy’n cael ei redeg yn dda, gyda chymunedau wrth ei wraidd a chyrhaeddiad sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn, ynghyd ag ymateb y cyngor i’r argymhellion, isod.
Cliciwch yma am Asesiad Perfformiad Panel Cyngor Sir Fynwy
Cliciwch yma am ymated Cyngor Sir Fynwy i ganfyddiadau yr Asesiad Perfformiad Panel
Adroddiad Hunanasesu 2024/2025
Mae ein hadroddiad hunanasesu blynyddol yn darparu asesiad o ba mor dda yr ydym yn cyflawni’r amcanion yr ydym wedi’u gosod yn ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol. Mae ein hadroddiad hunanasesu diweddaraf yn edrych yn ôl ar berfformiad yn ystod 2024/25, ac yn gofyn y cwestiynau, pa mor dda ydyn ni’n gwneud; sut rydyn ni’n gwybod hynny; a beth a sut allwn ni wneud yn well? Mae’r asesiad yn edrych ar chwe amcan lles y Cyngor, a’r datganiadau ‘yr hyn yr ydym am ei gyflawni’ sydd oddi tanynt. Mae’r adroddiad hefyd yn asesu effeithiolrwydd ein ‘swyddogaethau galluogi’, h.y. y meysydd sy’n cefnogi gwasanaethau’r cyngor i fodloni gofynion newidiol a sicrhau eu bod yn gynaliadwy.
Darllenwch yr adroddiad hunanasesu 2024/2025 yma:
Mae’r adroddiad hunanasesu blaenorol i’w weld yma:
Adroddiad Hunanasesu 2023/2024
Adroddiad Hunanasesu 2023/2024 – Crynodeb
Adroddiad Hunanasesu 2022/23 – Crynodeb
Edrych i’r Dyfodol
Cyhoeddir cynllun cymunedol a chorfforaethol bob pum mlynedd. Mae hyn yn amlinellu uchelgeisiau a gweithredoedd y Cyngor dros y pum mlynedd ganlynol. Caiff y cynllun hwn ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu yn dal i fod yn berthnasol yn yr hinsawdd bresennol. Y cyhoeddiad mwyaf diweddar:
Cynllun Busnes Corforaethol – Adnewyddiad Canol Tymor 2022- 28
Adolygu Perfformiad
Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom gyflawni’r amcanion a osododd y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol. Y cyhoeddiad mwyaf diweddar:
Adolygiadau blaenorol o Berfformiad
Cynllun Busnes Corforaethol – Adnewyddiad Canol Tymor 2017 – 2022
Cynllun Corfforaethol Mesurau Perfformiad
Ffeithlun Cefnogi Sir Fynwy drwy’r Pandemig Coronafeirws
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2020/21
Crynodeb Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cynllun Corfforaethol
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2019/20
Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2018/19
Amcanion a Datganiad Llesiant – Adroddiad Blynyddol 2017/18
Sut wnaethon ni berfformio 2016/17
Mesurau Perfformiad
Mae’r cyngor yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau. Rydym yn monitro pa mor dda y perfformiwn drwy gydol y flwyddyn wrth i ni anelu i osod safonau a, lle mae adnoddau’n caniatáu hynny, sicrhau gwelliant. Mae ein pwyllgorau dethol yn craffu ar berfformiad amrywiaeth o wasanaethau ar hyd y flwyddyn ac mae’n cynlluniau’n cynnwys nifer fawr o fesurau a ddefnyddiwn i fonitro perfformiad.
Adolygiadau Perfformiad
Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom wrth gyflawni’r amcanion a osodwyd.
Cysylltu gyda ni
Mae gennym ddiddordeb bob amser ym marn pobl am sut ydym yn gwneud. Os dymunwch rannu eich barn am ein perfformiad, gallwch anfon e-bost atom yn defnyddio improvement@monmouthshire.gov.uk