Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Amerserlen Derbyniadau Uwchradd

Gwneud Cais O: 18 Medi 2026

Dyddiad Cau: 31 Hydref 2026 am 4pm

Hysbysir Rhieni Erbyn: 1 Mawrth 2027

Amerserlen Derbyniadau Cynradd:

Gwneud Cais O: 13 Tachwedd 2026

Dyddiad Cau: 15 Ionawr 2027 am 4pm

Hysbysir Rhieni Erbyn: 16 Ebrill 2027

Mae’r tîm Derbyn yn cymryd agwedd ragweithiol er mwyn sicrha ubod llythyrau cais yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol i rieni, gan roi gwybod lle bo’n bosibl pan fydd y rownd dderbyn yn agor. Anogir rhieni i ddefnyddio’r system ymgeisio ar-lein. Mae rheoliadau diogelu data yn ein rhwystro rhag cael mynediad i’r holl wybodaeth am ddisgyblion, ac felly byddem yn eich annog i gysylltu â ni os na fyddwch yn derbyn pecyn cais o fewn y cyfnodau a roddir yn yr amserlen uchod. I’ch atgoffa, cyfrifoldeb y rhieni yw gwneud cais am le ac i roi gwybod inni os bydd newid mewn cyfeiriad.

  • Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu a fydd yn parhau i fod heb eu cwblhau ar y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Mae’n hanfodol eich bod yn anfon eich ffurflen cyn y dyddiad cau er mwyn cynyddu’r posibilrwydd o gael lle yn yr ysgol sy’n ddewis cyntaf i chi.
  • Dylid gwneud unrhyw newid o ran dewis drwy anfon llythyr i’r Uned Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr. Bydd unrhyw ddewis a fydd yn cael ei newid ar ôl y dyddiad cau yn golygu y bydd y cais yn cael ei ystyried fel cais hwyr.
  • Mae’n rhaid i chi gynnwys eich rhif cyfeirnod Treth Gyngor ar y ffurflen gais. Bydd yr Awdurdod Lleol yn defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chadw gan Adran y Dreth Gyngor i wirio eich cyfeiriad.

  • Ar gyfer unrhyw geisiadau papur, dychwelwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau (gan gynnwys y dystiolaeth angenrheidiol) i’r Uned Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr ar 01633 644508 i drafod dewisiadau eraill.

Sicrhewch fod y ffurflen yn ein cyrraedd ni erbyn y dyddiad cau perthnasol. Os na fydd yn cyrraedd mewn pryd, efallai na chewch chi le yn eich dewis(iadau) cyntaf o ysgol.

Bydd y cynnig o le ysgol yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen gais ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Fodd bynnag, os yw rhiant/gofalwr yn gwybod cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddir eu bod yn annhebyg o barhau i fyw yn y cyfeiriad a gaiff ei nodi ar y cais, mae’n rhaid iddynt ein hysbysu, a chaiff manylion eu cais eu newid. Gellid diddymu unrhyw gynnig o le ysgol os canfyddir yn ddiweddarach na ddigwyddodd hynny.

Lle mae rhieni yn ein hysbysu adeg gwneud cais eu bod yn symud tŷ ac yn rhoi tystiolaeth i’r Awdurdod Lleol i ddilysu’r symudiad hwn, byddai unrhyw gynnig lle ysgol ar y sail hwnnw dan yr amgylchiadau fod yr ymgeisydd yn breswyl yn y cyfeiriad newydd adeg y bydd y

plant dan sylw yn dechrau’r ysgol. Gellid dileu unrhyw gynnig o le ysgol os canfyddir yn ddiweddarach na ddigwyddodd hynny.

Derbyn lle Ysgol

Pan dderbynnir cynnig lle ysgol, mae angen i rieni gadarnhau mewn ysgrifen eu bod yn derbyn y lle ysgol yma o fewn 14 diwrnod o hysbysiad o gynnig y lle ysgol. Gellir gwneud hyn drwy fewngofnodi i’r Porth Dinasyddion neu drwy anfon e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk. Gallai methiant i wneud hynny olygu y caiff y cynnig o le ysgol ei ddiddymu.

