Skip to Main Content


COFRESTRU AM GASGLIADAU GWASTRAFF GARDD 2026  

 Mae Sir Fynwy yn cynnig casgliad gwastraff gardd bob bythefnos yn defnyddio biniau olwyn 240 litr. 

Y gost fesul bin ar gyfer tymor 2026 yw £55. 

DALIER SYLW: Er mwyn cadw casgliadau gwastraff gardd ar y gost bresennol o £55, ni fydd unrhyw gasgliad ychwanegol ym mis Ionawr 2027. 

EICH CASGLIAD GWASTRAFF GARDD 2026  

  • Caiff pob bin ei gasglu unwaith bob bythefnos o 2 Mawrth 2026 i 4 Rhagfyr 2026. Mae’n rhaid i gwsmeriaid ddefnyddio’r un biniau â’r llynedd.  

 

  • CWSMERIAID NEWYDD / ARCHEBION AM FINIAU YCHWANEGOL 

Bydd cwsmeriaid newydd neu’r rhai sy’n archebu mwy o finiau na’r llynedd yn derbyn eu bin/iau o fewn 14 diwrnod o’u harchebu. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 13 Chwefror 2026 i sicrhau eich bod yn derbyn eich bin cyn i gasgliadau ddechrau. 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer hawlen drwy’r post o fewn 14 diwrnod. Mae’n rhaid i chi roi’r sticer hawlen ar eich bin gwastraff gardd i ddangos eich bod wedi cofrestru am wasanaeth eleni. 

 

  • CWSMERIAID PRESENNOL 

Caiff eich hawlen newydd ar gyfer 2026 ei hanfon atoch drwy’r Post Brenhinol. Gofynnir i chi ailgofrestru erbyn 13 Chwefror 2026 i roi digon o amser i’ch hawlen newydd gyrraedd cyn i’r casgliadau ddechrau. 

Mae’n rhaid i chi roi’r hawlen ar eich bin gwastraff gardd i ddangos eich bod wedi cofrestru am wasanaeth eleni. 

  • Dim ond o finiau sy’n dangos sticer tanysgrifio gwastraff gardd y bydd y cyngor yn casglu gwastraff gardd. 

Efallai y bydd eich diwrnod casglu gwastraff gardd wedi  newid ers y llynedd, i wirio eich diwrnod casglu ewch i – https://maps.monmouthshire.gov.uk/  

Calendr Gwastraff Gardd 2026


Bydd angen i chi fewngofnodi i ‘Fy Sir Fynwy’ i dalu am y gwasanaeth gwastraff gardd. Bydd gennych gyfrif eisoes os oeddech yn gwsmer gwastraff gardd y llynedd. 

Bydd angen i chi gofrestru os nad oes gennych gyfrif yn barod. 

  • Os ydych yn methu cofrestru ar fy Sir Fynwy gyda’ch cyfeiriad e-bost: Os yw’r neges camgymeriad yn dweud ‘Mae’r cyfeiriad e-bost yma yn bodoli eisoes’ efallai eich bod eisoes wedi cofrestru gyda ni neu fod y tîm gwasanaethau cwsmeriaid wedi’ch cofrestru. I ailosod eich cyfrinair gyda’r cyfeiriad e-bost hwnnw, cliciwch y botwm ‘Anghofio Cyfrinair’ dan y sgrîn mewngofnodi. 

Os ydych yn cael anhawster defnyddio Fy Sir Fynwy, darllenwch Cwestiynau Cyffredin Fy Sir Fynwy i gael help –Cwestiynau Cyffredin Fy Sir Fynwy – Sir Fynwy 

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2026


Ffyrdd eraill i dalu  

Gallwch gofrestru a thalu dros y ffôn drwy ffonio ein canolfan gyswllt ar 01633 644644. Gofynnir i chi nodi fod ein llinellau ffôn brysuraf yn y boreau ac ar ddyddiau Llun. 

Gallwch hefyd gofrestru a thalu wyneb yn wyneb yn un o’n Hybiau Cymunedol Lleol.


Cwestiynau cyffredin casgliadau gwastraff gardd 

Pryd fedraf i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn 2026?

Agorodd cofrestru ar gyfer y cyhoedd ar 19 Ionawr 2026.  
Mae cyfnod y gwasanaeth casglu yn dechrau ar 2 Mawrth 2026. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Gwener 13 Chwefror 2026 i fod yn barod ar gyfer eich casgliad cyntaf. 

Mae’r cyfnod cofrestru yn gorffen ar 31 Awst 2026. 

Pryd gaiff fy min ei ddosbarthu?

Disgwylir i gwsmeriaid newydd sy’n archebu’r un nifer o finiau â’r llynedd ddefnyddio’r biniau sydd ganddynt eisoes. 

