Skip to Main Content

Dalenni ffeithiau

C Rwyf yn mynd i fod yn ddigartref cyn hir.

C A yw hynny o fewn y 56 diwrnod nesaf?

Ydi

Os ydych mewn risg o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf, dylech gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar unwaith ar 016333 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

C Cefais fy rhyddhau o ysbyty a does gen i unman i fynd.

Gall pobl sy’n cael eu rhyddhau o ysbyty heb gartref sefydlog fod ag angen blaenoriaethol dan ddeddfwriaeth digartrefedd. Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Cyngor ar unwaith ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

C Cefais fy rhyddhau o’r lluoedd arfog a does gen i unman i fynd.

Mae gan bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog angen blaenoriaethol dan ddeddfwriaeth digartrefedd cyn belled â’u bod yn gallu dangos cysylltiad lleol i’r ardal maent yn gwneud cais amdani. Caiff cysylltiad lleol ei sefydlu gan breswyliaeth flaenorol (fel arfer yn preswylio o fewn y sir am o leiaf 6 o’r 12 mis diwethaf, neu am 3 o’r 5 mlynedd ddiwethaf), teulu agos yn byw o fewn y sir am o leiaf bum mlynedd, cyflogaeth o fewn y sir, neu resymau eraill yn gysylltiedig â diogelwch personol. Os teimlwch eich bod yn cyflawni’r meini prawf, cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog heb unrhyw gysylltiad lleol â Sir Fynwy ond y gallwch sefydlu cysylltiad lleol i ardal arall, efallai y byddwch am gysylltu’n uniongyrchol gyda’r Awdurdod Lleol hwnnw.

C Mae fy mherthynas gyda fy nghymar/partner wedi chwalu

Os ydych wedi gadael eich cartref oherwydd bod eich perthynas wedi chwalu, dylech fod yn gwybod am unrhyw hawl meddiannaeth sy’n dal i fod gennych. Os ydych yn briod, mae gennych hawl i fyw yn y cartref priodasol, pwy bynnag sy’n berchen arno neu enw pwy sydd ar y cytundeb tenantiaid. Nid oes gan eich gŵr/gwraig hawl i’ch gwahardd o’r cartref os na chymerwyd camau cyfreithiol. Os ydych yn denant a bod eich enw ar y cytundeb tenantiaeth, yna rydych yn cadw’r hawl i fyw yn y llety hwnnw. Ni all eich partner eich gwahardd o’r cartref. Yn yr achosion hyn, os nad yw’n afresymol i aros, mae’n bosibl na fyddech yn cael eich ystyried yn ddigartref. Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r tîm Opsiynau Tai 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

C Rwyf wedi colli fy llety oedd ynghlwm â fy swydd.

Os ydych wedi colli llety ynghlwm â’ch swydd, gallech fod ag angen blaenoriaethol dan ddeddfwriaeth digartrefedd. Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Cyngor ar unwaith ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

C Mae fy nghartref yn anaddas i fyw ynddo oherwydd tân, llifogydd, trychineb naturiol

Fel arfer mae gan aelwydydd a orfodwyd i adael eu cartref oherwydd tân, llifogydd neu drychineb naturiol arall angen blaenoriaethol dan ddeddfwriaeth digartrefedd. Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Cyngor ar unwaith ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol. Fodd bynnag, gall cymorth fod ar gael hefyd o ffynonellau eraill. Dylai perchnogion cartrefi gysylltu â’u darparwyr yswiriant i ganfod beth mae ganddynt hawl iddo. Dylai tenantiaid tai cymdeithasol gysylltu â’u cymdeithas tai a all fod â dyletswydd i ail-gartrefu neu ddarparu llety argyfwng. Dylai tenantiaid preifat gysylltu â’u landlord neu asiantaeth gosod gan y gall fod ddyletswyddau a all gael eu cynnwys o fewn yswiriant y landlord.

C Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi dweud fod fy nghartref yn anaddas i fyw ynddo.

Mae’n anodd rhoi cyngor manwl am eich sefyllfa gan fod angen mwy o wybodaeth.

Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol fel mater o frys.

C Mae’r heddlu/llys wedi fy ngwahardd o fy nghartref.

Mae’n anodd rhoi cyngor manwl am eich sefyllfa gan fod angen mwy o wybodaeth.

Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

C Rwyf fel arfer yn byw mewn cartref symudol (e.e. carafan, cwch) ond does gen i ddim lle i’w roi.

Mae’n anodd rhoi cyngor manwl am eich sefyllfa gan fod angen mwy o wybodaeth.

Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol fel mater o frys.

C Mae gennyf anawsterau ariannol

Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd talu eu rhent neu forgais neu ddyledion eraill. Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag sydd modd cyn i’r broblem waethygu. Gall Opsiynau Tai eich cyfeirio at gyngor dyledion os yw eich dyledion yn effeithio ar eich cartref ac mae hefyd restr o sefydliadau a all eich helpu. Os nad ydych yn talu eich rhent neu forgais, gall eich landlord neu fenthycwr gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i’ch troi allan o’ch cartref neu ailfeddiannu eich cartref, hyd yn oed os mai dim ond am gwpl o wythnosau yr ydych wedi methu talu. Os ydych yn cael problemau yn gwneud eich taliadau peidiwch BYTH ag anwybyddu hynny – ni fydd y broblem yn diflannu. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor cyn gynted ag sy’n bosibl. Siaradwch gyda’ch benthycydd neu landlord. Drwy eu hysbysu byddant yn gwybod beth sy’n digwydd ac efallai y gallant eich helpu. Os teimlwch y gallech fanteisio o gael cefnogaeth ariannol, cysylltwch â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

Os ydych yn cael problemau’n trin dyled, mae nifer o asiantaethau wedi eu rhestru islaw sy’n cynnig gwasanaeth cyngor am ddim ar ddyledion. Mae’n bwysig y rhoddir blaenoriaeth i daliadau rhent gan y gallech fod mewn perygl o golli eich cartref. Os ydych eisoes mewn perygl o golli eich cartref, cewch eich cynghori i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol fel mater o frys.

