Skip to Main Content

Mae gan y cyngor bolisi ar gyfer rheoli ei fynwentydd, yn seiliedig ar Orchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol (LACO) 1977 ac arfer gorau gyfredol.

Beth mae’r ffioedd yn ei gynnwys

Mae’r ffioedd mynwentydd yn cynnwys ystod o wasanaethau mynwentydd yn cynnwys claddedigaethau, cyhoeddi a throsglwyddo hawliau claddu unigryw a’r hawl i godi cofeb.

Sut y caiff ffioedd eu talu

Ar lawer o achlysuron gwneir y trefniadau gan Gyfarwyddwr Angladdau neu Saer Maen Cofebion. Os felly, fel arfer gwneir y taliad gan y Cyfarwyddwr Angladdau/Saer Maen Cofebion ar ran y rhai a gafodd brofedigaeth.

Ar achlysuron eraill, os ydych wedi delio’n uniongyrchol gyda’ch Hyb Cymunedol (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Brynbuga neu Drefynwy), cewch eich cynghori ar y dulliau posibl o dalu.

Caiff ffioedd eu gosod yn flynyddol.

Os na allwch fforddio angladd

Weithiau gall aelod o’r teulu farw ac efallai nad oes gan y teulu y modd i dalu am yr angladd. Ar achlysuron o’r fath, gall y Cyngor fod â chyfrifoldeb am wneud y trefniadau ar gyfer yr angladd. Cyfeirir at hyn fel Angladd Adran 46. Os dymunwch ddilyn y trywydd hwn, dylech gysylltu yn y lle cyntaf gyda’ch Hyb Cymunedol lleol yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Brynbuga neu Drefynwy. Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch Hyb Cymunedol lleol cyn cadarnhau unrhyw drefniadau gyda Chyfarwyddwr Angladdau.