Mae fy nhŷ newydd gael ei adeiladu ac yn barod i symud i mewn iddo ond mae’n dal heb fod ar Ffeil Cyfeiriad Cod Post y Post Brenhinol; sut gellir unioni hyn?
Cyfrifoldeb y datblygwr yw sicrhau eu bod yn cysylltu â’r Post Brenhinol i’w hysbysu pan fydd eiddo yn cael ei feddiannu fel y gall y Post Brenhinol symud y manylion o’r ffeil NYB (heb ei adeiladu eto) i’r ffeil PAF (Cyfeiriadau Cod Post).
I weithredu eich cyfeiriad newydd unwaith y bydd yr adeilad wedi ei gwblhau (h.y. i symud y cyfeiriad o’r ffeil NYB i PAF), anfonwch e-bost at developmentcontrol@monmouthshire.gov.uk
A oes angen talu am wasanaethau Enwi a Rhifo Strydoedd?
Oes – Cliciwch yma i weld tudalen gartref Enwi a Rhifo Strydoedd i gael y ffioedd
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau cais Enwi a Rhifo Strydoedd?
Dylid nodi fod yr amserlenni hyn yn tybio y cafodd y canllawiau eu dilyn ac y cafodd yr holl wybodaeth hanfodol ei chyflwyno. Er y gwnawn ein gorau i gwblhau ceisiadau o fewn yr amserlenni hyn, gofynnir i chi gofio ein bod yn dibynnu ar ymgynghoriad gyda’r Post Brenhinol.
Fel arfer gellir cwblhau cais i newid enw, neu ychwanegu enw at eiddo sydd â rhif, o fewn tair wythnos.
Fel arfer gellir cwblhau cais am un cyfeiriad newydd o fewn pedair wythnos.
Gall gymryd peth amser i gwblhau cais am gyfeiriadau lluosog, yn dibynnu ar faint y datblygiad.
Ar gyfer datblygiadau mawr sy’n cynnwys adeiladu heolydd newydd, oherwydd y broses gyfreithiol statudol sy’n gysylltiedig, gall y drefn Enwi a Rhifo Strydoedd fod yn eithaf maith. Yn ogystal ag ymgynghori gyda’n tîm rhestr cyfeiriadau a’r Post Brenhinol, rydym hefyd yn gorfod ymgynghori gyda’r cyngor cymuned perthnasol nad yw ond yn cwrdd unwaith y mis.
Rydym felly yn cynghori datblygwyr i ymgynghori â’r cyngor ar gam cynharaf posibl cynnig. Gall problemau niferus godi os caiff cais ei gyflwyno yn hwyr yn y dydd ac y caiff wedyn ei wrthod.
Dylid nodi y gall yr amserlenni fod yn sylweddol hirach lle na chaiff yr wybodaeth angenrheidiol ei chyflwyno a/neu os na chaiff y canllawiau eu dilyn.
A allaf newid enw fy nhŷ?
Gallwch, cyn belled â bod yr enw a ddewiswch yn cydymffurfio â’n polisi. Cliciwch yma i weld sut y gallwch newid enw eich tŷ.
A allaf ychwanegu enw i fy eiddo sydd â rhif?
Gallwch, cyn belled â bod yr enw a ddewiswch yn cydymffurfio â’n polisi.
Dylid nodi, fodd bynnag, mai rhif eich eiddo fydd bob amser y prif ddull o’i adnabod ac na fedrwch ei dynnu. Bydd yr enw a ddewiswch yn ychwanegol at y rhif a chaiff ei adnabod fel Alias.
Cliciwch yma i ganfod mwy am ychwanegu enw at eich eiddo sydd â rhif
Mae fy mharseli yn mynd ar goll
Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio canfod eiddo mewn lleoliad gwledig wedi sylwi faint o eiddo gwledig sydd ag arwydd annigonol, neu weithiau, ddim arwydd o gwbl.
Mae model cyflogaeth gyrwyr danfon nwyddau preifat yn golygu mai ychydig iawn o amser sydd ganddynt i ddosbarthu parsel felly os ydynt yn cael problemau yn canfod cyfeiriad oherwydd diffyg arwydd, maent yn debyg o adael y pecyn mewn eiddo y maent yn meddwl (a gobeithio!) yw’r un cywir.
Felly, y cwestiwn cyntaf sydd angen i chi ofyn i’ch hunan, os ydych yn cael problemau gyda phecynnau’n mynd ar goll, yw: “A yw’r arwydd i fy eiddo yn glir a diamwys? A all gyrrwr danfon nwyddau ei weld yn glir ac yn rhwydd pan fydd yn gyrru ar 30 neu 40mya?”
Os mai’r ateb i’r cwestiwn uchod yw na, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Rwy’n cael problemau gyda fy mhost
Os ydych yn cael problemau gyda derbyn post gan y Post Brenhinol, cysylltwch â’u gwasanaethau cwsmeriaid ar: 03457 740 740 neu ymweld â https://personal.help.royalmail.com/app/contact
Os byddaf yn cofrestru fy nghyfeiriad, a fyddaf wedi fy nghofrestru yn awtomatig ar gyfer y dreth gyngor?
