I ddod yn Warchodwr Plant yn Sir Fynwy, darllenwch y wybodaeth ganlynol, os gwelwch yn dda:
1) Lawrlwythwch eich Crynodeb Gwarchod Plant isod
Cyn dod yn warchodwr plant yn Sir Fynwy, bydd rhaid i chi ddeall yr holl anghenion cyn dechrau. Lawrlwythwch y Crynodeb Gweithiwr Plant ar waelod y dudalen hon am bopeth sydd angen gwybod, a chysylltwch a’r 01633 644527 a fydd yn trefnu cyfarfod i drafod y broses gyda chi.
2) Y Cwrs Gwarchod Plant IHC & PCP
Ar ôl i chi gwblhau’r rhestr wirio a’r cytundeb cryno ac ar ôl derbyn eich tystysgrif, bydd rhaid i chi gwblhau cwrs gofal plant (IHC) a Paratoi ar gyfer uned ymarfer gwarchodwr plant (PCP) ar-lein i’w gwblhau gartref. Bydd angen i chi gwblhau’r cwrs yma er gwaethaf unrhyw gymwysterau eraill sydd ganoch.
Bydd rhaid i’r rhai sydd eisiau bod yn warchodwyr plant awdurdodedig yng Nghymru fod wedi llwyddo yn yr uned Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref yn ogystal â’r uned Paratoi at ymarfer fel gwarchodwr plant. Bydd rhaid i’r rhai sydd eisiau bod yn nani awdurdodedig yng Nghymru gael yr uned Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref.
Gallwch gwblhau cwrs hyfforddi IHC & PCP yn amser eich hun. Gall gymryd nifer o wythnosau neu hyd at flwyddyn yn dibynnu ar eich cyflymdra. Mae’r cwrs ar-lein ar hyn o bryd yn costio £360 +VAT.
I gofrestru am y cwrs IHC, cysylltwch â PACEY ar 02920 351407 neu paceycymru@pacey.org.uk. Byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi a chyfarwyddiadau i gyflawni’r cwrs. Darllenwch am y cwrs ar gyfer gwarchodwyr plant yma. Gallwch hefyd ddarllen yr anghenion yn y ddogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol am Ddarpariaeth Gofal Plant isod.
Efallai y bydd Blynyddoedd Cynnar Sir Fynwy’n eich ad-dalu am gost cwrs CYPOP5 ar ôl cofrestru. Cadwch unrhyw dderbynneb, os gwelwch yn dda.
3) Dewch yn Swyddog Cymorth Cyntaf
I ddod yn ofalwr plant, mae angen tystysgrif cymorth cyntaf arnoch. Rhaid i chi gael gafael ar eich cwrs cymorth cyntaf eich hun. Gallir darganfod manylion Cwrs Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Yma. Bydd rhaid i chi gyflawni pob cost hyfforddiant cymorth cyntaf.
4) Diogelwch Bwyd a Diogelu Plant
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau cwrs Diogelwch Bwyd Lefel 2 (Mae gwybodaeth hyfforddiant ar gael yma)
Efallai y bydd Cyngor Sir Fynwy hefyd yn gallu darparu Hyfforddiant Diogelu Lefel 1. Cysylltwch â sianhickey@monmouthshire.gov.uk am ddyddiadau.
5) Cwblhewch y ffurflen gais i ddod yn Warchodwr Plant
Yn ystod y broses o ddod yn warchodwr plant, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais 52 tudalen (ar-lein neu ar bapur, mae’r ddau ar gael yma). Bydd y ffurflen gais yn cynnwys eich gwybodaeth bersonol, cymwysterau a phrofiad, eich cynlluniau am eich busnes gwarchod plant a’r gofal y byddwch yn darparu, sut ydych yn bwriadu cyflawni safonau a rheoliadau, eich cynlluniau i gyflawni anghenion plant unigol a darparu gwasanaeth o ansawdd a pa weithdrefnau y byddwch yn gweithredu. Bydd rhaid cyflawni’ch ffurflen yn gyfan gwbl. Bydd gadael unrhyw fylchau yn y ffurflen yn golygu na fydd y cais yn cael ei brosesu.
Bydd hefyd rhaid i chi ymgymryd ag arolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae AGGCC yn talu amdanynt ar hyn o bryd. Bydd rhaid i bob aelod o’ch cartref sydd 16 mlwydd oed neu’n hŷn ymgymryd ag arolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid cymryd y ffurflenni GDG i Brif Swyddfa’r AGGCC ym Merthyr, CF48 1UZ, gyda’ch dogfen adnabod er mwyn cymryd a chyflwyno’r ffurflen. Rydym yn argymell bod yr arolwg DBS yn cael ei gyflawni ar yr un pryd a’ch ffurflen gais felly gallir eu cyflwyno gyda’i gilydd.
6) Cofrestru fel Gwarchodwr Plant
Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i chi gofrestru’ch gwasanaeth gwarchod plant gyda’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Byddant yn arolygu’ch tŷ ac unigolion (dros 16 mlwydd oed) sy’n byw gyda chi ac yn cyflwyno’r arolwg GDG i chi. Gallir cysylltu â AGGCC ar 0300 062 8757.
7) Derbyniwch eich Cymhorthdal Cychwyn
Efallai y bydd modd i Blynyddoedd Cynnar Sir Fynwy eich ad-dalu am becyn cychwyn Dechrau o Ansawdd PACEY sy’n cynnwys eich aelodaeth blwyddyn gyntaf i PACEY, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ogystal â a blanced dân. Cysylltwch â Blynyddoedd Cyntaf Sir Fynwy ar sianhickey@monmouthshire.gov.uk i ofyn am ffurflen gais.
8) Hysbysebwch eich Gwasanaeth Gwarchod Plant am Ddim
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol Sir Fynwy (GGTS) yn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd am y gofal plant sydd ar gael yn ei ardal. Cysylltwch â’r GGTS ar childcare@monmouthshire.gov.uk i dderbyn ffurflen i chi gwblhau eich manylion am amserau agor, costau’r awr ayyb. Dewiswch hysbysu ar y wefan hon ac ar bapur mewn canllawiau rhieni. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol hefyd angen eich manylion i lywio Llywodraeth Cymru yn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant blynyddol.
9) Gweithio fel Gwarchodwr Plant Bydd angen i’ch tystysgrif cymorth cyntaf gael ei adnewyddu bob tair blynedd yn ogystal â’ch datgeliad GBD a’ch tystysgrif hylendid bwyd.
Fe all y broses o ddod yn warchodwr plant o ddechrau’r cwrs IHC & PCP i dderbyn eich rhif Cofrestru gymryd o 12 wythnos i 2 flynedd. Gall hyn ddibynnu ar y cyflymdra yr ydych yn cwblhau’r CYPOP5 a’r ffurflen gais a’r rhestr aros sydd gan yr AGGCC i ymgeiswyr sy’n dymuno cofrestru.
Os oes ganoch unrhyw gwestiwn arall ynglŷn â cofrestru fel gwarchodwr plant yn Sir Fynwy, danfonwch ebost i childcare@monmouthshire.gov.uk.