Skip to Main Content

Cynigion y Gyllideb ar gyfer 2023-2024

Gwelwch y dogfennau isod i ddarllen yr holl gynigion ar gyfer cyllideb 2023-2024. Bydd arolwg ar gael trwy’r dudalen hon o 18fed Ionawr tan 16eg Chwefror 2023 i ddal eich adborth, felly cymerwch beth amser i’w gwblhau.

Mae’r holl ddogfennau ategol o ran cynigion y gyllideb i’w gweld ar yr Agenda ar gyfer y Cabinet ar Ddydd Mercher, 18fed Ionawr, 2023, 5.00 pm (monmouthshire.gov.uk/cy) o dan eitem 6.

Dweud eich dweud – ffyrdd o gymryd rhan:

Yr Arolwg Cyllideb

Digwyddiadau ymgynghori cyllideb wyneb yn wyneb

Dydd Llun 23ain Ionawr, 6pm. Hyb Cil-y-coed, Woodstock Way, Cil-y-coed

Dydd Mawrth 24ain Ionawr, 6pm. Hyb Cas-gwent, Manor Way, Cas-gwent

Dydd Mercher 25ain Ionawr, 6pm. Hyb Brynbuga, 35 Maryport St, Brynbuga

Dydd Iau 26ain Ionawr, 6pm. Y Neuadd Sirol, Trefynwy

Dydd Mawrth 31ain Ionawr, 6pm. Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr, Magwyr

Dydd Mawrth 7fed Chwefror, 6pm, Hyb y Fenni, Y Fenni

Os ydych yn bwriadu mynychu un o’r sesiynau wyneb yn wyneb, gallwch DDANFON EICH CWESTIYNAU ATOM O FLAEN LLAW. Byddwn yn ceisio ateb cymaint â phosib yn y sesiwn, a hefyd llwytho’r Cwestiynau ac Atebion ar y dudalen sydd â’r ddolen uchod. Bydd croeso i chi hefyd godi cwestiynau yn y digwyddiadau hefyd.

Byddwn yn uwchlwytho cymaint o’ch cwestiynau, gyda’r atebion, ar y dudalen Cwestiynau ac Atebion am y Gyllideb isod, drwy gydol y cyfnod ymgynghori.

Digwyddiadau ymgynghori cyllideb ar-lein:

Dydd Iau 2il Chwefror, 10am a 6pm (dwy sesiwn)

Cofrestrwch i gymryd rhan yn y naill neu’r llall o’r sesiynau rhithwir YMA, dim hwyrach nag awr cyn i’r digwyddiad yr hoffech ei fynychu i fod i gael ei gynnal. Bydd dolen i ymuno â’r digwyddiad yn cael ei e-bostio atoch chi.

Gallwch gyflwyno eich cwestiynau o flaen llaw neu eu codi yn ystod y sesiwn. I’r rhai na allant ymuno â’r digwyddiadau, bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu huwchlwytho i’r dudalen hon ar ôl i’r digwyddiadau gael eu cynnal.

Datganiadau i’r wasg isod:

Mae’r holl ddogfennau ategol o ran cynigion y gyllideb i’w gweld ar yr Agenda ar gyfer y Cabinet ar Ddydd Mercher, 18fed Ionawr, 2023, 5.00 pm (monmouthshire.gov.uk/cy) o dan eitem 6.

Datganiadau i’r wasg isod:

Ymgynghoriad ar y gyllideb yn ystod argyfwng costau byw  

Erthygl wedi ei diweddaru: 

Mae’r argyfwng costau byw yn heriol i bawb – gan gynnwys y Cyngor. Mae Cyngor Sir Fynwy yn wynebu pwysau digynsail o ran costau, sef £26m. Mae costau ynni, chwyddiant a chynnydd mewn prisiau, codiadau mewn cyflog a chyfraddau llog cynyddol oll yn ffactorau sydd yn cyfrannu at hyn. Bydd y Cabinet yn cwrdd ar 18fed Ionawr er mwyn cytuno ar strategaeth i fynd i’r afael gyda’r pwysau yma. Mae hyn yn cynnwys hwb o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd yn uwch na’r disgwyl, newidiadau mewn gwasanaeth, effeithlonrwydd staffio, cynnydd mewn ffioedd a chynnydd yn lefel  y dreth gyngor. Bydd cymunedau Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar y newidiadau arfaethedig yma yn ystod proses ymgynghori agored a fydd yn dechrau ar ddydd Mercher 18fed Ionawr ac ar agor tan 12pm ar ddydd  Iau 16eg Chwefror.

Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd: “Yn y gyllideb hon, rydym yn benderfynol ein bod yn gwneud pob dim posib er mwyn cefnogi ein cymunedau yn ystod yr argyfwng costau byw, a hynny er yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn wynebu.   

