Skip to Main Content

Bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd os ydych yn::

  • Ddeiliad tŷ sy’n dymuno newid enw eich eiddo;
  • Deiliad tŷ sy’n dymuno ychwanegu enw at rif eich eiddo;
  • Datblygydd un neu fwy o adeiladau newydd neu addasiadau;
  • Deiliad tŷ sy’n cael problemau gyda’ch cyfeiriad.

Mae Enwi a Rhifo Strydoedd yn bwysig oherwydd ei bod yn cynorthwyo:

  • Y gwasanaethau argyfwng i ganfod eiddo heb golli amser;
  • Dosbarthu post, pecynnau a gwasanaethau eraill yn ddibynadwy;
  • Ymwelwyr i ganfod eu cyrchfan.

Dylid nodi nad yw cofrestru gyda naill ai Treth Gyngor neu Etholiadau yn gwneud eich cyfeiriad yn swyddogol; i’ch cyfeiriad gael ei gydnabod gan y Post Brenhinol a’r gwasanaethau argyfwng, mae angen i chi ddilyn y broses Enwi a Rhifo Strydoedd.

Gall problemau godi oherwydd y dilynol a gall greu problemau ar gyfer preswylwyr:

  • Mewn ardaloedd gwledig, dim ond enw sydd gan nifer fawr o gartrefi, a’r enwau hynny’n aml wedi eu dewis genedlaethau yn ôl pan efallai nad oedd ond ychydig fythynnod mewn pentref. Wrth i’r cymunedau hyn dyfu, caiff llawer o’r hen enwau hyn yn awr eu rhannu gyda chartrefi eraill yn yr ardal;
  • Gall un cod post gynnwys cynifer â 100 o adeiladau, er ar gyfartaledd mae’n tueddu i fod tua 15.

I liniaru’r problemau hyn mae NPLG (‘National Land and Prperty Gazetteer’), y sefydliad sydd yng ngofal data strydoedd a chyfeiriadau, wedi datblygu nifer o reolau a bydd y rhain yn penderfynu ar eich cyfeiriad. Mae ein canllawiau’n rhoi sylw i agweddau pwysicaf y rheolau hyn.

Ar gyfer beth ydych chi’n gwneud cais?