Yn ddelfrydol bydd pob person ifanc yn aros gyda’u huned teulu nes byddant yn oedolion fel bod symud i fyw’n annibynnol yn rhywbeth sydd wedi’i gynllunio. Yn anffodus nid yw pethau bob amser yn gweithio allan fel hyn ac ni all rhai pobl ifanc aros adref am resymau tu hwnt i’w rheolaeth.

Nid yw’n debyg y cewch eich ystyried yn ddigartref os ydych yn dewis gadael llety sy’n addas i chi ac sy’n dal i fod ar gael i chi ddychwelyd iddo. Ni fydd peidio dod ymlaen gyda’ch rhieni neu warcheidwaid neu fod eisiau eich lle eich hun o reidrwydd yn galluogi’r awdurdod i ystyried ei bod yn afresymol i chi aros adre.

Gellir disgwyl rhywfaint o ddadlau a gwrthdaro fel rhan arferol o dyfu lan a dylech feddwl yn ofalus sut y gallai eich ymddygiad eich hun fod yn gwneud pethau’n anodd i chi adref. Gallwn drefnu i’ch rhiant neu warcheidwad a chithau i weld arbenigwr cyfryngu i ddatrys gwrthdaro o fewn y cartref.

Nid yw gadael cartref cyn eich bod yn oedolyn yn eich rhyddhau o reolau a chyfyngiadau ac mewn llawer o ffyrdd gall wneud pethau’n fwy anodd i chi na’ch sefyllfa bresennol. Bydd yn rhaid i chi fyw ymysg pobl nad ydych yn eu hadnabod, mewn llety na fedrwch ei ddewis, a all fod â rheolau mwy llym nag ydych wedi arfer â nhw, a hefyd fod â mwy o gyfrifoldeb drosoch eich hun na pha byddech yn aros gartref.

16/17 oed

Os ydych yn 16/17 oed a dan fygythiad dod yn ddigartref neu eisoes yn ddigartref bydd angen i ni gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am eich gofal a phenderfynu os mai’r peth gorau i chi yw dychwelyd adre, byw gyda pherthnasau eraill, p’un ai yw cyfryngu teuluol yn addas ac os y dylid darparu llety argyfwng. Os na allwch ddychwelyd adref, gwneir atgyfeiriad i chi weld gweithiwr cymdeithasol am asesiad dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Cewch hefyd eich cyfeirio i’r Swyddog Llety Pobl Ifanc am gefnogaeth os na allwch ddychwelyd i’r cartref teuluol.

Dros 18 oed a dan 25 oed

Os ydych yn cysylltu â’r Cyngor fel bod yn ddigartref, bydd y Tîm Opsiynau Tai yn gwrando arnoch ac yn asesu eich amgylchiadau dan ddeddfwriaeth digartrefedd. Nid yw bod yn berson ifanc yn golygu eich bod yn gymwys yn awtomatig am gynnig llety, unwaith eich bod yn 18 oed rydych fel arfer yn gyfrifol am eich cartref eich hunan. Ar ôl dweud hynny, mae gan y Cyngor Swyddog Llety Pobl Ifanc fydd yn gweithio gyda chi. Os credir eich bod dan fygythiad dod yn ddigartref neu eisoes yn ddigartref, bydd y Swyddog yn eich helpu i ganfod llety addas a’ch cyfeirio am gefnogaeth yn gysylltiedig â’ch amgylchiadau.

Os ydych yn ddigartref ar hyn o bryd neu’n wynebu dod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf, yna bydd angen i chi wneud cais digartrefedd fel mater o frys.

Rhif ffôn: 01633 644 644

Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Oriau argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644

I gael dalen ffeithiau ar Ddigartrefedd a Chymorth cliciwch yma