Skip to Main Content

I wneud cais i newid enw neu ychwanegu enw at eiddo/cyfeiriad sydd â rhif


Os yw eich cais yn cynnwys enw eiddo arfaethedig, mae’n hanfodol eich bod yn adolygu’r canllawiau’n ofalus cyn ei gyflwyno. Rhaid i enwau fod yn wreiddiol ac ni ddylent ddyblygu nac ymdebygu’n agos i enwau eiddo presennol yn ardal y côd post.

Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn bodloni’r gofynion hyn yn cael eu prosesu ac mae’n bosibl y cânt eu gwrthod. Gwneir penderfyniadau yn unol â’r polisi a’r canllawiau cyhoeddedig.

Dylid caniatáu digon o amser ar gyfer eich cais. Caiff yr amserlenni eu nodi yn y Cwestiynau Cyffredin.


I lenwi ein ffurflen ar-lein, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Fy Sir Fynwy; cliciwch yma i ganfod sut neu i fynd i eicon Fy Sir Fynwy ar dudalen gartref ein gwefan. Os hoffech i ni anfon ffurflen bapur, atoch, cysylltwch os gwelwch yn dda â 01633 644644 a gofyn am Enwi a Rhifo Strydoedd