Gellir hefyd gael cyngor gan:

· National Debt Line https://www.nationaldebtline.org/

· Gwasanaeth Cyngor Arian https://www.moneyadviceservice.org.uk/en

· Cyngor Ar Bopeth https://www.citizensadvice.org.uk/

· Advice Now http://www.advicenow.org.uk/guides/help-directory

C Mae fy nhenantiaeth fyrddaliol ar fin dod i ben

Fel arfer y ffordd gyflymaf i bobl i ddatrys eu problem tai yw rhentu cartref addas drwy’r sector rhent preifat. Gall rhentu’n breifat gynnig cyfle i chi ddod o hyd i gartref addas fydd yn diwallu eich anghenion tai yn gyflymach. Os ydych ar incwm isel, gallech fod â hawl i fudd-dal tai neu gostau tai Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi wirio beth yw’r cyfraddau lwfans tai lleol yn eich ardal. Dyma’r uchafswm budd-dal tai neu gostau tai Credyd Cynhwysol a gaiff eu talu i chi os ydych yn gymwys i chi neu’ch teulu i rentu cartref. I gael mwy o wybodaeth neu hawlio budd-dal tai, cliciwch yma http://www.monmouthshire.gov.uk/housing-benefit neu gysylltu ag aelod o’r tîm hawliadau newydd ar 0800 028 2569. I gyfrif eich cost tai credyd cynhwysol, ewch yma https://www.gov.uk/universal-credit. Mae llawer o landlordiaid ac asiantau gosod angen bond gan denantiaid tuag at gost unrhyw ddifrod neu rent heb ei dalu. Fel arfer mae swm y bond yn gyfartal â mis o rent er y gall hyn amrywio. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd gyda Seren Living i ddarparu cymorth bond i aelwydydd incwm isel, aelwydydd digartref neu dan fygythiad dod yn ddigartref ac aelwydydd sy’n cael trafferthion gyda llety na fedrant ei fforddio oherwydd diwygio llesiant. I gael mwy o wybodaeth ar p’un ai fyddech yn gymwys am gymorth gyda bond, cysylltwch â Seren Living ar 01633 255092.

COFIWCH os ydych yn talu bond arian yn uniongyrchol i landlord neu asiant gosod, mae’n rhaid iddo fod wedi cofrestru gydag un o gynlluniau ernes tenantiaeth awdurdodedig y llywodraeth. Gallwch edrych am lety rhent preifat drwy gofrestru gydag asiantau gosod a rydym yn eich cynghori’n gryf i ymweld â nhw eich hunan. Yn ogystal â chofrestru gydag asiantau gosod, gallwch hefyd chwilio ar-lein ac mewn papurau newydd lleol. Mae llawer o wefannau defnyddiol ar y rhyngrwyd a chaiff rhai enghreifftiau eu rhestru islaw.

Mae gwefannau ar gyfer canfod llety rhent preifat yn cynnwys: ·

· Right Move http://www.rightmove.co.uk

· Zoopla http://www.zoopla.co.uk

· Spare Room http://www.spareroom.co.uk

· Prime Location http://www.primelocation.com

I ganfod mwy am eich hawliau fel tenant preifat a’r gyfraith am y math yma o lety, cliciwch yma https://sheltercymru.org.uk/

C Rwy’n ffoi rhag cam-driniaeth domestig, aflonyddu

Os ydych yn profi cam-driniaeth domestig neu aflonyddu o unrhyw fath, gallech fod am gysylltu â’r asiantaethau islaw i gael cyngor cyfrinachol a chefnogaeth. Os ydych yn cael eich bygwth neu oes rhywun yn aflonyddu arnoch, dylech gysylltu â’ch heddlu lleol sy’n ystyried trais domestig fel mater difrifol iawn ac mae ganddynt dimau arbennig yn cynnig cefnogaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef camdriniaeth o’r fath. Os ydych yn denant rhent cymdeithasol, dylech siarad gyda’ch landlord i gael cymorth. Mewn argyfwng a pherygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999. Lle i gael help: Os ydych wedi gadael eich cartref oherwydd trais neu gam-driniaeth, yna mae’n debyg fod gennych angen blaenoriaethol dan ddeddfwriaeth digartrefedd. Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnig cefnogaeth a chyngor (24 awr) a gallant gynnig lloches os yn briodol ac ar gael. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 8010 800 neu 0808 200 0247 (tu allan i Gymru).

Mae Canolfan Aml-asiantaeth Sir Fynwy (MAC): 01873 733590 yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim, gwasanaeth galw heibio yn ystod oriau swyddfa yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau Cymorth i Fenywod Cyfannol a chymorth tenantiaeth drwy MODAS (Gwasanaeth Allgymorth Cam-drin Domestig Sir Fynwy).

Mae Prosiect Dyn yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ddynion sy’n dioddef cam-driniaeth/trais domestig. Gellir cysylltu â Phrosiect Dyn ar 0808 801 0321.

C Rwyf wedi cael fy nhroi allan o fy nghartref

Mae’n anodd rhoi cyngor manwl am eich sefyllfa gan fod angen mwy o wybodaeth.

Cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol fel mater o frys.

Oriau agor: dydd Llun i ddydd Mai 8.45 – 5.00pm, dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Rhif argyfwng tu allan i oriau:

01633 644 644