Skip to Main Content

Ar ddydd Sadwrn, 2ail Rhagfyr, daeth pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi profi galar at ei gilydd yng Nghastell Cil-y-coed ar gyfer Digwyddiad Cofio.

Mae’r digwyddiad blynyddol wedi’i drefnu ers 2016 ac mae’n amser i Gyngor Sir Fynwy ddangos cefnogaeth i blant a theuluoedd ar adeg sydd yn medru bod yn anodd iawn.

Drwy gydol y dydd, cafodd pobl ifanc a’u teuluoedd gyfle i gysylltu â’u hemosiynau a’u teimladau o brofedigaeth/colled/galar yn ddiogel drwy 

gyfrwng gweithgareddau creadigol a gynlluniwyd yn ofalus a rhannu atgofion am eu hanwyliaid ar adeg a all fod yn heriol gan fod galar yn rhywbeth sydd mor unigol â’r unigolyn.

Roedd y gweithgareddau drwy gydol y dydd yn cynnwys addurno bara sinsir, cwis, gweithgareddau cerddorol a chreu labeli cof ar gyfer y goeden Nadolig. Gwahoddwyd pobl ifanc i blannu hedyn i ddeall cylch natur ac, yn ei dro, cylch bywyd, a all roi cysur drwy wylio natur yn tyfu ac yn datblygu.

Ar ddiwedd y digwyddiad, ymgasglodd yr holl bobl ifanc a theuluoedd y tu allan a rhoddwyd ffyn swigod iddynt cyn iddynt chwythu dymuniadau i’w hanwyliaid.

Young people and families gathered outside and blew wishes to their loved ones.

Roedd y diwrnod yn caniatáu i bobl ifanc i normaleiddio’r broses o alaru a chynhaliwyd llawer o sgyrsiau drwy gydol y dydd. Gwnaed cyfeillgarwch a rhannwyd atgofion teimladwy am aelodau’r teulu.

Cafodd yr holl weithgareddau eu cynnal a’u cefnogi gan ein tîm Gwasanaethau Plant ymroddedig, sy’n cynnwys cynghorwyr hyfforddedig a nifer o wirfoddolwyr o bob rhan o wasanaethau’r Cyngor.

Pan ofynnwyd iddo am y diwrnod, dywedodd un person ifanc a fynychodd: “Roeddwn yn disgwyl i’r diwrnod fod yn ddiflas, ac roeddwn yn disgwyl gadael yn eithaf buan, ond roedd yn hwyl. Roedd yna gymaint o weithgareddau hwyliog, fel gwneud dynion sinsir a’u haddurno ag eisin a chwistrellau. Roeddem wedi addurno cardiau a chwythu swigod ar y diwedd. Drwy gydol y dydd, ces i gefnogaeth yn ystod marwolaeth fy nhad, a phan oeddwn i’n ysgrifennu’r cerdyn, fe wnaeth i mi deimlo bod fy Nhad yn dal gyda mi, ac roedd fel ysgrifennu cerdyn iddo i mi fynd adref o’r ysgol. Rwy’n meddwl y byddaf yn mynychu y tro nesaf y mae’n cael ei gynnal, gan ei fod yn llawer mwy o hwyl nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae gallu cefnogi plant a theuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn yn hanfodol. Mae’n normal cael teimladau ac emosiynau gwahanol ynghylch colli rhywun annwyl. Diolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr a fu’n cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd drwy gydol y dydd ac sy’n parhau i wneud hynny drwy gydol y flwyddyn. Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod a allai deimlo’n agored i niwed ar adeg anodd. Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod angen cefnogaeth, cysylltwch â’n tîm.”

Mae gan Gyngor Sir Fynwy lawer o adnoddau i gefnogi pobl sy’n wynebu profedigaeth: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/adnoddau-profedigaeth/

Tags: ,