Skip to Main Content

Gall trigolion yn Sir Fynwy nawr fenthyg gliniaduron o’u llyfrgell leol i helpu gyda thasgau bob dydd.

Mae’r gliniaduron ar gael drwy Hybiau Cymunedol a Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Fynwy, a nod y cynllun yw helpu pobl i gysylltu â’r byd digidol.

Bydd y cynllun newydd yn helpu trigolion i ddod o hyd i swyddi, rheoli eu harian, dod o hyd i dai, neu ennill sgiliau newydd drwy ddysgu ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol, rydym ni fel Cyngor yn hapus i allu cefnogi trigolion i fynd ar-lein. Bydd gallu benthyg gliniaduron yn caniatáu trigolion sydd angen mynediad i wasanaethau i wneud hynny yn eu cartrefi eu hunain. Os oes angen gliniadur arnoch am gyfnod byr  ond os nad ydych am wario arian ar un newydd, ewch i un o’n Hybiau a’n Llyfrgelloedd heddiw.”

Cynghorydd Angela Sandles

Prynwyd y gliniaduron a fydd ar gael yn ystod y pandemig COVID-19 i helpu disgyblion i barhau â’u dysgu o bell. Nawr, gall trigolion eu defnyddio i gael mynediad i adnoddau ar-lein o gysur eu cartrefi eu hunain.

Os oes angen gliniadur arnoch am gyfnod byr, ewch i un o’r Hybiau Cymunedol neu’r Llyfrgelloedd heddiw.

Er mwyn dysgu mwy, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/.

Tags: , ,