Skip to Main Content

Dim ond sgwrs yw hon, sy’n digwydd er mwyn darganfod beth yw eich anghenion, a sut y gellir eich cefnogi fel rhywun sy’n gofalu am rywun arall. Mae rhai pobl yn gweld y syniad o “asesiad” yn frawychus gan eu bod yn teimlo eu bod rywsut yn cael eu profi neu eu barnu o ran eu gallu i ofalu am ffrind neu anwyliaid; nid dyma’r achos o gwbl. Mae’r sgwrs hon yn gyfle i chi siarad am sut mae

gofalu yn effeithio ar eich bywyd, ac mae’n gyfle i chi ei drafod pethau gyda gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gellir ei gynnwys yn y sgwrs hon:

• Eich rôl gofalu a sut mae’n effeithio ar eich bywyd a’ch lles

• Eich iechyd – materion corfforol, meddyliol ac emosiynol

• Eich teimladau a’ch dewisiadau am ofalu

• Eich gwaith, astudiaeth, hyfforddiant, hamdden

• Eich perthnasoedd, gweithgareddau cymdeithasol a’ch nodau

• Tai

• Cynllunio ar gyfer Argyfyngau (fel Cynllun Argyfwng Gofalwyr) – dylai’r cyngor lleol allu dweud mwy wrthych am yr hyn y gallant ei wneud i’ch helpu i gynllunio ar gyfer argyfwng

• Seibiant

• Cyllid

• Cynnal eich hunaniaeth eich hun

Hyd yn oed os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano wedi gwrthod asesiad neu gymorth, gallwch barhau i gael asesiad o anghenion gofalwyr, a gallwch ofyn iddo ddigwydd yn rhywle sy’n gyfleus i chi, yn eich cartref, cartref y person yr ydych yn gofalu amdano, neu rywle arall os yw’n well gennych.

Os ydych dros 18 oed ac am drafod eich rôl gofalu, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Integredig ar gyfer eich ardal.

Y Fenni Rhif Ffôn: 01873 735885

Trefynwy/Rhaglan/Brynbuga/Tryleg Rhif Ffôn: 01600 773041

Cas-gwent/Cil-y-coed Rhif Ffôn: 01291 635666

Os ydych o dan 18 oed ac am drafod eich rôl gofalu ymhellach, gallwch naill ai siarad â’r

Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc – Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru Rhif Ffôn: 01495 366993

Neu

Gwasanaethau Plant – Cyngor Sir Fynwy Rhif Ffôn: 01291 636355