Bydd cwsmeriaid newydd neu’r rhai sy’n archebu mwy o finiau na’r llynedd yn cael eu bin/iau o fewn 14 diwrnod o archebu. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Gwener 13 Chwefror 2026 i sicrhau eich bod yn derbyn eich bin cyn i’r casgliadau ddechrau. 

Pryd gaiff fy sticer hawlen ei ddosbarthu a lle dylwn ei roi?

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer trwydded o fewn 14 diwrnod drwy’r post. Rhaid i chi roi’r sticer trwydded ar eich bin gwastraff o’r ardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni. Os na fyddwch yn derbyn eich sticer trwydded o fewn 14 diwrnod, cysylltwch â ni.

Rhaid i chi osod y sticer o dan handlen y bin olwynion. Ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd o finiau nad ydynt yn arddangos eu sticer tanysgrifio gwastraff o’r ardd.

Pam nad ydw i wedi derbyn e-bost cadarnhau ar ôl i mi dalu am Wastraff Gardd Gwrydd?

Efallai bod hwn wedi disgyn i’ch ffolder sothach, ac elly gwiriwch yma yn eich e-byst yn gyntaf.

Byddem hefyd yn awgrymu eich bod yn gwirio eich banc i wneud yn siŵr bod y taliad wedi ei brosesu a chysylltu ffoniwch 01633 644644 os nad ydych wedi derbyn cadarnhad e-bost ond wedi gwneud taliad.

A allaf dalu ar ran rhywun arall? ▼

Medrwch. Gofynnir i chi wneud yn siŵr mai’r cyfeiriad dosbarthu yw’r cyfeiriad yr hoffech i’r Gwastraff Gardd Gwyrdd gael ei gasglu ohono. 

Rwy’n cael problemau yn talu ar-lein, beth fedraf i ei wneud?

Os cewch neges camgymeriad yn ystod y broses talu, holwch eich darparydd cerdyn i sicrhau na chafodd y taliad ei gymryd cyn rhoi cynnig arall. 

Awgrymwn ddefnyddio porwr rhyngrwyd arall (e.e. Google Chrome) neu roi cynnig yn defnyddio cerdyn banc arall. 

Os yw’r broblem yn parhau, ffoniwch 01633 644644. 

Cefais dderbynneb wedi methu, beth ddylwn i ei wneud?

Gofynnir i chi wirio os ydych hefyd wedi cael hysbyseb cadarnhau taliad drwy e-bost. Os cawsoch cadarnhad, cafodd eich taliad eich sicrhau. 

Os nad ydych yn derbyn yr e-bost cadarnhau yma, gallwch naill ai: 

1) Gwneud cais arall i dalu ar-lein.  

2) Ein ffonio ar 01633 644644 i gymryd eich taliad dros y ffôn 

Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth casglu gwastraff anstatudol y gellir codi tâl amdano. Gall y gwasanaeth adennill costau llawn casgliadau ond rhaid iddo beidio adennill costau ar gyfer yr elfen gwaredu. 

Pam nad yw’r dreth gyngor yntalu am y gwasanaeth yma?

Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth anstatudol y gellir codi tâl amdano lle mae preswylwyr yn dewis ei gael. Mae nifer o opsiynau ar gael i breswylwyr drin gwastraff gardd nad ydynt yn dewis cael y gwasanaeth, yn cynnwys compostio cartref (mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu compostwyr cartref am bris prynu drwy’r siop ail-ddefnydd), mynd â deunydd i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, compostio cymunedol mewn rhandiroedd sy’n cymryd rhan ac yn y blaen.  

Faint o dâl mae awdurdodau eraill yn ei godi?

Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff yn rhad ac am ddim. Fel arfer mae hyn lle mae’r awdurdodau lleol yn methu cyrraedd targedau ailgylchu ac angen mwy o wastraff gardd i gyrraedd y targed statudol. Mae pob awdurdod yn ariannu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn wahanol ac yn rhoi blaenoriaeth i gyllid yn seiliedig ar angen ehangach ar draws y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru o blaid codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd. 

Lle mae awdurdodau lleol yn codi tâl, mae’r gost yn debyg i Sir Fynwy. Yn 2025 y ffioedd gwasanaeth oedd: Powys £60, Fforest y Ddena £64, Bryste £54 a Sir Benfro £59 am gasglu bin 240 litr bob bythefnos. Mae llawer mwy o awdurdodau lleol yn adolygu codi tâl am wastraff gardd mewn ymateb i bwysau ar y gyllideb. 

Mae fy min wedi torri ac mae angen un arall. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd 2026 a fod eich bin wedi torri, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu bin arall i chi. Rhowch wybod i ni am y broblem ar ap ‘fy sir fynwy’ neu ffonio 01633 644644.  

Sut mae defnyddio bin olwyn?

