Skip to Main Content

Mae disgyblion ysgolion cynradd Sir Fynwy yn dysgu sut i greu prydau bwyd blasus i’r holl deulu, gan ddysgu sgiliau coginio sylfaenol a diogel diolch i Cookalong Clwb ar-lein Angharad Underwood.

Mae’r Cookalong Clwb yn gweithio gydag ysgolion cynradd Sir Fynwy, lle gall teuluoedd gofrestru i gymryd rhan. Bob wythnos bydd Angharad, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn rhoi bag o gynhwysion, ffedog ac offer sylfaenol i bob teulu sy’n cymryd rhan, gyda rysait yn seiliedig o amgylch pryd o fwyd twym. Ar ôl derbyn blychau hael o ffrwythau a llysiau cymysg ffres gan Lidl bob wythnos, mae’r Cookalong Clwb yn rhoi hyd yn oed fwy o greadigrwydd a rhannu rysetiau.

Gan ddechrau ym mis Ebrill 2021, roedd y Cookalong Clwb yn addo rhoi cyfle i blant arwain yn y gegin, gan eu galluogi i ddefnyddio offer cegin yn ddiogel. Cafodd yr hyn a olygwyd yn wreiddiol i fod yn goginio wyneb-i-wyneb mewn ysgolion ei atal gan y pandemig, ond ni wnaeth hynny rwystro Angharad. Symudodd y Clwbalong Clwb ar-lein ac mae’n dod yn boblogaidd tu hwnt gyda theuluoedd yn ysgolion cynradd Sir Fynwy.

Mae Angharad yn darparu dalenni gyda chyngor da ac awgrymiadau, a all fod o fudd i rieni sy’n cymryd rhan. Maent yn cynnwys cyngor ar rewi ffrwythau a llysiau i’w defnyddio yn nes ymlaen, yn ogystal â chadw bwyd a phopeth y gallwn ei wneud i leihau gwastraff bwyd a gwneud prydau bwyd blasus.

Dywedodd Angharad wrthym: “Yn ystod y cyfnod clo cyntaf dechreuodd fy merch Pip a finnau glwb cinio Cookalong Dydd Llun lle roeddem yn canfod rysetiau yr oeddem eu hawydd, tebyg i bryd pob Greggs, a’u rhannu am 12pm ar ddydd Llun. Byddem yn postio’r rysait a’r cynhwysion ychydig o ddyddiau ymlaen llaw a byddai pobl yn coginio gyda ni a gwneud eu cinio eu hunain.”

“Roedd oedoilion yn diolch i ni am eu dysgu nhw a’u plant, a wnaeth i ni sylweddoli fod yn rhaid i ni rannu mwy. Roeddem wedi meddwl i ddechrau i wneud y Cookalong Clwb yn fyw mewn clwb ar ôl ysgol ond mewn gwirionedd, wrth gynnal y Cookalong Clwb ar-lein, mae teuluoedd yn coginio yn eu cartrefi eu hunain yn llawer mwy cyfleus  a rhwydd.”

Wedi’i ariannu gan Grant Diogelwch Bwyd Llywodraeth Cymru, mae’r Cookalong Clwb yn rhan o brosiect mwy sy’n anelu rhoi cyfle i breswylwyr Sir Fynwy i gael mynediad i fwyd ffres ac offer. Mae’r cyllid hwn wedi galluogi’r cyngor i ddatblygu cynlluniau i ddatblygu gofodau tyfu bwyd cymunedol yn y sir. Ymhellach, mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer mwy o Oergelloedd Cymunedol yn Sir Fynwy, sef mudiad a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr ac sy’n ailddosbarthu bwyd maethlon sydd dros ben i’r holl gymuned, gan atal bwyd da rhag mynd i domen lanw.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavla, Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae’n wych gweld disgyblion yn Sir Fynwy yn dysgu’r sgiliau bywyd pwysig hyn mor gynnar. Gallai prosiect fel y Cookalong Clwb agor drysau ar gyfer dyfodol y plant yma. Mae’n ymddangos eu bod i gyd yn cael amser gwych yn coginio fel teulu ac rwy’n gobeithio gweld y prosiect yn tyfu.”

Meddai’r Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol: “Mae’r Cookalong Clwb yn brosiect gwych sy’n rhoi cyfle i blant fod yn greadigol yn eu ceginau eu hunain. Mae’n galonogol gweld faint y maent yn mwynhau’r broses goginio ei hun ac yn mwynhau ffrwyth eu llafur. Diolch i Angharad a’r holl wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect gwerth chweil hwn.”

Mae Ysgol Gatholig Santes Fair, Ysgol Gynradd Thornwell, Ysgol Gynradd Dell ac Ysgol Gynradd Pembroke ymhlith yr ysgolion a gymerodd ran, gyda chynlluniau i gyrraedd mwy o ysgolion yn Sir Fynwy yn fuan.

Nod y cyngor yw sicrhau cyllid ychwanegol i wneud y prosiect hwn yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hirach a’i ymestyn ar draws holl ysgolion y sir. Mae angen llawer mwy o wirfoddolwyr mewn ysgolion, felly os oes gennych ddiddordeb mewn ysbrydoli plant yn y gegin, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at:  angharad@thepreservationsociety.co.uk.