Skip to Main Content

Newyddion Diweddaraf – Mae diweddariad briffio ffosffadau wedi’i baratoi ar fater amgylcheddol heriol ansawdd dŵr yn yr Afon Gwy a’r Afon Wysg. Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau i Sir Fynwy o ran cynigion datblygu a datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid  (CDLlA).

Yn dilyn tystiolaeth newydd am effeithiau amgylcheddol ffosffad mewn cyrsiau dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi mabwysiadu targedau llymach ar gyfer ansawdd dŵr cyrsiau dŵr ac wedi cynnal asesiad o’r 9 Ardal Gadwraeth Arbennig Afonol yng Nghymru. Mae’r asesiad hwn wedi sefydlu bod achosion o doriadau ffosfforws yn gyffredin o fewn afonydd ACA Cymru gyda dros 60% o gyrff dŵr yn methu yn erbyn y targedau heriol a osodwyd.

O fewn Sir Fynwy nodwyd bod 88% o gyrff dŵr yr Afon Wysg wedi methu â chyrraedd y targed gofynnol a bod 67% o gyrff dŵr yr Afon Gwy wedi methu â chyrraedd y targed gofynnol. O ganlyniad i’r methiant hwn, mae CNC wedi cyhoeddi canllawiau cynllunio manwl i sicrhau nad yw gallu amgylcheddol yr afonydd yn dirywio ymhellach. Mae angen i unrhyw ddatblygiad arfaethedig o fewn dalgylchoedd yr afonydd, a allai gynyddu lefelau ffosffad, ddangos yn glir o fewn cais cynllunio y gall y datblygiad ddangos niwtraliaeth neu welliant o ran ffosffad yn ei ddyluniad a/neu ei gyfraniad i’r corff dŵr. Yn y rhan fwyaf o achosion, prin fydd y capasiti i gysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus a bydd yn rhaid dod o hyd i ateb arall. Bydd y gofyniad hwn ar ystyriaethau draenio yn effeithio ar yr holl ddatblygiadau sy’n cynyddu maint neu grynhoad gwastraff dŵr.

Mae cynllun i ddangos dalgylch yr afonydd i’w weld yma

Mae angen rhoi ystyriaeth sylweddol i gynigion draenio ar gyfer cynigion datblygu yn y dalgylchoedd hyn a chyn cyflwyno cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac anogir cwsmeriaid i ymgysylltu â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i drafod derbynioldeb cynigion https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cynllunio-3/cyn-gwneud-cais/.

Mae CNC wedi darparu canllawiau cynllunio i ddatblygwyr sy’n amlinellu pa fath o ddatblygiad sy’n annhebygol o gael effaith ar lefelau ffosffad yn y cyrsiau dŵr. Gellir dod o hyd i’r arweiniad hwn yma. Mae gwybodaeth fanwl am y mater hwn hefyd i’w chael yn uniongyrchol ar wefan CNC : – https://naturalresources.wales/about-us/news-and-events/news/tighter-phosphate-targets-change-our-view-of-the-state-of-welsh-rivers/?lang=cy

Fel y mae’r canllawiau’n amlinellu, yn anffodus os na all y cais cynllunio ddangos tystiolaeth y byddai’r cynnig datblygu yn arwain at niwtraliaeth neu welliant ffosffad, yna ni fyddai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gallu cefnogi’r cais o ystyried yr effaith annerbyniol ar ansawdd dŵr yr afonydd sydd wedi’u dynodi’n sensitif fel ardaloedd cadwraeth arbennig.

Mae gan y canllawiau newydd hyn oblygiadau sylweddol o ran cynigion datblygu ac rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a’n swyddogion bioamrywiaeth i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau ein bod yn datblygu cynigion datblygu nad ydynt yn niweidio gallu amgylcheddol ein cyrsiau dŵr. Fel y gallwch werthfawrogi, mae swyddogion achos yn ymgymryd â’r goblygiadau ar gyfer ceisiadau cynllunio cyfredol ac yn dod o hyd i atebion sy’n cydymffurfio â gofynion y canllawiau cynllunio dros dro newydd gyda CNC. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y gallwn, a byddwn yn diweddaru’r dudalen we hon yn rheolaidd i roi gwybod i chi am y cynnydd.