Na, ond caiff ein Adran Treth Gyngor ei hysbysu am bob cyfeiriad newydd sy’n cael ei drefnu. I sicrhau eu bod yn gwybod am eich eiddo newydd, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Ffeiliau cyfeiriadau y Deyrnas Unedig (DU)
Mae dwy brif gronfa data cyfeiriadau yn y DU, caiff un ei gweinyddu gan y Post Brenhinol (y Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF)) a chaff y llall ei gweinyddu gan awdurdodau lleol (y Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol (NLPG)).
I gael mwy o wybodaeth am y cronfeydd data hyn, cliciwch yma
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Ffeiliau Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol.
Cliciwch yma i ddarllen Cod Ymarfer PAF y Post Brenhinol
Pam fod y cyfeiriad sydd gennych ar gyfer fy eiddo yn wahanol i’r cyfeiriad y mae’r Post Brenhinol yn ei ddefnyddio?
Gall fod gwahaniaethau rhwng y cyfeiriadau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol a’r rhai a ddefnyddir gan y Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu post.
Er fod gan Cyngor Sir Fynwy y grym cyfreithiol i gyhoeddi cyfeiriad, y Post Brenhinol sy’n gyfrifol am gyhoeddi codau post.
Mae gan bob sefydliad ei ddull ei hun o gofnodi data a setiau unigol o reolau am sut y caiff y data hwn ei reoli; oherwydd hyn, nid yw’r Post Brenhinol bob amser yn medru cyfateb cyfeiriad yr awdurdod lleol yn union.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn creu cyfeiriadau yn ôl Safon Prydeinig BS7666, y safon cenedlaethol ar gyfer cyfeiriadau.
Mae’r dull cyfeiriad hwn bob amser yn cynnwys enw’r heol y mae’r eiddo wedi ei leoli arni, a thybio fod enw’r heol yn un a ddynodwyd yn swyddogol (yn hytrach nag enw heol answyddogol a ddefnyddir yn lleol).
Mewn ardaloedd trefol, lle mae llawer o adeiladau mewn lleoliad agos ar strydoedd gyda rhifau, bydd y Post Brenhinol yn cyhoeddi codau post yn gysylltiedig ag enwau’r strydoedd. Caiff enwau’r strydoedd hyn yn amlwg wedyn eu cynnwys yn y cyfeiriad.
Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig, mae eiddo anghysbell yn aml wedi ei lleoli ar ddarnau hir o heolydd gwledig; yn hytrach na dyrannu cod post ar gyfer heol gyda dim ond ychydig o adeiladau, mae’n tueddu i ddyrannu codau post daearyddol. Lle caiff cod post daearyddol ei ddefnyddio, ni chaiff enw’r heol ei gynnwys yn y cyfeiriad post.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ar wahaniaethau post
Pwy sy’n cael eu hysbysu am newidiadau enw a chyfeiriadau enw?
Caiff yr adrannau canlynol (o fewn Cyngor Sir Fynwy) a sefydliadau eu hysbysu pan gaiff cyfeiriad newydd ei greu neu os cafodd cyfeiriad ei newid:
- BT Openreach;
- Treth Gyngor (Cyngor Sir Fynwy);
- Dŵr Cymru;
- Etholiadau (Cyngor Sir Fynwy);
- Iechyd yr Amgylchedd (Cyngor Sir Fynwy);
- Cofrestrfa Tir;
- Pridiannau Tir (Cyngor Sir Fynwy);
- NLPG (Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol);
- Wales & West Utilities;
- Heddlu Gwent;
- Post Brenhinol;
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru;
- Tîm GIS SRS (Cyngor Sir Fynwy);
- Swyddfa Prisiant;
- Gwasanaethau Gwastraff a Stryd (Cyngor Sir Fynwy).
A oes modd newid enw fy heol?
Oes, mewn rhai amgylchiadau. Fodd bynnag, mae’n broses ddrud, cymhleth, cynhennus a maith. Anfonwch e-bost at contact@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644644 a gofyn am Enwi a Rhifo Strydoedd i gael mwy o wybodaeth.
Beth yw’r fframwaith gyfreithiol?
Mae enwi strydoedd ac enwi a rhifo eiddo yn gyfrifoldeb statudol dan Adrannau 17-19 Deddf Iechyd Cyhoeddus 1925. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff unrhyw enwau stryd ac eiddo newydd neu ddiwygiedig a/neu rifau eu dyrannu yn rhesymegol ac mewn modd cyson.
Nid oes gan y Post Brenhinol unrhyw rym statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ail-enwi neu ail-rifo eiddo; fodd bynnag, ef sy’n llwyr gyfrifol am gyhoeddi neu ddiwygio codau post unwaith y cafodd manylion y cyfeiriad eu cadarnhau gan y cyngor.
I gael mwy o wybodaeth am y fframwaith cyfreithiol, gweler ein Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd.