Croeso i’n parth Dysgu o Bell!
Ar gyfer pwy mae hyn?
Cafodd yr adran hon ei chynllunio i’ch helpu os ydych chi’n rhiant/ofalwr, person ifanc neu weithiwr proffesiynol seiliedig mewn ysgol yn edrych am wybodaeth/ adnoddau/strategaethau i gefnogi naill ai eich sgiliau llythrennedd eich hun neu rywun arall yn ystod y cyfnod hwn pan na all ein pobl ifanc fynychu eu hysgolion a’u gosodiadau arferol.
Pam?
Ein blaenoriaethau yw rhai Llywodraeth Cymru fel a nodir yn eu datganiad polisi Parhad Dysgu: Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu:
- diogelwch ein holl ddysgwyr a’n gweithlu addysg
- iechyd a lles corfforol a meddwl ein holl ddysgwyr a’n gweithlu addysg
- gallu ein holl ddysgwyr i ddal ati i ddysgu
- pontio dysgwyr yn ôl i’r ysgol ac i gam nesaf eu dysgu pan ddaw’r amser..
Dyma’r ddolen i Ddatganiad Polisi Parhad Dysgu: Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu:
https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-04/stay-safe-stay-learning.pdf
Beth?
Byddwch yn canfod:
- amrywiaeth o adnoddau diddorol yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cyfeirio at feysydd dysgu digidol a safleoedd llythrennedd y byddem yn eu hargymell
- gwersi PowerPoint a gynhyrchwyd gan ein tîm arbenigol
- heriau a thasgau a osodwyd gan ein tîm arbenigol gyda thystysgrif ar ôl gorffen
- gemau
- cyngor ar strategaethau llythrennedd a dulliau i gefnogi dysgwyr
Nodyn terfynol:
Gobeithiwn y byddwch yn hoffi’r hyn a welwch yma. Byddwn yn diweddaru’r adran hon o’n gwefan yn aml ac felly ni fydd yn aros yn sefydlog. Anelwn wella’r adran hon wrth i ni symud ymlaen.
Er mwyn i ni wneud yn hyn yn y ffordd fwyaf effeithlon, gadewch i ni wybod beth yw eich barn ohoni hyd yma a sut y gallem wneud yn well. A oes unrhyw beth yn
neilltuol yr hoffech ei weld yma er enghraifft? Unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn?
Os felly, cysylltwch â ni gyda’ch adborth os gwelwch yn dda, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Twitter: @MonSpLD

e-mail :Ruthdavies@monmouthshire.gov.uk