Skip to Main Content
Green house icon

Mae Gwasanaethau Cymorth Tai Sir Fynwy yn darparu cymorth i bobl sy’n ddigartref neu sy’n cael anawsterau cadw neu ganfod cartref.

Os ydych angen cymorth i gael mynediad i lety addas neu aros yn eich cartref eich hun, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Tîm Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy ar:

📞Ffôn: 01633 740730

📧E-bost:  housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk

Amdanom Ni

Mae’r Tîm Cymorth Tai yn darparu ‘Gwasanaeth Porth’ sy’n gweithredu fel llwybr atgyfeirio i wasanaethau cymorth o fewn Sir Fynwy. Bydd aelod o’r Tîm yn cynnal gwerthusiad o’ch angen fel y byddwch yn derbyn y gwasanaeth mwyaf addas sydd ar gael i chi.

Cysylltwch â’r Tîm Porth Cymorth Tai os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod angen cymorth cysylltiedig â thai.

Mae’r Tîm Porth Cymorth Tai yn brofiadol wrth ddelio gyda’r llawer o broblemau sy’n wynebu pobl ac yn deall sut y gallant ddatblygu a gwaethygu os na chânt eu trin. Mae’r tîm yn ymroddedig i ddarparu cymorth pwrpasol i’r unigolyn er mwyn atal a delio gyda digartrefedd.

I wneud cais am Gymorth Tai, cliciwch y ddolen isod:

Beth yw Cymorth Tai

Gall Cymorth Tai eich cynorthwyo gydag ystod o faterion yn cynnwys:

  • Help a chyngor gydag unrhyw broblemau y gallech fod yn eu cael yn gysylltiedig â thai
  • Cyngor gyda threfnu a rheoli eich arian
  • Cyngor a help i hawlio’r budd-daliadau a grantiau sydd ar gael
  • Help i ddatblygu sgiliau byw bob dydd
  • Help i gael mynediad i wasanaethau a chyfleoedd eraill e.e. iechyd, cyflogaeth ac addysg.

Mae dewis eang o wasanaethau ar gael drwy’r Porth Cymorth Tai. Gall y gwasanaethau hyn helpu gyda materion yn gysylltiedig â hybu iechyd a llesiant, cynhwysiant cymdeithasol a pherthnasoedd teulu. Nid yw Cymorth Tai yn cynnwys gwasanaethau personol neu ofal (e.e. help gydag ymolchi, gwisgo, atgoffa/cymryd meddyginiaeth).

Nid oes cost defnyddio Cymorth Tai. Fodd bynnag mae’n rhaid i chi fod yn byw o fewn ardal Sir Fynwy i gael mynediad i’n gwasanaethau. Os ydych yn byw tu allan i Sir Fynwy, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i chi.

Gall unrhyw un wneud cais.

Sut i gael mynediad i Cymorth Tai

Mae’n well gofyn am help yn gynnar ac nid yw hi BYTH yn rhy hwyr gofyn am help a chyngor. I gael mynediad i Cymorth Tai gallwch naill ai eich atgyfeirio eich hun neu ofyn i berson arall gysylltu â ni ar eich rhan. Gallai hyn fod eich  gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai, perthynas, cyfaill neu unrhyw un arall.

Os nad ydych yn siŵr os yw cymorth yn iawn i chi, cysylltwch â ni drafod pa gymorth y gallwn ei gynnig. Os nad yw’r cymorth a gynigiwn yn ateb eich anghenion, gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r gwasanaeth priodol i helpu.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad i drafod eich atgyfeiriad neu, os yw’n well gennych, gallwn drefnu apwyntiad ffôn i drafod eich anghenion cymorth.

Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn cwblhau gwerthusiad o sut y gall eich anghenion cymorth a gallwch gael eich rhoi ar restr aros cyn cael mynediad i wasanaethau.

Unwaith y caiff cymorth ei roi i chi, byddwch yn cael gweithiwr cymorth fydd yn cwrdd yn rheolaidd gyda chi i helpu datrys unrhyw broblemau cysylltiedig â thai y gallwch fod yn eu cael.

Caiff cymorth ei ddarparu naill ai gan dîm mewnol Cyngor Sir Fynwy neu drwy unrhyw un o’n darparwyr allanol sy’n gweithio wrth ochr y Tîm Porth Cyngor Tai.

Gwasanaethau sydd ar gael drwy’r Porth Cymorth Tai

Mae’n rhaid i bob atgyfeiriad ddod drwy’r Porth Cymorth Tai i gael mynediad i gymorth cysylltiedig â thai yn Sir Fynwy.

Caiff gwasanaethau eu cyflwyno gan y darparwyr a restrir isod ar ran Cyngor Sir Fynwy a chânt eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai.

Mae mwy o wybodaeth ar dudalennau gwefan ein darparydd isod:

Cwrdd â’r Tîm

Trudy Griffin – Rheolwr Comisiynu a Gweithrediadau Cymorth Tai

Carl Potts – Uwch Swyddog Porth Cymorth Tai

Terri Seldon – Swyddog Porth Cymorth Tai

Tony Waite – Swyddog Porth Cymorth Tai

Mia Harris – Swyddog Porth Cymorth Tai

Joanna Taylor – Swyddog Porth Cymorth Tai

Donna Williams – Cynorthwyydd Porth Cymorth Tai

Angela Smith – Swyddog Credyd Cynhwysol Cymorth Tai

Keri-Ann Young – Swyddog Credyd Cynhwysol Cymorth Tai

Emily Griffiths – Swyddog Atal Lefel Isel Cymorth Tai

I siarad gydag aelod o’n Tîm, cysylltwch â ni ar:

01633 740730 neu housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk