Skip to Main Content

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n byw yn Sir Fynwy ond na sy’n mynychu eu hysgol agosaf neu ddalgylch yn gallu gwneud cais am gludiant rhatach. Nid yw cludiant wedi’i warantu a bydd yn cael ei ddyfarnu dim ond os oes seddi gwag ar gontractau presennol. Os dyfernir cludiant bydd tâl o £440. Nid oes rhaid talu hwn fel un swm ar yr un pryd a gellir ei dalu drwy gynllun rhandaliadau y cytunwyd arno. Yr unig amod yw bod rhaid talu’r £440 cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Os nad ydych yn byw yn Sir Fynwy ond bod gennych blentyn yn mynychu ysgol yn Sir Fynwy, ni fyddant fel arfer yn gymwys i gael cludiant. Fodd bynnag, os bydd gennym seddi gwag ar ôl wedi i holl geisiadau trigolion Sir Fynwy gael eu hystyried, byddwn yn ystyried ceisiadau gan drigolion nad ydynt yn byw yn Sir Fynwy. Os dyfernir seddi nid oes sicrwydd y bydd y sedd ar gael am hyd y flwyddyn academaidd gan y bydd cais gan ddysgwr sy’n gymwys am gludiant statudol yn golygu y bydd y sedd yn cael ei hail-ddyrannu iddynt.

Nid yw Cludiant Rhatach yn wasanaeth statudol ac fe’i cynigir yn ôl disgresiwn, ac felly nid oes hawl i apelio os na ddyfernir sedd Rhad i chi. Asesir ceisiadau prif ffrwd yn gyntaf, Ôl-16 yn ail a Gostyngiadau yn drydydd, ac asesir ceisiadau am gludiant rhatach ar sail y cyntaf i’r felin.

Ni fydd disgyblion yn cael eu hawdurdodi i ddefnyddio Lleoliad Rhatach nes bod yr Uned Cludiant Teithwyr wedi cadarnhau hynny’n swyddogol. Os dyfernir cludiant i chi a’ch bod yn symud ysgol neu gyfeiriad, yna dylech hysbysu’r Uned Cludiant Teithwyr ar unwaith yn ysgrifenedig fel y gallwn ailasesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cludiant. Os caiff eich sedd ei chanslo wedyn, byddwn yn adolygu’r balans ar unrhyw daliadau ac os bydd angen, byddwn yn rhoi ad-daliad i chi. Os ydych yn talu mewn rhandaliadau, byddwn yn cyfrif y ffi sy’n ddyledus ar yr adeg y caiff y cludiant ei dynnu’n ôl ac yn eich hysbysu o hynny. Byddwch yn parhau i fod yn atebol am unrhyw daliadau sy’n ddyledus. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau am deithio rhatach ar gyfer unrhyw ddysgwr sydd â balans yn weddill o flwyddyn academaidd flaenorol.

Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am gludiant, cyfeiriwch at y nodiadau canllaw sydd i’w cael drwy ddilyn y ddolen isod.

Trwy gofrestru a chwblhau’r ffurflen ar-lein gallwch olrhain cynnydd eich cais a derbyn diweddariadau wrth iddi gael ei phrosesu. Ar ôl cofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael yn adran Ysgolion a Dysgu Fy Sir Fynwy.

Os ydych wedi cofrestru eisoes gan ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Cliciwch yr eicon islaw i lenwi’r ffurflen –