Mae ein gwasanaeth cyflwyno tenantiaid yn drwyadl iawn a dylai roi hyder i chi ein bod wedi canfod y tenant gorau ar gyfer eich eiddo.
- Cyngor ar y lefel rhent gorau ar gyfer eich eiddo
- Cytuno ar y rhent gyda chi a marchnata eich eiddo ar y pris hwnnw
- Mynd gyda phob darpar denant pan fyddant yn gweld eich eiddo a rhoi adborth i chi
- Achredu darpar denantiaid yn cynnwys: eu hanes tai, unrhyw ôl-ddyledion rhent blaenorol, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddifrod i eiddo.
- Cyfweld pob darpar denant i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y sector rhent preifat ac y gallant fforddio talu’r rhent.
- Llunio a goruchwylio llofnodi cytundeb tenantiaeth.
- Sicrhau fod gan bob tenant o leiaf un mis o ernes hyd at uchafswm o £1500 ar gyfer difrod gan y tenant yn unig (nid yw hyn yn cynnwys celfi)
- Trefnu achrediad landlord gyda Rhentu Doeth Cymru.
- Helpu gyda chofrestru ar gyfer Rhentu Doeth Cymru.
- Archwilio’r eiddo ar ddechrau a diwedd y denantiaeth, a all gynnwys cofnod ysgrifenedig a ffotograffig.
- Cefnogi’r tenant i agor cyfrifon cyfleustodau ar gyfer yr eiddo.