Symud Tŷ

Bydd angen i rieni sydd yn y broses o symud tŷ hysbysu’r Awdurdod

Lleol adeg gwneud cais am eu bwriad i symud ac i gyflwyno tystiolaeth i ddilysu eu cyfeiriad newydd, er mwyn i’r cyfeiriad yma gael ei ystyried. Tystiolaeth addas fyddai copi o’r cyfnewid contractau (ar gyfer prynu) neu drefniant tenantiaeth hirdymor (ar gyfer trefniadau rhentu), y mae’n rhaid eu derbyn cyn y dyddiad cau a gyhoeddir er mwyn cael eu hystyried yn gais ‘mewn pryd’. Byddai methiant i hysbysu’r Awdurdod Lleol am symud i gyfeiriad newydd cyn y dyddiad cau a gyhoeddir yn arwain at i’r cais gael ei drin fel ‘cais hwyr’.

Bydd angen i rieni/gofalwyr sydd yn y broses o symud ond na all ddilysu y symudiad cyn y dyddiad cau sicrhau y cyflwynir eu cais wedi ei gwblhau cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, a bod y cais yn rhoi gwybodaeth ar y bwriad i symud. Bydd yr Awdurdod Lleol yn cydlynu gyda rhieni/ gofalwyr am y symud arfaethedig er mwyn cael cadarnhad y sicrhawyd preswyliaeth yn yr eiddo newydd. Fodd bynnag, bydd angen i rieni roitystiolaeth i’r Awdurdod Lleol sy’n sicrhau eu newid cyfeiriad dim mwy na 6 wythnos cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd er mwyn i’r cyfeiriad newydd gael ei ystyried ar gyfer dibenion dyrannu.

Pan fo’r Awdurdod Lleol yn derbyn tystiolaeth i ddilysu symud eiddo ac yn defnyddio’r eiddo newydd ar gyfer dibenion dyrannu, caiff y cynnig o le ysgol ei seilio ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn yr eiddo adeg pan fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol. Gellid dileu unrhyw gynnig o le ysgol os canfyddir nad yw’r ymgeisydd yn breswyl yn yr eiddo adeg pan fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol. Gellid dileu unrhyw gynnig am le ysgol fel canlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth gyda’r uchod.

Newid annisgwyl mewn cyfeiriad

Pe byddai rhiant a gyflwynodd gais cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn ein hysbysu am newid annisgwyl mewn cyfeiriad a ddigwyddodd ers cyflwyno eu cais, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried ar sail ddewisol yr amgylchiadau dros y newid annisgwyl mewn cyfeiriad cyn penderfynu os yw’r cais yn un hwyr.

Yn anffodus, dim ond os rhoddir hysbysiad a thystiolaeth o’r newid cyfeiriad ddim mwy na 6 wythnos cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd y gall y cyfeiriad newydd gael ei ystyried ar gyfer dibenion dyrannu.

Cyfrifoldeb rhiant yw hysbysu’r Awdurdod Lleol am newid cyfeiriad sy’n digwydd o fewn y broses cais. Gallai methiant i wneud hynny arwain at ddileu unrhyw gynnig o le ysgol.

Rhannu Preswyliaeth

Os caiff preswyliaeth plentyn ei rannu rhwng dau riant, defnyddir y cyfeiriad lle mae’r plentyn dan sylw yn byw am fwyafrif yr wythnos ysgol ar gyfer dibenion dyrannu. Dyma’r cyfeiriad y dylid ei ddatgan ar y cais.

Fodd bynnag, os yw’r breswyliaeth yn gyfartal gyda’r ddau riant yn ystod yr wythnos ysgol, defnyddir y cyfeiriad lle telir y budd-dal plant ar gyfer dibenion dyrannu.

Dalgylchoedd ysgolion

Er bod byw o fewn dalgylch ar gyfer ysgol yn ffurfio elfen o’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, nid yw’n gwarantu lle ar y sail honno. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwrthod derbyn mwy na rhif derbyn yr ysgol os nad yw’r cais yn cydymffurfio gyda’r eithriadau a ganiateir a restrir.