Skip to Main Content

Mae Infuse yn rhaglen sydd wedi ei dylunio er mwyn i ni fedru darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy arloesol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.   

Mae Infuse yn cynnig y cyfle i’r sawl sydd yn cymryd rhan i fynd i’r afael gyda’r materion mwyaf sydd yn wynebu’r rhanbarth. Fel rhan o’r amser yr ydych yn treulio ar y rhaglen, byddwch yn cael cyfle i ddysgu a defnyddio teclynnau a dulliau newydd o weithio er mwyn helpu darparu gwasanaethau cyhoeddus arloesol llwyddiannus a phrofi syniad yr ydych wedi dylunio er mwyn mynd i’r afael gyda’r heriau sydd yn seiliedig ar y themâu, Hwyluso Datgarboneiddio a Chefnogi Cymunedau. Yn cael ei gynnal o fis Ionawr i Orffennaf  2023, gallwch ddisgwyl fynd drwy dri cham;

Archwilio; Ffocysu ar osod sylfeini ar draws arloesedd.

Dysgu; Ffocysu ar ddarparu teclynnau a dulliau o weithio newydd ar gyfer Arloesedd

Profi; Ffocysu ar brofi eich syniad arloesol yn ddiogel er mwyn cadarnhau a yw’n sicrhau’r canlyniad a ddymunir.

Yn ystod hyn, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm o arbenigwyr arloesi, data a chaffael, hyfforddwyr, ymchwilwyr academaidd ac arbenigwyr gwerthuso a fydd yn gweithio gyda chi ar eich taith o archwilio, dysgu a phrofi. 

Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru ac yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r deg awdurdod lleol sydd yn rhan o’r rhanbarth, gyda’r rhaglen yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Fynwy.  

Ein nod yn Infuse yw datblygu arbenigedd ym maes arloesi er mwyn adeiladu a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ar gyfer y dyfodol.   Rydym yn croesawu ceisiadau gan reolwyr, arweinwyr ac arweinwyr y dyfodol sydd yn teimlo’n angerddol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth.  Os ydych yn gweithio mewn elusen neu wasanaeth cyhoeddus sydd yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, neu unrhyw un o’r 10 awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg), rydych yn gymwys i wneud cais.

Os hoffech fod yn rhan o arloesi gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol, os ydych yn ddigon dewr i wneud newidiadau ac arwain newidiadau yn eich sefydliad, os ydych eisiau llunio’r dyfodol er gwell, cysylltwch gyda ni yn infuse@monmouthshire.gov.uk