Skip to Main Content

Yn ogystal â chymwysterau gofal plant, mae cymwysterau eraill y mae gofyn i ddarparwyr gofal plant eu cael:
 
Cymorth Cyntaf:
 
Argymhellir cwblhau’r Dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr. Rhaid adnewyddu hwn bob tair blynedd.
 
Ar bob adeg, rhaid i o leiaf un person sy’n gofalu am y plant feddu ar gymhwyster cymorth cyntaf pediatrig cyfredol. Ni ddylai’r gymhareb o bobl cymwys i blant fyth gwympo yn is na 1:10.

I gael manylion am gyrsiau Cymorth Cyntaf eraill cysylltwch â Sian Hickey, Swyddog Blynyddoedd Cynnar yn sianhickey@monmouthshire.gov.uk neu  07970 108677.

Diogelwch Bwyd Lefel 2:
 
Mae gofyn i chi gwblhau cwrs Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2 os byddwch chi’n trin neu’n paratoi bwyd yn rhinwedd eich swydd fel gweithiwr gofal plant.
 
Rhaid adnewyddu’r dystysgrif hon bob tair blynedd.
 
 
Diogelu:
  
Rhaid i bob aelod o staff gofal plant gwblhau cwrs Diogelu Lefel 1. Rhaid i’r Swyddog Dynodedig a’r Dirprwy Swyddog mewn lleoliadau gofal plant hefyd gwblhau Cwrs Diogelu Lefel 2. Argymhellir bod gwarchodwyr plant hefyd yn cwblhau Lefel 2. Pan mae’n bryd cwblhau eich Lefel 2, yna gallwch gwblhau Lefel 3 pe dymunech.  Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Fynwy o bryd i’w gilydd.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, e-bostiwch sianhickey@monmouthshire.gov.uk a fydd yn gallu gweithio gyda chi i ddod o hyd i gwrs addas.  Nodwch mai’r unigolyn sy’n gyfrifol am dalu holl ffioedd y cyrsiau.
 
  
Darparwyr Hyfforddiant Ychwanegol:

Mae Remote First Aid & Pre-Hospital Training  yn fusnes llwyddiannus yng Nghas-gwent sydd wedi ennill gwobrau.

Yn darparu hyfforddiant cymorth cyntaf a chlinigol i fusnesau a thrigolion Sir Fynwy yn ein canolfan hyfforddi yng Nghas-gwent, neu mae ein hyfforddwyr yn medru cynnig hyfforddiant yn eich sefydliad, ysgol neu fusnes ar ddyddiadau ac amseroedd sy’n diwallu anghenion eich grŵp.

Mae’r hyfforddiant a gynigir yn cynnwys:

• Cymorth cyntaf brys yn y gwaith (6 awr)

• Cymorth cyntaf yn y gwaith (18 awr)

• Cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith (12 awr)

• Cymorth cyntaf Pediatrig llawn (12 awr) a chymorth cyntaf pediatrig brys (6 awr)

• Ymatebwr cyntaf anaffylacsis (3 awr)

• Hyfforddiant cymorth cyntaf gweithgareddau awyr agored –  cyrsiau 8 awr, 16 awr ac 21 awr ar gael

• Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol BLS, AED, hyfforddiant Nwyon Meddygol

• ILS ar gyfer Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol

Gellir archebu’r holl hyfforddiant uchod naill ai wedi ei gyfuno neu’n wyneb yn wyneb.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch info@remotefirstaid.co.uk  neu ffoniwch 01291 661 765

Neu ewch i’r wefan www.remotefirstaid.co.uk


 

Addysg Oedolion ac Addysg Gymunedol Sir Fynwy (MACE):
01873 851554
communityed@monmouthshire.gov.uk
Cyrsiau’n cynnwys Diogelwch Bwyd, Cymraeg, TG Sylfaenol a mwy.
Pris cyfredol ar gyfer y cwrs Diogelwch Bwyd: £42
  
 
Coleg Rhithwir:
Cwrs Diogelwch Bwyd Ar-lein (ar gyfer y sawl sy’n adnewyddu eu tystysgrif Diogelwch Bwyd yn unig)
Costau: £15 – £25
 
 
Coleg Gwent:
Ffôn: 01495 333333
www.coleggwent.ac.uk
Cyrsiau’n cynnwys: Tystysgrif ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu, Tystysgrif Cefnogaeth Dysgu, NVQ Lefel 3 Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion, Tystysgrif Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2 a 3, TAR
 
ACT Training:
Ffôn: 02920 408403
www.acttraining.org.uk
Cyrsiau’n cynnwys: Gofal Plant, Cwrs Hyfforddiant Dysgu a Datblygu (ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mwy na 10 awr yn y sector gofal plant)
 
 

Borderlands Outdoor

Mae Borderlands Outdoor yn gwmni hyfforddi a gweithgareddau awyr agored yn Sir Fynwy. Cynigir cyrsiau cymorth cyntaf, pediatrig, gweithle ac awyr agored ymarferol ar draws Sir Fynwy, ynghyd ag ystod o weithgareddau awyr agored ar gyfer teuluoedd, addysg a busnesau. Gellir darparu pob cwrs yn breifat mewn lleoliad sy’n addas i chi.

Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys:

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle (6 awr)

Cymorth Cyntaf yn y Gweithle (18 awr)

Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys (6 awr)

Cymorth Cyntaf Pediatrig (12 awr)

Cymorth Cyntaf i Deuluoedd (o 3 awr)

Camau Brys Cymorth Cyntaf Awyr Agored (8 awr)

Cymorth Cyntaf Awyr Agored (16 awr)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â info@borderlandsoutdoor.com, ffoniwch 07580 135869 neu drwy’r wefan: www.borderlandsoutdoor.com