
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i bobl sy’n defnyddio ei lyfrgelloedd, rannu eu hadborth a’u hawgrymiadau ar gyfer gwelliannau, fel rhan o ymgynghoriad newydd, Sgwrsio am Lyfrgelloedd.
Bob tair blynedd, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar lyfrgelloedd sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol i gynnal ymgynghoriad i gasglu adborth am y ffordd y mae gwasanaethau llyfrgell yn chwarae rôl mewn bywyd cymunedol a’r manteision a ddaw yn sgil hynny.
Gallwch ymaelodi am ddim â llyfrgelloedd Sir Fynwy, yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Trefynwy a Brynbuga, ac maent yn cynnig cymaint mwy na dewis eang o lyfrau yn unig. Maent yn ganolbwynt i gymunedau lleol; yn cynnig cyfleoedd i gynnal ymchwil a chael hyd i wybodaeth. Maent hefyd yn lleoedd i wneud ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau, lle i gael hyd i e-lyfrau a gwybodaeth ddibynadwy ar iechyd, a llawer mwy. Maent yn helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd trwy ddigwyddiadau, ac yn cynnig gweithgareddau i deuluoedd.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu,: “Yn ystod yr haf, llwyddais i ymweld â’n holl lyfrgelloedd, a sgwrsio â chymaint o gydweithwyr â phosibl yn y gwasanaeth llyfrgell. Clywais â’m clustiau fy hun am rai o’r gweithgareddau gwych, sesiynau, grwpiau a chyfarfodydd sy’n cael eu cynnig drwy’r amser yn ein llyfrgelloedd. Siaradodd pawb am eu cariad at y gwaith y maen nhw’n ei wneud ac rydyn ni’n falch iawn o bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth!
“Rwy’n gwybod hefyd pa mor bwysig yw ein llyfrgelloedd i gymunedau Sir Fynwy, a’u rôl ym mywydau cymaint o bobl. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n defnyddio’u gwasanaeth llyfrgell lleol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
“Bydd eich adborth ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n defnyddio unrhyw agwedd ar y gwasanaeth yn hynod werthfawr. P’un a ydych chi’n mynd â’ch plentyn i sesiwn adrodd straeon, yn defnyddio’r cyfrifiaduron yn y llyfrgell, yn benthyg llyfrau, neu’n galw heibio o bryd i’w gilydd i gael gwybodaeth am wasanaethau lleol, mae eich barn chi’n bwysig.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â’ch llyfrgell leol a chodi copi papur o’r arolwg neu ei lenwi ar-lein www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/lyfrgelloedd-2025.
Bydd yr ymgynghoriad, sydd ar agor i drigolion sy’n 17 oed neu’n hŷn, yn dod i ben am 5pm ddydd Gwener, 17 Hydref 2025. Bwriedir cynnal ymgynghoriad i bobl ifanc 16 oed ac iau, ym mis Mawrth 2026.
I gael gwybod mwy am lyfrgelloedd Sir Fynwy, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/