“Mae hon yn gyllideb sydd dal yn cyflenwi ein blaenoriaethau craidd. Mae ein cynllun Cymunedau a Chorfforaethol drafft wedi ei lywio gan gynigion y gyllideb. Mae cynigion y gyllideb yn cynnig y dechrau gorau posib i blant mewn bywyd, gyda mwy o arian i ysgolion a’r sawl sydd angen gwasanaethau a chymorth ychwanegol. Byddwn yn parhau i gefnogi ein trigolion hŷn i gadw eu hannibyniaeth. Byddwn yn sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn cael eu cefnogi tra’n amddiffyn ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, gan ein bod yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn chwarae o ran llesiant ein cymunedau. Mae ein hymrwymiad i foderneiddio ein hysgolion yn parhau a’n bwriad i weithio tuag at Sir Fynwy carbon isel drwy fuddsoddi’n barhaus mewn llwybrau seiclo, ffyrdd a llwybrau cerdded a band eang gwell. 

“Mae hefyd yn gyllideb sydd yn edrych tua’r dyfodol ac yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa fel bod modd i ni fynd i’r afael gyda rhai o’r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein sir a’n cymdeithas yn fwy cyffredinol. Ein ffocws yw gwneud Sir Fynwy yn:

Lle teg i fyw lle y mae effaith anghydraddoldeb a thlodi wedi eu lliniaru

Lle gwyrdd i fyw a gweithio gyda llai o allyriadau carbon, yn gwneud cyfraniad positif i fynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd a natur

Lle ffyniannus ac uchelgeisiol, yn llawn gobaith a mentergarwch

Lle diogel i fyw lle y mae pobl yn meddu ar gartref a chymuned a’n teimlo’n ddiogel

Lle sydd wedi ei gysylltu, lle y mae pobl yn teimlo’n rhan o gymuned, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cysylltu ag eraill

Lle sy’n dysgu, gyda phawb yn cael y cyfle i wireddu eu potensial.”

Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Rydym yn bles iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau sydd yn wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru. Er nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian digonol gan Lywodraeth y DU er mwyn medru mynd i’r afael gyda’r heriau ariannol sydd yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, mae cynnydd o 9.3% yn ein setliad i’w groesawu ac yn fwy na’r hyn yr oeddwn yn disgwyl – mae’n golygu ein bod wedi medru amddiffyn gwasanaethau pwysig yn well, fel cyllidebau gofal cymdeithasol ac ysgolion.

“Mae Sir Fynwy yn parhau i ddibynnu ar incwm y dreth gyngor yn fwy nag unrhyw Gyngor arall yng Nghymru. Yn sgil natur yr her, mae’n anochel y  bydd hyn yn cynyddu, er ar raddfa sy’n llai na chwyddiant. Rydym yn cynnig cynnydd yn y dreth gyngor o  5.95% ar gyfer 2023-2024. Mae’r dreth gyngor yn ffynhonnell allweddol o incwm sydd yn caniatáu’r Cyngor i gynnal gwasaanethau a diwallu anghenion trigolion, yn enwedig y sawl sydd yn fwyaf bregus.

“Mae’r cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sydd yn cynnig cymorth i’r sawl sydd ar incwm isel neu’r sawl sydd yn derbyn budd-daliadau, dal ar gael ac mae aelwydydd person sengl hefyd yn gymwys i dderbyn gostyngiad o 25% ar y dreth gyngor.  

“Bydd y rhan fwyaf o ffioedd yn cynyddu. Bydd  ffioedd ar gyfer gofal cartref a  gofal preswyl dal yn ddibynnol ar brawf modd ac wedi eu cyfyngu er mwyn cyfyngu’r effaith ar y sawl sydd ar yr incwm isaf. 

“Mae’r Cyngor yn parhau i arwain drwy esiampl drwy ymrwymo i dalu’r  Cyflog Byw Gwirioneddol sydd wedi gosod gan y  Living Wage Foundation. Y bwriad ar gyfer 2023-2024 yw ymestyn hyn i gynnwys yr holl leoliadau hynny lle y mae gofal wedi ei gomisiynu. Dylai pawb sydd yn cael eu talu i ddarparu gofal  yn Sir Fynwy gael eu talu’n deg.”

