Skip to Main Content

Bydd yna ddathliadau bod y Frenhines wedi teyrnasu am 70 mlynedd yn cael eu cynnal rhwng 2ail Mehefin 2022 a’r 5ed Mehefin 2022.   Mae gwybodaeth bellach am y Jiwbilî ar gael ar  wefan y Llywodraeth. Mae estyniad wedi’i ganiatáu’n awtomatig rhwng 2ail Mehefin a 4ydd Mehefin 2022 rhwng 23:00hrs a 01:00hrs ar gyfer mangreoedd trwyddedig efo alcohol ar werth, sydd i  yfed ar y safle. Wedi’i awdurdodi ar eu trwydded.  Mae’r Estyniad hefyd yn caniatáu adloniant rheoledig a lluniaeth hwyr y nos rhwng yr oriau hyn.

Partïon Stryd  

Mae partïon stryd yn rhan draddodiadol o fywyd cymunedol; maent yn ffordd syml o ddod i ‘nabod cymdogion a chwrdd ag aelodau o’r gymuned. Efallai eich bod am gynnal parti stryd er mwyn dathlu’r Jiwbilî Platinwm. Nid oes angen trwydded ar gyfer y rhan fwyaf o bartïon stryd. Ond efallai bod angen i chi gael trwydded briodol a chaniatâd os ydych am werthu  alcohol, chwarae cerddoriaeth fyw sydd wedi ei recordio, yn cynnal digwyddiad ar briffordd sydd yn golygu bod angen cau un heol neu fwy.  Mae cyngor pellach ar drefnu partïon stryd ar gael ar y wefan  – The Big Jubilee Lunch 

Cyllid gan y Loteri Genedlaethol  

Mae mwy na £22 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ar gael i helpu cymunedau ar draws y sir i ddod ynghyd er mwyn dathlu’r Jiwbilî Platinwm. Mae mwy o wybodaeth am y cyllid gwahanol sydd ar gael  yma

Emblem y Jiwbilî Platinwm     

Mae Emblem swyddogol y Jiwbilî Platinwm ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer y digwyddiadau sydd yn ymwneud gyda’r dathliadau    Jiwbilî Platinwm, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol a chenedlaethol. Mae modd ei lawrlwytho am ddim o’r wefan Frenhinol, lle y mae yna ganllawiau manwl hefyd ar gael ar sut i’w ddefnyddio.    

Trwyddedau 

Os ydych am ddarparu alcohol am ddim yn eich digwyddiad o dan amgylchiadau arferol, nid oes angen trwydded arnoch.  Os ydych am werthu alcohol, bydd angen  Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD).  Dylid caniatáu deg diwrnod gwaith er mwyn sicrhau hyn cyn y digwyddiad.   

Bydd angen HDDD os ydych yn bwriadu: 

  • Chware cerddoriaeth fyw sydd ei recordio ar gyfer adloniant   
  • Cynnal perfformiadau byw, ffilmiau neu ddawnsio 
  • Gwerthu alcohol. 
  • Gwerthu bwyd a diod rhwng  11p.m. a 5a.m. 

Os ydych yn bwriadu trefnu tombola neu docynnau raffl sydd yn cael eu gwerthu ar y diwrnod ond os nad yw’r gwobrau yn werth llai na £500, nid yw’r rheoliadau gamblo yn berthnasol. Os yw tocynnau yn cael eu gwerthu o flaen llaw, bydd angen i chi gofrestru gyda’r Adran Drwyddedi  fel Loteri Cymdeithas Fach.  

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Drwyddedi ar 01873 735420 neu e-bostiwch licensing@monmouthshire.gov.uk  

Cau Heolydd 

Er mwyn cynnal parti stryd ar neu’n agos at briffordd, rhaid i chi ofyn a sicrhau caniatâd gan y Cyngor er mwyn medru cau’r stryd yn gyfreithlon i unrhyw draffig. Meddyliwch am yr hyn yr ydych am gyflawni a chyflwynwch y

erbyn 3ydd Mawrth 2022  i’r Adran Draffig. 

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Draffig ar 01633 644873 neu e-bostiwch traffic@monmouthshire.gov.uk.  

Diogelwch Bwyd  

Mae trin a thrafod bwyd mewn partïon stryd yn hanfodol ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar  wefan y Llywodraeth. Dylid gofyn i bobl ddod ag unrhyw fwyd i’w rannu ar adegau penodol fel eich bod yn medru bwyta gyda’ch gilydd. Os ydych yn coginio gan ddefnyddio barbeciw, yna sicrhewch nad ydych yn gadael y barbeciw yn ddiofal gan ofalu nad yw plant ac anifeiliaid anwes yn medru mynd yn agos i’r man hwn.    

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol ar 01873 735420 neu e-bostiwch environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk  

Diogelwch yn y Digwyddiadau 

Efallai eich bod am gynnal asesiad risg ar gyfer eich digwyddiad a’r mesurau atal Covid.  Am gyngor pellach ar drefnu digwyddiad, cysylltwch gyda’r    Event Safety Advisory Group.  Mae’r bygythiad gan derfysgaeth yn real, ac yn anffodus, mae’n anodd rhagweld beth sydd yn medru digwydd o fewn mannau cyhoeddus a phrysur sydd yn medru bod yn darged i derfysgwyr.   Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud er mwyn lleihau’r risg a lliniaru effaith y fath ymosodiad. Rydym yn argymell felly eich bod yn cwblhau’r  ACT Awareness e-Learning ar wrth-derfysgaeth.