Yma mae gwybodaeth ar y dilynol:
- Mynwentydd y mae Cyngor Sir Fynwy yn berchen arnynt
- Cysylltu
- Hawl claddu unigryw
- Claddedigaethau cartref
- Datgladdiadau
Dynodwyd Cyngor Sir Fynwy yn “awdurdod claddedigaeth”. Y pedair mynwent agored a reolwn yw:
- Cas-gwent
- Llanelli Hill, y Fenni
- Llan-ffwyst, y Fenni
- Trefynwy
Rydym hefyd yn gyfrifol am fynwent sydd wedi cau yn Heol Hen Henffordd.
Caiff y Gwasanaeth Mynwentydd ei reoli gan y Swyddog Mynwentydd, ffôn 01873 735852, cemeteries@monmouthshire.gov.uk
Ar gyfer claddedigaethau yng Nghil-y-coed, cysylltwch â Chyngor y Dref ar 01291 420441.
Gweler ein ffioedd mynwentydd 2022-23 a ffurflenni a gwybodaeth am gladdedigaeth
Hawliau claddedigaeth unigryw
Ar gyfer pob claddedigaeth ym mynwentydd y cyngor, rhoddir hawliau claddedigaeth unigryw i berson neu bersonau cyfrifol a gytunwyd (fel arfer aelod o’r teulu). Mae hyn yn golygu fod gan ddeiliad hawl claddedigaeth unigryw hawl dros y bedd.
Sut mae trosglwyddo hawl claddedigaeth unigryw o bob person i rywun arall?
Mae amrywiaeth o resymau pam y gall fod angen trosglwyddo hawliau claddedigaeth unigryw. Er enghraifft, farwolaeth deiliad hawl claddedigaeth unigryw neu bod y deiliad yn dymuno rhoi’r gorau i’w hawliau.
Gall y ffordd y caiff y trosglwyddiad ei drin amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gofynnir i chi felly gysylltu â’r hyb cymunedol perthnasol i gael cyngor.
Claddedigaeth cartref
Gall fod yn bosibl claddu anwyliaid ar eich tir preifat eich hun. Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy gysylltu â’ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Datgladdiadau
Mae achlysuron pam, am amrywiaeth o resymau, y gall fod angen datgladdu corff.
Gallech ddymuno cysylltu â’ch hyb cymunedol lleol neu gyfarwyddwr angladdau i’ch llywio drwy’r broses.
Mae’n rhaid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw ddatgladdiad. Mae [/app/uploads/2013/06/Exhumation_Guidelines.pdf]canllawiau datgladdiad ar gael.
Ffurflenni Cais
Adran 46 Nferoedd Claddedigaethau Iechyd Cyhoeddus
Mae eithriad yn weithredol yn a31(1)(a). Mae’n debygol y byddai datgelu gwybodaeth ychwanegol yn cyfeirio at yr ymadawedig yn debygol o wneud newid i atal troseddu drwy alluogi neu annog comisiynu troseddau.
Mae’r eithriad hwn yn weithredol oherwydd pan fo person yn marw heb wneud ewyllys heb unrhyw berthynas agosaf hysbys mae asedau ystâd mewn risg nes cawsant eu lleoli a’u diogelu’n briodol e.e. rhewi cyfrifon banc a lleoli gweithredoedd teitl. Byddai rhoi manylion asedau posibl yr ystâd yn y parth cyhoeddus cyn y cafodd hyn ei wneud yn rhoi cyfleoedd ar gyfer gweithredoedd troseddol o ladrad neu dwyll. Ymhellach, mae tebygrwydd cryf y gall unrhyw eiddo fod heb ei feddiannu a gall gynnwys eiddo a dogfennau y gellid eu symud a fyddai mewn risg o ladrad neu ddifrod pe byddai’r lleoliadau hyn yn cael eu gwneud yn gyhoeddus cyn camau priodol i sicrhau hyn.
Ystyriwn fod y budd cyhoeddus mewn atal yr wybodaeth yn fwy na’r budd cyhoeddus yn ei ddatgelu.
Y rhesymau pam fod y budd cyhoeddus yn ffafrio atal yr wybodaeth yw:
● Mae budd cyhoeddus cryf mewn atal troseddu
● Mae budd cyhoeddus cryf mewn cynnal integriti eiddo sy’n wag yn neilltuol lle na fedrir dynodi unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddiogelwch y safle
● Mae budd cyhoeddus cryf mewn caniatáu i Gyfreithiwr y Trysorlys gynnal ymchwiliadau i stadau a gaiff eu hatgyfeirio ato. Gall yr ymchwiliadau hyn gael ei lesteirio os caiff gwybodaeth yn ymwneud ag ystadau ei roi yn y parth cyhoeddus yn rhy gynnar.
Wrth gyrraedd y penderfyniad fe wnaethom ddynodi’r ffactorau dilynol pam y gallai datgeliad fod er y budd cyhoeddus ond ystyried eu bod yn cael eu gwrthbwyso gan y rhesymau a nodir uchod yn erbyn datgeliad:
● Mae budd cyhoeddus mewn sicrhau y caiff perthnasau yr ymadawedig eu canfod lle bynnag sy’n bosibl i sicrhau y caiff ystâd ei dosbarthu’n deg ac yn gyfreithlon. Fodd bynnag yn ein barn caiff y budd cyhoeddus ei wasanaethu orau gan ymdrechion Cyfreithiwr y Trysorlys a nodwn y caiff manylion ystadau sylweddol (o fwy na £5000) eu cyhoeddi gan Gyfreithiwr y Trysorlys unwaith y mae eu hymholiadau dechreuol wedi eu cwblhau a’u bod yn fodlon am ddiogelwch asedau.
January 2019 | 0 |
February 2019 | 0 |
March 2019 | 0 |
April 2019 | 0 |
May 2019 | 0 |
June 2019 | 0 |
July 2019 | 0 |
August 2019 | 0 |
September 2019 | 0 |
October 2019 | 0 |
November 2019 | 0 |
December 2019 | 0 |
January 2020 | 0 |
February 2020 | 0 |
March 2020 | 1 |
April 2020 | 0 |
May 2020 | 0 |
June 2020 | 0 |
July 2020 | 1 |
August 2020 | 0 |
September 2020 | 0 |
October 2020 | 1 |
November 2020 | 0 |
December 2020 | 0 |
January 2021 | 1 |
February 2021 | 1 |
March 2021 | 0 |
April 2021 | 0 |
May 2021 | 0 |
June 2021 | 0 |
July 2021 | 1 |
August 2021 | 0 |
September 2021 | 0 |
October 2021 | 1 |
November 2021 | 0 |
December 2021 | 0 |
January 2022 | 0 |
February 2022 | 0 |
March 2022 | 0 |
April 2022 | 0 |
May 2022 | 0 |