Skip to Main Content

Pam ein dewis ni?

Deallwn y gall gosod eich eiddo fod yn fusnes cymhleth mewn marchnad sy’n newid yn barhaus. Gall newidiadau yn y gofynion cyfreithiol ar gyfer landlordiaid ac amrywiadau yn y farchnad rhent fod yn faich i landlordiaid. Gallwn gynnig cyngor a chymorth i bob Landlord, p’un ai ydych newydd sicrhau eich eiddo cyntaf, hyd at y rhai gyda phortffolio mawr. Cafodd ein gwasanaethau eu cynllunio i gyfateb anghenion landlordiaid yn dibynnu ar faint o ran rydych eisiau ei gymryd, neu y gallwch ei gymryd, wrth reoli eich eiddo.

Gan fod yn rhan o staff y Cyngor, mae gan Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy y fantais unigryw o fod â chysylltiadau agos gyda thimau mewnol a hefyd gyrff allanol tebyg i Budd-dal Tai a gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai i helpu yn brydlon ac ateb ymholiadau neu ddatrys problemau mewn modd proffesiynol. Bydd ein staff rheoli tenantiaethau gwybodus a chyfeillgar yn rheoli eich eiddo, gan gynnal archwiliadau rheolaidd ar yr eiddo.

Mae ein cynnig yn gystadleuol iawn, gan yn wahanol i asiantaethau gosod stryd fawr, nid ydym yn codi ffioedd am ein gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae cwmpas ein gwasanaethau yn ehangach na gosodiadau stryd fawr.

Rydym yn cynnig nifer o gynlluniau. Bydd gan  landlordiaid swyddog penodol o fewn yr adran fel man cyswllt. Bydd y Swyddog Llety yn rheoli’r eiddo, cynnal archwiliadau eiddo rheolaidd a delio gydag atgyweiriadau dydd i ddydd, gan gysylltu gyda chi fel sydd angen:

Cynllun Prydlesau Preifat

Dan y cynllun hwn, caiff eiddo ei osod ar brydles i’r Awdurdod Lleol i’w ddefnyddio fel llety dros dro ar gyfer aelwydydd digartref. Gall landlordiaid osod ar brydles i ni am isafswm cyfnod o 12 mis gyda gwarant o incwm rhent yn cael ei dalu bob mis ymlaen llaw.

Gosod wedi’i Reoli

Gadewch i’n tîm o swyddogion profiadol ganfod y tenant cywir ar gyfer eich eiddo rhent preifat.

Cynllun Prydlesau Cymru

Mae hwn yn gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru lle gallwch osod eich eiddo ar brydles i Gyngor Sir Fynwy am 5 i 20 mlynedd. Mae’r cynllun yn cynnig pecyn rheoli eiddo llawn i landlordiaid yn cynnwys gwaith trwsio a chynnal a chadw gyda gwarant o incwm rhent.