Dylech gadw eich bin gwastraff gardd ar eich eiddo. Llenwch ef gyda gwastraff gardd, gan sicrhau fod y caead ar gau. Mae gan eich bin ddwy olwyn ar yr un ochr â’r handlen. Codwch y bin fel ei bod ar y ddwy olwyn a dylech fedru ei symud. Rhowch eich bin ar ochr y ffordd cyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad. Ewch â’r bin yn ôl i’ch eiddo ar ôl y casgliad. 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer hawlen drwy’r post o fewn 14 diwrnod. Rhaid i chi roi’r sticer hawlen ar eich bin gwastraff gardd i ddangos eich bod wedi cofrestru am wasanaeth eleni. 

Mae’n rhaid i chi roi’r sticer o dan handlen y bin olwyn. Ni fydd y cyngor yn casglu gwastraff gardd o finiau nad ydynt yn dangos sticer tanysgrifio gwastraff gardd. 

Beth yw maint y bin olwyn?

Y meintiau yw: 58.2cm lled (ymyl uchaf) x 72.4cm dyfnder x 106.6cm uchder (caead ar gau).    Mae gan y biniau olwyn gapasiti 240 litr.  
Mae bin olwyn yn dal yr un faint â 3 o’r hen fagiau brown (80 litr yr un).  

Pryd y caiff fy ngwastraff gardd ei gasglu?

Caiff pob bin ei gasglu unwaith bob bythefnos 2 Mawrth 2026 i 4 Rhagfyr 2026. 

Gall eich diwrnod casglu fod wedi newid o’r llynedd. Gallwch weld eich diwrnod casglu ar-lein yn – https://maps.monmouthshire.gov.uk/  

A fyddaf yn cael sticer hawlen i’w roi ar y bin olwyn?

Byddwch. Cewch lythyr a sticer hawlen drwy’r post o fewn 14 diwrnod ar ôl cofrestru. Mae’n rhaid i chi roi’r sticer hawlen ar eich bin gwastraff gardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni.  
Mae’n rhaid i chi roi’r sticer dan handlen y bin olwyn. Ni fydd y cyngor yn casglu gwastraff gardd o finiau nad ydynt yn dangos sticer tanysgrifio gwastraff gardd. 

Beth os nad oes gennyf le i gadw bin?

Yn gyffredinol, nid yw bin olwyn yn cymryd dim mwy o le na bagiau.  Os na fedrir cadw bin olwyn oherwydd nad oes lle rhwng tu blaen yr eiddo a’r briffordd gyhoeddus, byddwn yn gweithio gyda’n preswylwyr i sicrhau fod y gwasanaeth yn dal i fod ar gael iddynt.  Cysylltwch â’r cyngor drwy ffonio 01633 644644 os gwelwch yn dda.  

Beth os nad wyf yn medru symud bin?

Mae gan y biniau olwynion fel eu bod yn rhwydd i breswylwyr eu symud ac nid yw’n rhaid eu cario neu eu codi fel bag. Os na all unrhyw aelod o’r aelwyd yn gorfforol symud bin olwyn, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau fod y gwasanaeth yn dal i fod ar gael i chi. Cysylltwch â’r cyngor drwy ffonio 01633 644644 os gwelwch yn dda.  

Pam y cafodd y casgliad ychwanegol yn dilyn y Nadolig ei ddileu?

Ni fydd unrhyw gasgliad Gwastraff Gardd yn dilyn y Nadolig ym mis Ionawr 2027 er mwyn cadw’r casgliadau gwastraff gardd ar y gost bresennol o £55 y flwyddyn. 

Byddwn yn ymgynghori â chwsmeriaid yn ystod 2026 i lywio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys os hoffai’ cwsmeriaid gadw’r casgliad ychwanegol yn dilyn y Nadolig ym mis Ionawr ar gost uwch. Mae modd yn dal i fod i fynd â choed Nadolig a gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu drwy gydol cyfnod y gaeaf. 

Sut y gallaf reoli fy ngwastraff gardd gartref?

Bydd codi uchder torri llafnau a thorri gwair yn fwy aml heb gasglu toriadau glaswellt yn eich helpu i wrteithio’r tir a gostwng faint o wastraff sydd angen gwaredu ag ef.   
Mae compostio gartref yn ffordd rwydd i ddelio gyda thoriadau glaswellt, dail a thociadau gwrychoedd.  
Nid oes angen i chi gael bin compost, bydd neilltuo ardal fach ar gyfer tomen compost syml yn gwneud y tro. Bydd toriadau gwair yn pydru’n gyflym os yw mewn man heulog. Gall tomen compost gardd hefyd fod yn fanteisiol i bryfed a bywyd gwyllt ar adeg pan fo natur hefyd angen cartref. Gall darnau gwyllt o laswellt, gwrychoedd a chanopi coed  hefyd fod â rhan enfawr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.  

