IMG_20160805_183830

Pan ddaw i Sir Fynwy a’r Iaith Gymraeg, byddai llawer o bobl yn ei chael yn annisgwyl clywed fod y Gymraeg mewn sefyllfa gref yn y sir hon ar y Gororau.

  • Adeg Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf Cyngor Sir Fynwy yn 1998, roedd llai o alw am wasanaethau Cymraeg nag erioed, yn ôl unrhyw gyfrif. Dangosodd cyfrifiad 1991 mai dim ond 2.3% o boblogaeth Sir Fynwy oedd yn siarad Cymraeg ac ni ymddangosai y byddai’r iaith bydd yn gweld adfywiad yn yr ardal.
  • Fodd bynnag dangosodd cyfrifiad 2001 bod newidiadau sylweddol wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ym mhroffil ieithyddol y sir. Cafodd sefydlu dwy ysgol gynradd Gymraeg, Ysgol y Ffin ac Ysgol Gymraeg y Fenni, cynnwys y Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol a’r diddordeb cynyddol mewn dysgu’r iaith ymysg pobl o bob oed yn y sir eu dangos mewn cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn uniaethu fel siaradwyr Cymraeg: cyfanswm o 9.3% o boblogaeth y sir. Roedd y twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc yn arbennig o amlwg. Hefyd roedd siaradwyr Cymraeg o ardaloedd traddodiadol Gymraeg naill ai wedi symud i’r ardal i weithio yn y trefi a’r dinasoedd mawr yn yr ardal neu berthnasau wedfi symud i roi cefnogaeth gyda gofal teulu.
  • Dangosodd Cyfrifiad 2011 unwaith eto gynnydd bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn Sir Fynwy o 9.3% i 9.9% neu 8,780 o bobl (yn hynod yn un o ddim ond dau o’r 22  Cyngor yng Nghymru i weld cynnydd). Mae’r awdurdod yn falch i fod wedi chwarae rhan yn hyn oherwydd y gwasanaeth Cymraeg y mae’n ei ddarparu fel cyngor, a hefyd ar lefel ysgolion ac addysg oedolion, sydd ill dau yn ffynnu yn y Sir.

Digwyddodd nifer o bethau allweddol yn y gorffennol diweddar a gafodd effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yn y sir:

  • Fel canlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, dyrannwyd cyfres o Safonau’r Gymraeg i’r cyngor yr oedd yn rhaid iddo gydymffurfio â nhw. 
  • Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy ym mis Awst 2016 a gwelwyd cynnydd anhygoel yn y galw am ddysgu Cymraeg yn y sir, cynnydd sy’n parhau hyd heddiw.
  • Mae gan y cyngor Strategaeth ar gyfer y Gymraeg sy’n nodi ei weledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn y sir dros y cyfnod 2017-22. (Caiff hyn ei ddiweddaru yn gynnar yn 2022).
  • Yn 2017 cyhoeddodd y  Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 3 blynedd. (Caiff y ddogfen ei diweddaru tuag at ddiwedd 2021 a bydd yn strategaeth 10 mlynedd).

Dogfennau

Addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg yn y sir yn parhau i ffynnu gyda rhieni yn sylweddoli y gwerth i’w plant gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan y sir ddwy ysgol gynradd, un yn y Fenni ac un yng Nghil-y-coed a chaiff darpariaeth uwchradd ei chyflenwi gan Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl ac Ysgol Gyfun Is-coed yng Nghasnewydd

Manteision Addysg Ddwyieithog

Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg

Ysgol Gymraeg y Fenni

Ysgol Gymraeg y Ffin

Ysgol Gyfun Gwynllyw

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed

Mae galw mawr am ddosbarthiadau addysg oedolion yn y Gymraeg a chynhelir dosbarthiadau ym mhob rhan o’r sir yn ystod y dydd a hefyd gyda’r nos mewn amrywiaeth fawr o drefi a safleoedd.

Consortiwm Cymraeg i Oedolion Coleg Gwent

Mae’r Fenter Iaith leol (Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy) yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn parhau i gael dylanwad cadarnhaol iawn ar draws y 3 sir ac ar y cannoedd lawer o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg y mae’n eu cefnogi.

Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen Mynwy

Mae gan Sir Fynwy a’i chymdogion agos nifer o glybiau a chymdeithasau lle gellir siarad ac ymarfer yr iaith: 

Cymdeithas Gymraeg Trefynwy

Cas-gwent, Cil-y-coed a’r cyffiniau

Cymreigyddion y Fenni

Yr Urdd

Cyfleoedd dysgu ac ymarfer

Sir Fynwy

Torfaen

Blaenau Gwent

Cwynion yn ymwneud â’r Gymraeg

Y Gymraeg, Safonau a Chydymffurfiaeth

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau neilltuol i gydymffurfio gyda safonau’n ymwneud â’r Gymraeg drwy is-ddeddfwriaeth (Safonau Rheoleiddio’r Gymraeg). Caiff y safonau a gyhoeddwyd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy eu rhestru yn Hysbysiad Cydymffurfiaeth Cyngor Sir Fynwy – Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru); – gweler y ddolen uchod.

Bydd cwynion neu bryderon yn ymwneud â’r Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a’r camau a amlygwyd ym mholisi Cwynion Corfforaethol y Cyngor. Fel y cyfeiriodd y polisi hwn ato eisoes, bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu os yw’r awdurdod neu’r maes gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu’n unol â pholisïau a gweithdrefnau a gymeradwywyd.

Caiff cwynion yn ymwneud â’r Gymraeg a diffyg cydymffurfiaeth posibl gyda Safonau’r Gymraeg eu harwain gan y Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Gymraeg mewn cysylltiad â’r Rheolwr Cwynion Corfforaethol a swyddogion o’r cyfarwyddiaethau neu feysydd gwasanaeth dan sylw. Bydd swyddogion yn dilyn y dull gweithredu corfforaethol hwn wrth ddelio gydag unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg.

Os teimlwch na chafodd y gŵyn ei datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd gyda’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch weithredu eich hawl i gwynio’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:

  • Ffonio 0845 6033221
  • E-bost post@comisiynyddygymraeg.org
  • Ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg, Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol Santes Fair, Caerdydd CF10 1AY

Os dymunwch drafod unrhyw fater yn ymwneud â’r Gymraeg, cysylltwch ag Alan Burkitt (Swyddog y Gymraeg) ar  01633 644010 neu alanburkitt@monmouthshire.gov.uk os gwelwch yn dda.