Rydym yn annog trigolion i rannu eu barn ar y cynigion sydd ar gael yma Cyllideb 2023-2024 – Monmouthshire

Bydd digwyddiadau ymgynghori wyneb i wyneb yn cael eu cynnal ar hyd a lles Sir Fynwy fel a ganlyn:

Dydd Llun 23ain Ionawr, 6pm. Hyb Cil-y-coed, Ffordd Woodstock Way, Cil-y-coed

Dydd Mawrth 24th Ionawr, 6pm. Hyb Cas-gwent, Manor Way, Cas-gwent

Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 6pm. Hyb Brynbuga, 35 Stryd Maryport, Brynbuga

Dydd Iau, 26ain Ionawr, 6pm. Neuadd y Sir, Trefynwy

Dydd Mawrth 31ain Ionawr, 6pm. Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru, Magwyr

Dydd Mawrth 7fed Chwefror, 6pm, Hyb y Fenni, y Fenni

At hyn, mae dwy sesiwn ar-lein yn cael eu cynnal ar y gyllideb ar ddydd Iau, 2ail Chwefror  am 10ama 6pm. Mae modd cofrestru er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiadau rhithwir drwy fynd i’r dudalen ar y gyllideb ar wefan y Cyngor a byddwn yn danfon e-bost i chi gyda dolen er mwyn ymuno gyda’r digwyddiad. Mae modd i chi gyflwyno eich cwestiynau o flaen llaw neu yn ystod y sesiwn. Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu lanlwytho i’r wefan fel bod modd eu gwylio ar iddynt gael eu cynnal, a hynny ar gyfer y sawl na sydd yn medru mynychu’r sesiynau. 

Fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd ar agor tan 12pm ar 16eg Chwefror 2023, mae trigolion hefyd yn cael cyfle i rannu eu barn  drwy gyfrwng adborth a fydd ar gael gyda’r cynigion – Cyllideb 2023-2024 – Monmouthshire

“Mae’r rhain yn gynigion drafft ac rydym am gael gwybod beth yw eich barn. Felly, ewch darw i’n gwefan o’r 18fed Ionawr er mwyn cael dweud eich dweud,” ychwanegodd y Cyngh. Brocklesby.

Cyngor Sir Fynwy yn croesawu newyddion o’r cynnydd mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ond mae heriau sylweddol yn parhau

14/12/22

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cadarnhad heddiw gan Lywodraeth Cymru y bydd yn derbyn cynnydd o 9.3% yn ei gyllid craidd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cymharu gyda  chyfartaledd o 7.9% ar gyfer Cymru – mae Cynghorau ar draws Cymru wedi bod yn derbyn setliadau sydd yn amrywio  o 6.5% i 9.3%.  Mae’r newyddion hyn wedi ei groesawu ac yn mynd i leihau’r angen am nifer o arbedion a fyddai fel arall wedi effeithio ar wasanaethau.    

Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd: “Mae hyn yn setliad gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraethau lleol gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cydnabod y rôl anhygoel y mae ein gwasanaethau lleol yn chwarae ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Rwyf yn gwerthfawrogi bod Gweinidogion Cymru wedi gwrando arnom fel arweinwyr y Cynghorau.  Nid oedd datganiad yr Hydref gan y Canghellor yn ddigon i amddiffyn cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus rhag yr heriau anhygoel sydd wedi ei achosi gan rai o’r lefelau chwyddiant uchaf erioed. Mae hyn yn dangos beth sydd yn medru cael ei gyflawni ar ran cymunedau yng Nghymru pan mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio.

“Er y cynnydd yn y cyllid y flwyddyn nesaf, mae’r Cyngor yn dioddef yn yr un ffordd â thrigolion gan ein bod yng nghanol argyfwng costau byw. Mae’r galw ar wasanaethau a’r pwysau chwyddiant dipyn yn fwy na’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bydd dal rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau’n hyfyw a’n gynaliadwy. Bydd ein ffocws ar barhau i amddiffyn y rhai hynny sydd  yn fwyaf bregus ac sydd yn anghenus ar draws Sir Fynwy.”

Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Mae’r setliad cychwynnol wedi cynnig  hanner achubiaeth i’r Cyngor. Mae gwasanaethau yn parhau o dan bwysau sylweddol ac rydym yn gweld bod y cyllid gan Lywodraeth y DU yn parhau  dipyn yn is na chwyddiant a’r galw am wasanaethau. Tra bod y setliad ychydig yn uwch na’r cyfartaledd a bod hyn i’w groesawu, rhaid i ni gydnabod bod y Cyngor dal ar waelod y tabl o ran cyllid y pen sy’n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sydd  yn golygu bod rhaid i’r Cyngor gasglu cyfran uwch o’i gyllid drwy y dreth gyngor a ffynonellau eraill, a hynny o’i gymharu gyda Chynghorau eraill.”

Bydd cynigion cyllideb drafft y Cyngor yn cael eu hystyried gan y  Cabinet mewn cyfarfod ar 18fed Ionawr 2023 ac yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y gymuned leol a mudiadau partner wedyn yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion mewn digwyddiadau wyneb i wyneb, digwyddiadau ffrydio byw Teams neu ar-lein. Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor –  monmouthshire.gov.uk – a bydd manylion am y digwyddiadau ymgynghori a gwybodaeth am yr arolwg yn cael eu rhannu yn y Flwyddyn Newydd.”    

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/meysydd-parcio/ein-meysydd-parcio/