Skip to Main Content

Wrth i Lywodraeth Cymru symud ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol. 

Mae tîm maethu nid-er-elw Cyngor Sir Fynwy – Maethu Cymru Sir Fynwy – yn canolbwyntio ar leoli plentyn neu berson ifanc yn y cartref cywir, gan sicrhau eu bod yn aros yn yr ardal leol ac yn agos at amgylchedd cyfarwydd. Gall pobl garedig, ofalgar wneud gwahaniaeth drwy gynnig gofal therapiwtig, seibiannau byr neu ofal brys, gyda chefnogaeth y tîm ymroddedig.

Mae gofalwyr maeth Sir Fynwy yn cael mynediad i rwydwaith cymorth sy’n cynnwys gweithiwr cymdeithasol penodedig, i ddarparu cyngor a system cymorth annibynnol trwy Ofalwyr Maeth ar gyfer Gofalwyr Maeth, grwpiau gofalwyr maeth rheolaidd, mentora unigol gan ofalwyr maeth profiadol sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Arloesi, mynediad i gefnogaeth cymheiriaid i ofalwyr maeth gwrywaidd Dynion sy’n Gofalu, a llawer mwy. 

Yng Nghymru, mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros o fewn eu hardal leol, yn agos i’w cartref, ysgol, teulu a ffrindiau.

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Ian Chandler, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Mae gofalwyr maeth yn Sir Fynwy yn gwneud gwaith gwych, yn darparu gofal ac arweiniad i bobl ifanc. Gyda chefnogaeth gan dîm di-elw Maethu Cymru Sir Fynwy, gallwch effeithio ar fywydau pobl ifanc yma yn Sir Fynwy. Trwy ein tîm lleol, bydd gennych chi rwydwaith cymorth lleol a chyfleoedd hyfforddi, felly ni fyddwch byth yn teimlo’n unig. Nid oes amser gwell i gymryd rhan. Os ydych yn ymweld â Sioe Brynbuga ar 9 Medi, galwch draw i babell fawr Sir Fynwy ar faes y sioe. Ymunwch â ni am gacen. Neu byddwn hefyd yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ar y penwythnos canlynol. Rydym yn edrych ymlaen at siarad â phawb.” 

Cllr Ian Chandler

Am fwy o wybodaeth am faethu a sut i drosglwyddo i Faethu Cymru Sir Fynwy, ewch i: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/

Tags: , , ,