Skip to Main Content

Mae pawb yn galaru’n wahanol

Mae galar yn broses weithredol sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi ateb heriau newydd. Bydd rhai pobl yn dangos eu teimladau ac yn agored emosiynol. Bydd eraill yn profi galar yn fwy mewnol ac efallai na fyddant yn wylo. Ni ddylech geisio barnu sut mae person yn profi eu galar, gan y bydd profiad pob person yn wahanol. Nid oes unrhyw ffordd iawn neu anghywir i alaru.

Gallai gwahanol ffactorau effeithio ar eich ymateb i brofedigaeth

  • natur y berthynas gyda’r person a fu farw
  • effaith y farwolaeth ar aelodau eraill o’r teulu
  • natur y farwolaeth
  • effaith y farwolaeth ar drefn dydd i ddydd a threfniadau ymarferol
  • y gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi gyda’r farwolaeth
  • profiad blaenorol o brofedigaeth
  • sut y cawsoch eich hysbysu am y farwolaeth

Teimladau

Tristwch

Dicter

Euogrwydd

Hiraeth

Teimlad o fod wedi fferru

Sioc

Cenfigen

Unigrwydd

Diymadferthedd

Pryder

Blinder

Gollyngdod

Rhyddhad

Meddyliau

Anghrediniaeth

Synfyfyrdod

Teimlo’n ddiwerth

Dryswch

Rhith-weld

Colli ystyr

Teimlad corfforol

Gwacter yn y stumog

Brest yn dyn

Gwddf yn dyn

Allan o wynt

Diffyg egni

Ceg sych

Gorsensitif i sŵn

Ymdeimlad o ddadbersonoli (dim yn ymddangos yn real, yn cynnwys eich ymdeimlad o chi eich hun)

Ymddygiad

Colli cwsg

Colli archwaeth

Anghofus

Breuddwydion / Hunllefau

Hunanymholi

Ochneidio / Wylo

Gorfywiog

Trysori eitemau

Osgoi pethau sy’n eich atgoffa

Syniadau ar beth sy’n digwydd yn ystod galar a cholled

Cyfnodau galar

Nid yw’n rhaid fod rhywun sy’n galaru yn mynd drwy’r cyfnodau yn yr un drefn, gallant wedyn ddychwelyd i gamau blaenorol neu eu profi i gyd.

Gwadu: “All hyn ddim bod yn digwydd”. Yr amsugnydd sioc, yn ein helpu i ymdopi a goroesi’r golled. Gallwch wrthod derbyn y ffaith fod colled wedi digwydd. Gallwch leihau neu wadu’r sefyllfa yn llwyr.

Dicter: “Pam fod hyn yn digwydd i fi?”. Cwestiynau beth ddigwyddodd, sut y gwnaeth ddigwydd, a oes rhywun ar fai? Pan sylweddolwch fod colled wedi digwydd, gallwch ddod yn ddig atoch eich hun neu eraill. Gallech ddadlau fod y sefyllfa yn annheg a cheisio rhoi bai.

Bargeinio: “Fe fyddwn i’n gwneud unrhyw beth i newid pam”. Y “beth petai” a’r “os”. Gallwch geisio newid neu oedi’r golled. Er enghraifft, efallai y gallwch chwilio am iachâd annhebygol.

Tristwch: “Beth yw’r dyfodol ar ôl y golled yma?” Mae’r tristwch dwys yn ein taro, mae’n teimlo fel pe byddai’n mynd i barhau am byth. Rydych wedi dod i sylweddoli fod colled wedi digwydd neu y bydd yn digwydd. Gallwch ynysu eich hun a threulio amser yn wylo a galaru.

Derbyn: “Fe fydd yn iawn”. Dysgu byw yn y lle newydd hwn, derbyn yr hyn sydd wedi digwydd a lle’r ydym yn canfod ein hunain yn awr. Daethoch i dderbyn y golled. Rydych yn deall y sefyllfa yn rhesymegol, ac wedi dod i delerau’n emosiynol gyda’r sefyllfa. Gallwch ymchwilio opsiynau newydd a chreu cynlluniau newydd fydd yn eich helpu i symud ymlaen.

Syniadau ar yr hyn sy’n digwydd yn ystod galar a cholled

Pedair Tasg Galaru

Derbyn realaeth y golled

Wynebu’n llawn y realaeth fod y person wedi marw ac na fydd yn dychwelyd.

Gweithio drwy boen galar

Mae’r dasg hon yn golygu fod angen i’r sawl a gafodd brofedigaeth gydnabod y gwahanol emosiynau a’r boen, yn hytrach na chuddio neu osgoi’r teimladau hyn, er mwyn gweithio drwyddynt.

Addasu i amgylchedd heb y sawl a fu farw

Bydd y dasg hon yn amrywio yn seiliedig ar natur y berthynas gyda’r person a fu farw. Gall fod angen mabwysiadu rôl neu swyddogaeth yr oedd y sawl a fu farw unwaith yn ei llenwi. Gall olygu na all arferion neu weithgareddau a rannwyd ddigwydd mwyach fel yr oeddent unwaith.

Canfod cysylltiad parhaol gyda’r sawl a fu farw tra’n dechrau ar fywyd newydd:

Er na all dim eich gorfodi i anghofio’n llwyr am eich perthynas gyda’r sawl a fu farw, y nod yw canfod lle priodol i’w hatgof yn eich bywyd. Gallai hyn olygu fod angen rhoi’r gorau i ymlyniadau, fel y gellir dechrau ffurfio perthnasoedd newydd ac ystyrlon..

Syniadau ar yr hyn sy’n digwydd yn ystod galar a cholled

Mae’r model hwn yn cyflwyno amgen i’r syniad o gyfnodau neu gamau galar ac yn herio’r awgrym fod galar “yn cilio mewn amser”.

Yn ôl y syniad hwn, mae galar yn dechrau fel bod yn hollysol ac mewn gwirionedd mae’n aros yr un maint a dwysedd – ond mae’r person a gafodd brofedigaeth yn tyfu ‘o amgylch’ eu galar.

Mae’r canlyniad yn edrych rywbeth tebyg i wy wedi ffrio, gyda’r gwynwy yn cynrychioli eich bywyd a’r melynwy yn cynrychioli eich galar – felly caiff y syniad hwn o alar weithiau ei alw y ‘model wy wedi ffrio”.

Byddwch yn cael profiadau newydd, cwrdd â phobl newydd a dechrau canfod enydau o fwynhad. Yn araf, bydd yr enydau hyn yn tyfu ac yn dod yn amlach – mae eich bywyd yn tyfu tu hwnt i’ch galar.

Helpu eich hunan

Beth wnaeth fy helpu ar y pryd?

Sut wnes i helpu fy hunan?

A oes unrhyw un o’r syniadau ar golled yn fy helpu i ddeall fy mhrofiad fy hun?

Pa help oedd ar goll ?

Beth oedd ddim yn fy helpu ar y pryd ?

Mathau o alar

Galar arferol neu gyffredin

Yn groes i’r hyn mae’r teitl yn awgrymu, nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar amser neu ddifrifoldeb galar arferol. Yn hytrach, meddyliwch am alar arferol fel unrhyw ymateb sy’n debyg i’r hyn y medrech dybio y byddai galar yn edrych (os yw hynny’n gwneud unrhyw synnwyr!).

Mae’r rhai sy’n profi galar arferol yn medru parhau i weithredu yn eu gweithgareddau dyddiol sylfaenol er y teimladau o alar. O’r tu allan gall ymddangos fel pe nad yw wedi effeithio ar y person ond mae poen, teimlad o fod wedi fferru a theimladau eraill yn dal i fod yn bresennol dan yr wyneb ‘arferol’. Mae’n gyffredin i deimladau dwys o alar ddod mewn cyfnodau, felly efallai nad ydynt yn amlwg i bawb os nad ydynt bob amser gyda’r sawl sy’n galaru.

Galar rhagflaenorol

Gallai’r math hwn o alar ddigwydd gan ddisgwyl llawer o wahanol fathau o golled, ond efallai mai’r amlycaf yw mewn disgwyliad o farwolaeth person. Mae galar rhagflaenorol yn ein helpu i baratoi’n emosiynol i ymdopi gyda’r golled sydd i ddod.

Ar gyfer rhai sy’n rhoi gofal i berthynas,  gall galaru ddechrau yn hir cyn i’r person yr ydych yn gofalu amdano farw. Er enghraifft, os oes rhywun agos atoch yn cael diagnosis o salwch terfynol neu os ydym yn darganfod mai dim ond cyfnod byr sydd gan un o’n hanwyliaid ar ôl i fyw – gallwch ddechrau galaru gan ddisgwyl yr hyn sydd i ddod.

Gall fod yn anodd ymdopi gyda galar rhagflaenorol, gan y gallech fod eisiau aros yn gryf neu ymddangos yn gadarnhaol felly gallwch gefnogi’r person sy’n wael. Gall fod yn anodd siarad gydag eraill am alar rhagflaenorol oherwydd fod y person y gofalwch amdano yn dal yn fyw a gallech gael teimladau o euogrwydd neu ddryswch am pam eich bod yn teimlo’r math hwn o alar. Er ei fod yn anodd iawn, gobeithio y bydd y broses alaru estynedig yn rhoi amser i chi ffarwelio gyda’ch anwylyd a pharatoi ar gyfer y dyfodol..

Galar trawmatig

Mae hyn yn fwy tebygol o gael ei brofi pan gawn ein hwynebu gyda cholled anwylyd yn sydyn, treisgar a/neu annisgwyl. Mae colledion nad ydym wedi paratoi ar ein cyfer, yn neilltuol os na allwn fod yn bresennol neu gydio neu gyffwrdd yn yrhai a gollwn, yn anodd eu deall a’u gwneud yn real. Gallai geiriau a sefyllfaoedd ein hatgoffa’n rhwydd am ein hanwylyd, a gallem fod angen amser i leihau ein gafael tyn ar atgofion ac eitemau personol.

Strategaethau Ymdopi

Blwch atgofion

Rhowch bethau i’ch atgoffa fel eu bod i gyd mewn un lle ac yn rhwydd dod o hyd iddynt

  • Cardiau o achlysur arbennig, neu o bobl bwysig penodol yn eich bywyd
  • Ffotograffau
  • Tocynnau i ddigwyddiadau arbennig.
  • Atgofion am wyliau
  • Celfwaith
  • Llyfrau ysgol
  • Tystysgrifau a thlysau
  • Cardiau cyfarch a gawsoch gan eich anwylyd
  • Taflen eu gwasanaeth angladd
  • Papur newydd diwrnod geni eich anwylyd.
  • Darnau arian o flwyddyn geni eich anwylyd.

Ysgrifennu llythyr, cerdd neu gân i rywun yn eich bywyd

Efallai y gall hyn hefyd fod yn ffordd i ddweud ffarwel. Gallech ddweud wrth y person y pethau y dymunwch y byddech wedi eu dweud. Dywedwch wrthynt am uchafbwyntiau eich bywyd. Chi piau’r llythyr/gerdd yma ac nid oes angen ei ddilysu gan neb arall.

Gwneud darlun neu wneud collage o ffotograffau

Gadewch i’ch emosiynau allan mewn ffordd greadigol yr ydych yn ei mwynhau. Peidiwch ofni eich emosiynau na’ch atgofion, da neu wael.

Plannu coeden / perth / bylbiau / hadau

Gallai fod yn braf dewis coeden neu berth sy’n blodeuo fod yn braf i’w phlannu er cof am eich anwylyd.  Mae blodau yn tynnu eich sylw, gan ei wneud yn amser arbennig pan mae’r goeden goffa yn ei blodau. Efallai y bydd yn blodeuo tua amser y flwyddyn pen-blwydd neu farwolaeth eich anwylyd, neu fod ei blodau mewn lliw y gallech ei gysylltu gyda’r anwylyd.

Gwnewch yn siŵr fod beth bynnag rydych yn ei gynllunio yn addas ar gyfer yr ardal lle caiff ei dyfu ac nid yn anodd iawn ei dyfu.

Gallech hefyd gyflwyno coeden goffa fel rhodd gyda sefydliad.

Papur plannu hadau

Mae papur plannu yn eco-bapur pydradwy a wneir gyda hen ddeunyddiau gyda hadau ynddo. Pan gaiff y papur ei blannu mewn pot o bridd, mae’r hadau’n tyfu a’r papur yn compostio. Y cyfan sydd ar ôl yw blodau, perlysiau neu lysiau, a dim gwastraff.

Cynnau cannwyll neu osod golau gardd

Am ganrifoedd mae pobl ym mhob rhan o’r byd wedi cynnau canhwyllau i gofio am anwyliaid a fu farw, ac fel ffordd o iachau’r gorffennol a dod â gobaith ar gyfer y dyfodol. Mae cadw golau’n llosgi i gofio yn arwydd fod y cof yn dal i fyw ac yn llosgi’n danbaid.

Gellir defnyddio tanio cannwyll fel dull myfyrio. Mae’r ddefod syml o gynnau cannwyll ac edrych ar y fflam fflachiog yn tawelu ac yn ymlacio.

Chwarae cân arbennig neu greu rhestr chwarae

Mae cerddoriaeth yn anhygoel o atgofus a gall rhai tonnau wneud i ni ddal ein hanadl neu gludo ein hatgofion yn ôl i enydau arbennig mewn amser.

Coginio hoff bryd bwyd

Gallech goginio hoff bryd bwyd ar ben-blwydd marwolaeth eich anwylyd.

Albymau lluniau ac atgofion ar-lein

Chwiliwch am yr albymau teuluol ac edrych drwyddynt. Cymerwch eich tro yn edrych i flwch esgidiau o hen luniau a gwrando ar yr atgofion.

Mae map atgofion yn ffordd wych i gadw atgofion yn fyw ac ailedrych arnynt pan fyddwch yn meddwl am rywun a garwch ar ben-blwydd eu marwolaeth. Gallwch ei gadw yn breifat, neu wahodd ffrindiau a pherthnasau i rannu ffotograffau, atgofion a theimladau annwyl.

Gemwaith atgoffa

Yn y 19eg ganrif, roedd gemwaith galar yn cynnwys cadwynau, locedi a hyd yn oed drincedi wedi eu gwneud o wallt dynol. Heddiw, mae crefftwyr a chynllunwyr a all greu gleiniau gwydr a hyd yn oed ddiemyntau o ludw anwylyd, tra bod loced arian wedi eu hengrafu yn ffordd hardd i ddal rhywun yn agos at eich calon. Gallai breichled swynau fod yn ffordd o nodi’r flynyddoedd sy’n mynd heibio ar ben-blwydd marwolaeth rhywun, gyda phob swyn newydd yn adlewyrchu atgof arbennig.

Gofalu am eich iechyd corfforol ac emosiynol

  • Ymarfer
  • Bwyta bwyd iach
  • Ceisio cadw at arferion
  • Gostwng pethau sy’n anodd i chi
  • Rhoi amser i ymlacio
  • Gofyn am gymorth

facetoface@monmouthshire.gov.uk