Skip to Main Content

Cyllid Addysg Gynnar

Cafodd nifer o osodiadau nas cynhelir eu cymeradwyo i ddarparu addysg gynnar. (Gallwch weld y rhestr lawn yma.) Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a chânt eu harolygu gan Estyn i sicrhau fod yr addysg a gynigiant o lefel dderbyniol.

Nid yw dalgylchoedd meithrinfedd yn berthnasol.

Gall rhieni ddewis naill ai feithrinfa mewn ysgol neu osodiad cymeradwy nas cynhelir yn Sir Fynwy.

Mae cyllid ar gael o ddechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed (diffinnir dyddiadau tymor fel 1 Ionawr, 1 Ebrill a 1 Medi pryd bynnag mae gwyliau ysgol).

Caiff y cyllid hwn ei osod ar hyn o bryd fel £10 y sesiwn (2 awr) am bump sesiwn yr wythnos, cyhyd â bod y sesiynau hynny ar ddyddiau gwahanol. Mae’r cyllid yn debyg i’r cyllid mae meithrinfeydd ysgol yn eu derbyn fesul disgybl rhan-amser. Caniateir i’ch plentyn fynychu pob gosodiad am ddwy awr y diwrnod yn rhad ac am ddim ond os yw’r sesiwn yn fwy na dwy awr a’ch bod yn dymuno i’ch plentyn aros am y sesiwn lawn sydd ar gael, bydd angen i chi dalu ffi atodol.

Bydd angen i ddarparwyr lenwi ffurflen hawlio yn rhoi manylion y plant a gofrestrodd yn y gosodiad ac yn cadarnhau eu dyddiad geni. Bydd angen i ddarparwyr ddilysu dyddiad geni plant drwy archwilio tystysgrif geni y plentyn.

Caiff darparwyr eu cyllido unwaith y tymor a bydd yr Awdurdod Lleol yn anelu i dalu i ddarparwyr o fewn pedair wythnos o dderbyn eu hawliad. Mae’n rhaid derbyn anfonebau o fewn tair wythnos o ddechrau’r tymor. Ni ddylid gofyn i rieni lofnodi ffurflenni cais rhieni cyn chwech wythnos cyn dechrau’r tymor. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwirio’r ffurflenni (anfonebau) a gyflwynir gan ddarparwyr i ddilysu’r cyfanswm hawliadau gyda manylion disgyblion.

Ni fydd unrhyw addasiadau i gyllid unwaith y mae’r darparydd wedi ei dderbyn; felly os yw’r plentyn yn gadael y gosodiad yn ystod y tymor, gall y darparydd gadw’r grant i gadw lefelau staffio am weddill y tymor hwnnw.

Os yw plentyn yn mynychu meithrinfa ysgol a gosodiad cymeradwy nas cynhelir, ni fedrir hawlio cyllid ar gyfer y gosodiad nas cynhelir gan y bydd y cyllid ar gyfer y plentyn hynny gyda meithrinfa’r ysgol. Fodd bynnag, gellir rhannu cyllid rhwng mwy na un gosodiad cymeradwy nas cynhelir am hyd at bum sesiwn yr wythnos, cyhyd â bod y sesiynau ar wahanol ddyddiau.

Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol ar gyfer lleoedd gofal plant, sy’n cynnwys rhieni sy’n derbyn budd-daliadau o unrhyw fath. Gall fod peth cymorth ar gael drwy lwybrau eraill, megis gofal plant di-dreth a’r 30 awr am ddim o ofal plant ar gyfer rhieni gwaith cymwys.

Os ydych angen mwy o wybodaeth ar gyllid Blynyddoedd Cynnar cysylltwch â’r Tîm Blynyddoedd Cynnar ar childcare@monmouthshire.gov.uk

Lawrlwythwch ein llyfryn Cymorth Ariannol i ganfod os ydych yn gymwys am unrhyw fath arall o gymorth: