Skip to Main Content



Chwilio am ffordd arall a chost-effeithiol o rentu eicheiddo
?

Mae Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy (MLS) a reolir gan Gyngor Sir Fynwy, yn bartner dibynadwy, proffesiynol a dibynadwy i landlordiaid sydd am osod eu heiddo heb drafferth a chost asiantau gosod y stryd fawr, yn rhad ac am ddim.

Mae Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau prydlesu gyda chymhellion wedi’u teilwra i fodloni gofynion eich landlord ar gyfer yr eiddo cywir.

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy a chael budd o’n gwasanaeth rheoli eiddo sy’n ddi-drafferth, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi ein ffurflen gyswllt gychwynnol gan nodi rhai manylion sylfaenol am eich eiddo, fel lleoliad, maint, math o eiddo, a lefel y rhent y byddech yn hoffi sicrhau.

Ar ôl ei dderbyn, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.

Croeso i Wasanaeth Gosod Sir Fynwy

Yn sgil ein profiad, rydym yn gwybod y gall gosod eich eiddo fod yn fusnes cymhleth mewn marchnad sy’n newid yn barhaus, yn ogystal â goblygiadau  Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016. Gall newidiadau yn y gofynion cyfreithiol ar gyfer landlordiaid ac amrywiadau yn y farchnad rentu fod yn faich ar landlordiaid. Gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth i bob Landlord, p’un ai ydych newydd gaffael eich eiddo cyntaf, hyd at y rhai sydd â phortffolio mawr. Mae ein gwasanaethau wedi’u cynllunio i gyd-fynd ag anghenion landlordiaid, gan ddibynnu faint o rôl ydych am chwarae yn y gwaith o reoli eich eiddo.

O dan ymbarél GGSF, y cynlluniau sydd ar gael yw Prydlesu Preifat, Gosodiadau a Reolir a Chynllun Prydlesu Cymru. Mae gan bob cynllun ei fanteision unigryw ei hun fel y nodir isod