A allaf losgi fy ngwastraff gardd?

Gofynnir i chi beidio llosgi gwastraff gardd neu unrhyw wastraff arall. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi gweld cynnydd mawr mewn cwynion ac wedi gofyn i breswylwyr y sir fod yn gymdogion da yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae angen gwarchod pobl gyda phroblemau anadlu rhag ansawdd aer gwael, yn cynnwys mẁg o goelcerthi. 


Rheolau casglu  

Gwasanaeth gwastraff gardd tymhorol:  
Mae’r gwasanaeth gwastraff gardd yn gasgliad tymhorol a bydd yn gweithredu o 2 Mawrth i 4 Rhagfyr. Bydd 20 o gasgliadau posibl yn ystod y tymor.  

  • Gofynnir i chi roi eich biniau allan i gael eu casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu. 
  • Anfonir sticer hawlen i chi ar ôl cofrestru. Mae’n rhaid i chi roi’r sticer yma ar eich bin i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni. Ni fyddwn yn medru gwagio eich bin os nad oes gennych sticer hawlen. 
  • Rhaid i’r holl wastraff gardd fod tu mewn y bin (heb fod wedi ei orlenwi). 
  • Rhaid i’r bin gwastraff gardd beidio bod yn rhy drwm. Bydd yn rhaid i weithiwr y cyngor olwyno’r bin at y cerbyd casglu. Ni osodwyd terfyn pwysau. Mae’r cyngor yn cadw’r hawl i beidio gwagio’r bin os na all gweithiwr y cyngor olwyno’r bin yn ddiogel. 

Os cafodd y bin ei halogi gyda’r math anghywir o wastraff (e.e. gwastraff fwyd), mae’r cyngor yn cadw’r hawl i beidio gwagio’r bin. 


Gellir rhoi’r eitemau canlynol yn y bin gwastraff gardd:  

Ie, os gwelwch yn dda  Dim diolch: 
Toriadau gwair Pridd, cerrig, gro a rwbel 
Dail a rhisgl coed Canghennau mawr neu foncyff gyda diamedr dros 2” 
Planhigion, chwyn a blodau wedi eu torri Clymog Japan a llysiau’r gingroen ell 
Brigau a changhennau bach hyd at ddiamedr o 2% Gwastraff bwyd 
Gwelltach anifeiliaid llysieuol  Baw/gwasarn cathod, cŵn neu adar  


Sut I ddechrau Compostio

Yn ansicr beth i’w wneud â’ch gwastraff o’r ardd?

                   1.  Dechreuwch ei gompostio, nid yw’n cymryd llawer o le, mae’n hawdd ei wneud, a bydd
                        yn rhoi compost i chi i wasgaru’ch blodau a’ch llysiau, gweler y fideo isod

                    2. Storiwch ef nes bod casgliadau gwastraff gwyrdd yn ailddechrau

                    3. Codwch uchder llafnau eich peiriant torri gwair a gorchuddio’r toriadau yn ôl i’r ddaear  
                         yn  hytrach na’u casglu

                    4. Torrwch lai o’ch lawnt os gallwch chi a gadewch iddo dyfu

Sut i gompostio gwastraff gardd:  

  • Gwneud tomen fach o laswellt, dail a thociadau gwrych mewn man heulog os oes modd (fel ei bod yn pydru yn gyflymach) ac ar bridd 
  • Troi’n achlysurol gyda fforch gardd 
  • Gadael yr holl wastraff bwyd allan 
  • Gadael i’r pryfed wneud y gweddill 
  • Dylai’r compost fod yn barod mewn 12 mis 

Ac i helpu natur yn ystod yr argyfwng hinsawdd  

  • Gadael darnau bach gwyllt yn eich gardd 
  • Osgoi prynu chwynladdwyr a phlaladdwyr 
  • Caiff pryfed peillio eu denu i’ch gardd 
  • Bydd adar yn dilyn i chwilio am bryfed blasus 
  • Mae gwrychoedd, perthi a choed yn rhoi bwyd a chysgod i fywyd gwyllt 
  • Bydd gorchudd canopi coed yn helpu i ostwng llygredd aer ac effeithiau newid hinsawdd 

Cofiwch fod natur yn wyllt … a rydym angen natur nawr gymaint ag mae natur ein hangen ni 

Cyngor RHS ar wneud compost: https://www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=444  

Cyngor compostio  Henry Doubleday Garden Organic: https://www.gardenorganic.org.uk/compost  

Mae gan Henry Doubleday Garden Organic gyfres o ddalenni adnoddau gyda gwybodaeth i ddewis y dull compostio cywir ar gyfer eich sefyllfa chi:  https://www.gardenorganic.org.uk/sustainable-communities-resources