Skip to Main Content

Newyddion Pwysig Ffi Cynllunio

Ar 1af Rhagfyr 2025, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio ledled Cymru. Mae hwn yn gam tuag at awdurdodau cynllunio lleol Cymru yn cyflawni adennill costau llawn ar gyfer eu gwasanaethau.
 
Mae Atodlen o’r cynnydd arfaethedig ar gyfer pob categori o ddatblygiad yn cael ei chrynhoi ar Borth Cynllunio Cymru:  Ffioedd sydd i ddod ar gyfer ceisiadau cynllunio yng Nghymru
 
Mae’n bwysig iawn nodi y bydd unrhyw geisiadau cyfredol a gyflwynir gyda’r awdurdod cynllunio sy’n ‘annilys’ (h.y. maent yn aros am wybodaeth hanfodol i sicrhau bod y cais wedyn yn cael ei gofrestru a’i benderfynu) yn ddarostyngedig i’r ffioedd newydd, os derbynnir y wybodaeth i wneud y cais yn ddilys ar neu ar ôl 1af Rhagfyr. Os yw ffi eisoes wedi’i thalu, byddai hyn yn golygu gorfod talu’r gwahaniaeth rhwng yr hen ffi a’r ffi newydd.
 
Os oes angen eglurhad pellach arnoch, anfonwch e-bost i planning@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch y Swyddog Dyletswydd ar 01633 644831 rhwng 10am a 2pm, dydd Llun i ddydd Gwener. 

Dolenni Cyflym