Skip to Main Content

Cynhaliwyd digwyddiad tyfu eich cynnyrch eich hun gan y Rhwydwaith Gweithredu Cymunedolyng Nghanolfan Gymunedol Bulwark. Trefnwyd gan dîm Be Community Cyngor Sir FynwyaGAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent), cefnogwyd y digwyddiad gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Anelwyd y gweithdy at unrhyw un, neu unrhyw grwpiau cymunedol, sydd â diddordeb mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy neu sydd eisoes yn tyfu eu cynnyrch eu hunain. Roedd hyfforddiant am ddim ar gael ar wneud compost organig a’r defnydd helaeth y gellir ei wneud ohono, garddio ‘dim palu’ a gwella iechyd y pridd, a gwneud eich sauerkraut eich hun.

Angharad Underwood o’r Gymdeithas Cadwraeth oedd siaradwr gwadd y sesiwn. Mae Angharad yn cynhyrchu jam ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae hi’n rhedeg cyrsiau ledled Cymru a dechreuodd Glwb Coginio i blant,gan ddysgu plant cynradd i goginio gyda’u teuluoedd.

Mae Rhwydweithiau Gweithredu Cymunedol yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr rwydweithio, cronni adnoddau a chydweithio.

“Mae Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol Cas-gwent yn grymuso ac yn cefnogi prosiectau cymunedol, er budd pobl a’r amgylchedd fel ei gilydd. Trwy ddysgu sut i dyfu ein bwyd ein hunain, gallwn helpu i leihau effaith amgylcheddol cludo bwyd. Ac mae bwyd cartref yn iach ac yn flasus.”

avatar

Y Cynghorydd. Catrin Maby

Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

“Da iawn clywed awgrymiadau ar sut i gadw bwyd a lleihau gwastraff.

Fel rhiant, mae’n ddiddorol clywed pa mor bwysig yw annog plant ifanc i ddod i’r gegin i baratoi bwyd.”

“Bore addysgiadol a llawn hwyl wrth wneud compost.

Wedi darganfod beth rydw i wedi bod yn ei wneud yn anghywir. Edrych ymlaen at wneud hyn yn fy ngardd fy hun.”

“Rhaid mynychu heb os.

Hyfforddiant gwych a chyfle gwych i rwydweithio”

Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol neu’n wirfoddolwr lleol, ac os hoffech chi drefnu digwyddiad rhwydweithio a dysgu wedi’i deilwra i’ch ardal chi, rydym yn eich gwahodd i rannu eich syniadau gyda ni. Gadewch i ni gyd-greu digwyddiad ystyrlon gyda’n gilydd! Estynnwch allan heddiw i droi eich gweledigaeth yn realiti.

fredweston@monmouthshire.gov.uk 
T: 07890 559566